Gyrrwr lori 'gyda'i fab yn yr eiliadau olaf' cyn taro gwifren drydan

Andrew LloydFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Andrew Lloyd ar fferm Tan y Dderwen ym Metws-yn-Rhos ar 1 Mai

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bu farw gyrrwr lori o sioc drydanol ar ôl i ran o'i gerbyd daro gwifren drydan ar fferm, clywodd cwest.

Roedd Andy Lloyd, 56 oed o Fod Elian, Llanelian, Conwy, yn danfon llwyth i fferm gyda'i fab pan gyffyrddodd rhan o'i lori â gwifrau 11,000 folt uwch ei ben.

Clywodd cwest yn Rhuthun fod Mr Lloyd, oedd yn rhedeg busnes teuluol, wedi dringo i lawr o'r lori ac wedi cael sioc drydanol pan ddaeth i gysylltiad gyda gris fetel.

Cafodd ei ddatgan yn farw ar fferm Tan y Dderwen ym Metws-yn-Rhos ar 1 Mai, llai na mis cyn yr oedd fod i briodi.

Roedd mab 14 oed Mr Lloyd, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, yn y lori y diwrnod hwnnw er mwyn cael profiad gwaith.

Darllenodd yr Uwch Grwner John Gittins ddatganiad y bachgen, oedd yn dweud bod ei dad wedi symud y lori yn agosach at y lleoliad lle'r oedd contractwyr yn codi sied, er mwyn arllwys y llwyth. Cyffyrddodd braich crafanc ei lori â'r gwifrau pŵer.

Dywedodd y bachgen ei fod wedi trio dweud wrth ei dad, ond bod Mr Lloyd eisoes wedi gadael y caban.

'Gofalu'n dawel ond yn ffyrnig am y rhai o'i gwmpas'

Disgrifiodd contractwyr, oedd wedi gweld y digwyddiad, fflamau yn dod o deiars cefn y lori ac o esgidiau Mr Lloyd cyn iddo ddisgyn.

Yna sylwodd un dyn fod y bachgen yn y lori, gan ei helpu i adael yn ddiogel.

Ceisiodd un arall adfywio Mr Lloyd, tra bod trydydd yn ffonio am ambiwlans.

Clywodd y cwest fod Devon Locke, peiriannydd Scottish Power, wedi cael ei anfon i ymchwilio yn yr ardal, ar ôl toriad i'r cyflenwad trydan.

Gwelodd gerbydau'r gwasanaethau brys ar y fferm, a hefyd bod y lori yn dal i gyffwrdd yn y gwifrau oedd yn rhedeg uwchben y cae.

Daeth y Crwner i'r casgliad bod marwolaeth Andy Lloyd yn ddamwain, gan gydymdeimlo gyda'i deulu.

Dywedodd partner Mr Lloyd, Hayley Lloyd, ei fod wedi "treulio ei eiliadau olaf yn ei lori gyda'i fab wrth ei ymyl" a'i fod yn "gofalu'n dawel ond yn ffyrnig am y rhai o'i gwmpas".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.