Galw am fwy o ymwybyddiaeth o yrfaoedd ym maes adeiladu Cymru

AdeiladuFfynhonnell y llun, Getty Images
GanGarry Owen
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae prinder sgiliau yn bryder yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Mae Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â phartneriaid a chyflogwyr lleol, wedi lansio prosiect i dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant.

Mae cynllun 'Codi Dyfodol Adeiladu' yn ceisio annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y sector, gan ganolbwyntio ar lwybrau crefft yn ogystal â rolau technegol a phroffesiynol.

Dywed pennaeth CWIC, Gareth Evans, fod angen "mynd i'r afael â'r diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o swyddi a rolau sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu".

'Persbectif cul ar gyfleoedd'

Mae'r cynllun yn cael ei gynnal gan CWIC ar y cyd â phartneriaid, gan gynnwys Menter Cymru Wledig, a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion, a chyflogwyr lleol.

Nid yw 'Codi Dyfodol Adeiladu' yn canolbwyntio ar lwybrau crefft yn unig, ond hefyd ar rolau cysylltiedig, technegol a phroffesiynol sydd, yn ôl y cynllun, yn aml yn cael eu hanwybyddu gan ddarpar ddysgwyr.

Mae'r rolau hyn yn cynnwys technoleg bensaernïol, rheoli adeiladu ac arolygu meintiau, yn ogystal â phroffesiynau crefft mwy cyfarwydd fel gwaith coed, gosod brics, plymio a phlastro.

Dywedodd Mr Evans: "Ledled Cymru, mae llawer o ddysgwyr yn cymryd yn ganiataol eu bod yn gwybod beth mae gyrfaoedd ym maes adeiladu yn ei olygu, ac yn aml gall hyn fod yn bersbectif cul ar gyfleoedd yn y diwydiant."

Wyn Harries
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wyn Harries yn cyflogi prentisiaid yn ei gwmni cynllunio yn Eglwyswrw

Mae cwmni Harries Planning yn Eglwyswrw, yng ngogledd Sir Benfro, yn ceisio ymateb i'r prinder sgiliau drwy gyflogi prentisiaid.

Dywedodd y perchennog, Wyn Harries, sy'n syrfëwr adeiladu siartredig, fod y sefyllfa o ran recriwtio gweithwyr wedi newid yn sylweddol ers i'r busnes ddechrau yn 1995.

"Pryd ddechreuon ni roedd adeiladwyr ar gael ymhob milltir sgwâr yng nghefn gwlad - erbyn heddi dy' nhw ddim ar gael.

"Mae'r hen fois wedi dod i ddiwedd eu hoes ac ma' pobl ifanc nawr yn edrych ar ddyfodol sy' ddim yng nghefn gwlad, ac mae hynny'n achosi tipyn o rwystr i ni."

Wrth geisio denu pobl ifanc i'r diwydiant, mae Wyn Harries yn credu bod mynd i ysgolion a cholegau yn ffordd dda o ddechrau newid meddylfryd disgyblion.

"Mae hyn yn rhoi cyfle i fi ateb eu cwestiynau nhw a rhoi addysg iddyn nhw sy'n bwrpasol ar gyfer adeiladwaith a rhannu gwybodaeth am y cyfleoedd profiad gwaith a phrentisiaethau, sy'n dangos ac yn rhoi hyder i'r disgybl bod dyfodol clir o'u blaen."

Elain James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elain James wedi bod ar brentisiaeth gradd gyda chwmni Wyn Harries ers y llynedd

Dechreuodd Elain James ar gwrs prentisiaeth gradd gyda chwmni Wyn Harries y llynedd.

"Fi'n cael gradd a hefyd profiad ymarferol yn y gweithle, ac mae hwnna'n rhoi gymaint o help i fi i symud 'mlan.

"Mae fe'n gweithio mas lot yn well i fi na jyst mynd i'r brifysgol neu jyst mynd i weithio - fi'n cael y gorau o ddau fyd, ac mae'r balans yn berffaith."

Mae Ffederasiwn Adeiladwyr Meistr (FMB) yn rhybuddio bod prinder gweithwyr cymwys yn y sector adeiladu yn cyrraedd lefelau argyfyngus, gyda nifer y gweithwyr yn crebachu yn hytrach na thyfu.

Mae cyflogwyr eisoes yn rhybuddio bod prinder sgiliau yn cael effaith ar dargedau adeiladu.

Bwriad cynllun 'Codi Dyfodol Adeiladu' yw ceisio mynd i'r afael â'r broblem drwy gynnig cyfleoedd profiad gwaith ymarferol i bobl ifanc a, thrwy hynny, greu "gyrfaoedd newydd i'r genhedlaeth nesaf".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.