Llywodraeth Cymru yn datgelu 'cam cyntaf' tuag at rymoedd darlledu

Y nod yw sefydlu'r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ar ddechrau 2028
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw o'r newydd am reolaeth dros ddarlledu, gan gyhoeddi'r hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel y "cam cyntaf" tuag at eu huchelgais i "roi llais i Gymru" yn y sector.
Mae grymoedd dros ddarlledu a chyfathrebu wedi'u cadw yn San Steffan, ond mae gweinidogion Plaid Cymru yn dweud nad yw "fframwaith darlledu ledled y DU yn addas ar gyfer realiti'r gwledydd sy'n gweithredu ar sail ddatganoledig".
Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu "Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru", a fydd, meddai, yn "defnyddio pob opsiwn posibl i ddiogelu a gwella darlledu a chyfathrebu yng Nghymru".
Mae cais wedi ei wneud i Lywodraeth y DU, sydd â chyfrifoldeb am y sector, ymateb.
Ar ran plaid Reform, dywedodd Louise Emery AS: "Nid yw darlledu wedi'i ddatganoli i'r Senedd, felly mae hwn yn ymarfer gwastraffus arall pan allai Plaid fod yn canolbwyntio ar y gwaith dyddiol o wella iechyd ac addysg yng Nghymru."
Dywedodd Paul Davies AS o'r Ceidwadwyr: "Nid ydym yn cefnogi datganoli darlledu. Yn hytrach nag ymgyrchu dros fwy o newid cyfansoddiadol, dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gyflawni yn y cyfrifoldebau sydd ganddi eisoes."

Roedd y cynllun yn rhan o faniffesto Plaid Cymru yn etholiad y Senedd.
Dywedodd Heledd Fychan AS, gweinidog cabinet dros ddiwylliant a chwaraeon, y byddai Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, yn "gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy'n codi ei llais.
"Rydym wedi clywed sefydliadau fel y Sefydliad Materion Cymreig a gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn galw am lais cryfach i Gymru ar faterion darlledu a chyfathrebu.
"Rydym yn gweithredu ar argymhellion panel arbenigol."
Dywedodd mai cronfa cyfryngau lleol Llywodraeth y DU yw'r "enghraifft ddiweddaraf o gynlluniau, sy'n ymwneud â ni ac y cytunwyd arnynt ar ein cyfer ni, nad oes gennym unrhyw ran yn eu llunio na'u gweithredu".
Y nod yw sefydlu'r awdurdod ar ddechrau 2028.
Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu yn ddiweddarach eleni, gyda chyllideb o £45,000, er mwyn rhoi cyngor i'r gweinidog ar sut y bwriedir i'r awdurdod weithredu, yn cynnwys cyngor ac argymhellion ar ei strwythur, ei statws, ei gylch gorchwyl, a'i weithgarwch ymchwil ac ymgysylltu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd2 Awst 2023
