Colli Islwyn Owen: 'Dagrau bob dydd am flwyddyn ond mae'n dod yn haws'

Disgrifiad,

Colli Islwyn Owen: Ei wraig Margaret yn 'cofio dal gobaith er yn gwybod bod rhywbeth mawr o'i le'

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori hon beri gofid

Roedd 4 Medi 2024 yn ddiwrnod y newidiodd bywyd Margaret Owen o Lanycil ger Y Bala am byth - bu farw ei gŵr Islwyn wedi iddo syrthio i danc slyri.

Ddwy flynedd wedi'r digwyddiad mae'n rhannu ei phrofiadau am y tro cyntaf ac yn sôn pa mor beryglus y gall bywyd fferm fod er gwaethaf sicrhau pob mesur diogelwch.

Mae oriau olaf dydd Mercher cyntaf Medi 2024 yn fyw iawn yn ei chof:

"Fel o'dd hi'n digwydd o'dd Islwyn yn hau fertiliser draw mewn fferm arall ac es i â cinio draw a gawson ni ginio yn y pick up gyda'n gilydd a tynnu coes - o'dd o'n awr fach neis," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Wedi i fi lenwi hot tub yr holiday let o'dd efo ni ar y pryd - mae'n cymryd dwy awr - es i nôl a pharatoi swper. Ond am 19:30 'oedd Islwyn ddim wedi cyrraedd... ambell waith fyddai fe ar y ffôn.

"Es i chwilio - o'dd y tractor yn rhedeg yn y slurry pit a dim byd arall i'w weld. O'dd 'na deimlad bod rhywbeth o'i le erbyn hyn achos o'dd e byth yn hwyr iawn i swper.

"Nes i ffonio Meilir drws nesa' ac wedi chwilio am dipyn ro'n i'n gwybod bod rhywbeth wedi digwydd a dyma ffonio'r heddlu.

"O'dd y cyfnod pan o'dd e ar goll yn ofnadw' - ti'n dal gobaith o hyd er bo ti'n gwybod bod rhywbeth serious wedi digwydd.

"Ond pan ddoth y firebrigade o'dd Meilir wedi ffindio fe. O'dd e wedi stopo'r tractor a chodi'r slurry mixer fyny a ddo'th Islwyn fyny efo'r slurry mixer.

"O'dd hi'n rhy hwyr i'w achub. O'n i'n meddwl ar y pryd mai methane o'dd wedi achosi fe ond ga'th e toxicology ar y lungs a dim methane o'dd e - wedi syrthio o'dd e. Mae hynny'n anodd i'w dderbyn."

Islwyn Owen a Margaret ar ddiwrnod eu priodas yn 2022Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Islwyn a Margaret ar ddiwrnod eu priodas yn 2022

Yn sgil y digwyddiad bu'n rhaid i Margaret werthu'r stoc a threfnu bod ffermwyr eraill yn rhentu mwyafrif y tir.

"Am dros flwyddyn o'dd dagrau yn dod bob dydd ac o'n i'n meddwl dwi'n mynd i fod fel hyn am byth ond mae'n dod yn haws," ychwanegodd.

Ddiwedd Awst 2026 bu tad a mab farw ger Northwich yn Sir Caer ar ôl cwympo i danc slyri, ac mae digwyddiadau o'r fath yn dwyn atgofion creulon i Margaret.

Mae ffigyrau diweddaraf y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dangos bod 22 o weithwyr wedi marw ar ffermydd ym Mhrydain yn ystod 2025/26 - y nifer uchaf o fewn degawd.

"Mae'n ymddangos fod pethau yn mynd waeth ac yn waeth", meddai Margaret.

"Mae pedwar o fewn pedair milltir i fan hyn wedi marw yn ystod y blynyddoedd diwethaf - mae'n frawychus yn tydi?

"O'dd Islwyn mor ofalus - yn un o'r ffermwyr prin hynny oedd yn gwisgo helmed.

"O'dd e'n ymwybodol o beryglon ffermio ac o'n i'n dweud o hyd 'bydd yn ofalus'."

Cofnododd y cwest i farwolaeth Islwyn ei fod wedi marw yn ddamweiniol. Roedd wedi dringo ar ben wal isel er mwyn cael mynediad at beiriant uwchben y pwll slyri a syrthiodd i'r tanc.

Mae Margaret yn credu bod ffermwyr yn aml yn gallu bod o dan dipyn o straen.

Er nad dyna achos marwolaeth Islwyn, roedd y rheolau sy'n gwahardd ffermwyr rhag gwasgaru slyri dros fisoedd y gaeaf a'r tywydd gwael yn ei boeni - rheolau y mae'r Gweinidog Amaeth Llyr Gruffydd AS am eu newid.

"Yn digwydd bod pan fu farw Islwyn mi o'dd 'na chydig o pressure yn sgil rheolau newydd y llywodraeth ynglŷn â slyri," ychwanegodd.

"Ro'dd y tywydd wedi bod yn wlyb ac o'dd problem gyda cymysgu'r slyri a gwagio'r slyri cyn i'r gwartheg ddod fewn - o'dd hi'n sefyllfa reit stressful."

'Balch bo fi wedi aros'

Mae Margaret yn dod yn wreiddiol o Flaenpennal ger Tregaron. Mae wedi treulio y rhan fwyaf o'i hoes yn yr ardal honno ond roedd hi'n benderfynol ei bod am aros ar y fferm yn Llanycil wedi marwolaeth Islwyn.

Yn gwmni iddi mae ei thad Idris Morgan, y cyn-bencampwr treialon cŵn defaid rhyngwladol.

"Dwi'n falch bo fi wedi aros yma. Dyma'r gymdeithas orau yn y byd. Mae'n gymdeithas Gymraeg - mae pawb wedi bod mor gefnogol. Fydden i byth yn meddwl symud o 'ma," ychwanegodd.

"Y bore ar ôl i Islwyn farw fe ddaeth ei ffrindiau yma ac adrodd straeon. O'n i'n chwerthin er bo ni'n torri'n calonnau.

"Mae ei ffrindiau dal yn gefnogol ac unrhyw help dwi isio maen nhw yma. Mae pobl wedi bod yn amazing i ddweud y gwir."

gwobrauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm Cefn Bodig yn llawn gwobrau gan gynnwys y rhai a gafodd ceffylau Margaret Owen yn y Sioe Fawr yn 2026

Erbyn hyn, cofio'r cyfnodau hapus sy'n bwysig i Margaret.

"Mae'n bwysig canolbwyntio ar yr atgofion neis - dyna be' sy'n dy gynnal di a rhaid bod yn bositif," meddai.

"Mae'r ceffylau sy' gen i wedi bod yn hynod bwysig - llusgo ti allan o'r gwely yn bore ac mae'r sioeau yn rhywbeth i ganolbwyntio arnyn nhw a dod ag ebolion bach i'r byd.

"I fi mae'n bwysg bod yn focussed yn hytrach nag eistedd lawr a phendroni. Dwi'n 'neud ymdrech bob dydd i fyw fy mywyd.

"Mae'r cyfan yn fy hitio i weithiau ond mae'n dod yn haws. Dwi'n medru gwenu rŵan a chwerthin drwy'r dagrau."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig