Rhybudd am 'ddirywiad di-droi'n-ôl' i Gymru o doriadau'r BBC - gweinidogion

BBCFfynhonnell y llun, Getty Images
GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bydd niwed parhaol i'r ffordd y mae'r BBC yn ymdrin â Chymru os bydd y gorfforaeth yn bwrw ymlaen â thoriadau, mae prif weinidog Cymru a'r gweinidog diwylliant wedi rhybuddio.

Daw'r rhybudd mewn llythyr at Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Matt Brittin, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru.

Mae'r llythyr hefyd yn honni y gallai'r newidiadau arwain at y BBC yn torri ei rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus o dan ei Siarter Frenhinol.

Mewn ymateb, dywedodd Brittin bod y BBC yn cymryd ei rhwymedigaethau tuag at Gymru "yn ddifrifol iawn".

Ym mis Medi, cyhoeddodd BBC Cymru y byddai 58 o swyddi'n cael eu colli, yn ogystal â gostyngiad 20 awr mewn rhaglenni teledu, fel rhan o gynlluniau ar draws y DU i arbed £500m.

Ymhlith yr arbedion, bydd Dros Ginio ar Radio Cymru yn dod i ben, a hefyd Dros Frecwast ac Ar y Marc ar foreau Sadwrn.

Mae'r llythyr wedi'i lofnodi ar y cyd gan Rhun ap Iorwerth a gweinidog diwylliant Llywodraeth Cymru, Heledd Fychan, ac mae hefyd wedi'i anfon at ysgrifennydd diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy, a chyfarwyddwr cenhedloedd y BBC, Rhuanedd Richards.

Yn y cyfamser yn y Senedd, cyhoeddodd Heledd Fychan y bydd ymgyrch i recriwtio aelodau i Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru yn cael ei lansio y mis hwn, gyda bwriad i gynnal cyfarfod cyntaf y gweithgor ar ddechrau 2027.

Matt Brittin
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd Matt Brittin yr awenau fel cyfarwyddwr cyffredinol y BBC ym mis Mai

Ysgrifennodd Rhun ap Iorwerth a Heledd Fychan at Matt Brittin: "Mae'n bwysig ein bod yn mynegi ein pryderon, os gweithredir y newidiadau arfaethedig, y byddant yn arwain at ddirywiad di-droi'n-ôl yn y ffordd y mae'r BBC yn gwasanaethu pobl Cymru.

"Bydd gan y toriadau hyn oblygiadau sylweddol o ran cyflawni'r amcanion diwylliannol ac economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, yn enwedig o ystyried ein dymuniad, fel llywodraeth, i weithio tuag at gryfhau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru."

Ychwanegant eu bod yn deall bod y dirwedd yn y cyfryngau yn esblygu a bod arferion y gynulleidfa yn newid, ac maent yn "cydnabod" yr angen am "ddiwygio sylfaenol" ar y ffordd y caiff y BBC ei hariannu.

Ond maent yn rhybuddio: "Chi sydd i wneud y penderfyniadau ynghylch pa wasanaethau i'w hariannu, fel darlledwr annibynnol; fodd bynnag, rydym yn pryderu bod y newidiadau hyn mor sylweddol fel eu bod yn peryglu newid cymeriad strategol a darpariaeth rhai o wasanaethau'r BBC yng Nghymru yn sylfaenol.

"Rydym hefyd yn pryderu bod y cynigion yn peryglu creu sefyllfa lle gallai'r BBC fod yn torri'r amcanion cyhoeddus y mae wedi ymrwymo i'w cynnal yn y Siarter Frenhinol."

Mae'r Siarter Frenhinol yn ddogfen sy'n nodi amcanion a threfniadau llywodraethu'r BBC, ac mae'n cael ei hail-negodi bob 10 mlynedd.

'Cymru'n ganolog i genhadaeth y BBC'

Mewn ymateb, dywedodd Brittin: "Mae'r BBC yn cymryd ei rhwymedigaethau tuag at Gymru yn ddifrifol iawn.

"Mae Cymru'n ganolog i genhadaeth y BBC fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ac i'n rôl fel sefydliad sy'n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig.

"Fel y dengys ein hymateb i Bapur Gwyrdd y llywodraeth ar adolygiad y siarter, credwn fod yn rhaid i'r BBC barhau i wasanaethu pob cenedl yn y Deyrnas Unedig yn effeithiol, gan adlewyrchu eu bywyd democrataidd, diwylliannol ac ieithyddol, a sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli ar draws ein gwasanaethau.

"Mae Cymru'n hanfodol i'r weledigaeth honno.

"Mae BBC Cymru yn un o sefydliadau cenedlaethol pwysicaf Cymru."

Radio Cymru

Mae'r llythyr hefyd yn codi pryderon ynghylch cyllid i S4C, ac o ran darpariaeth radio, dywed: "Cododd y rownd gyntaf o arbedion arfaethedig nifer o bryderon difrifol.

"O ran BBC Radio Cymru, bydd y ddarpariaeth newyddion, adloniant a diwylliant yn cael ei lleihau'n sylweddol oherwydd y cynigion presennol.

"Mae'r un peth yn wir am BBC Radio Wales; yn ôl ein dealltwriaeth, bydd gostyngiad sylweddol tebyg yn nifer y rhaglenni nodwedd, a fydd yn peryglu ehangder y cynnig rhaglenni."

Yn ôl y llythyr, mae disgwyl i weinidogion Cymru gyfarfod â Brittin yn ddiweddarach y mis hwn.

Daw'r llythyr i ben gyda rhybudd, er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi siarter barhaol newydd, nad yw'r gefnogaeth honno'n "ddiamod".

Mae Rhun ap Iorwerth yn gyn-newyddiadurwr i'r BBC, cyn iddo gael ei ethol yn Aelod o'r Senedd yn 2013.

Mae Rhuanedd Richards yn gyn-brif weithredwr Plaid Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.