Rhybuddion oren am wres eithafol i rannau helaeth o Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd oren am wres eithafol i rannau helaeth o Gymru wrth raglwed y gallai'r tymheredd gyrraedd dros 30C mewn sawl ardal yr wythnos hon.
Mae'r rhybudd cyntaf mewn grym rhwng 01:00 ddydd Llun a 23:59 ddydd Mawrth, ac mae'r ardal dan sylw - rhannau o'r de a'r canolbarth - wedi'i hymestyn i gynnwys Bro Morgannwg.
Mae ail rybudd oren wedi'i gyhoeddi yn achos y rhan fwyaf o Gymru ar gyfer dydd Mercher a dydd Iau wrth i gyfnod y tywydd poeth a llaith barhau.
Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai rhai o'r ardaloedd poethaf weld tymheredd hyd at 38C erbyn canol yr wythnos.

Bydd y rhybudd cyntaf yn effeithio ar siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, Mynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Bydd yr ail rybudd oren, sydd mewn grym rhwng 00:00 ddydd Mercher a 23:59 ddydd Iau, yn effeithio ar bob sir yng Nghymru oni bai am Sir Benfro.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i'r gwres a'r lleithder uchel barhau tan o leiaf ddiwedd dydd Iau.
Dywedodd y gallai'r tymheredd uchel gael effaith ar iechyd pobl, yn enwedig y rhai mwyaf bregus.
Fe allai hefyd achosi problemau i wasanaethau a seilwaith, gan gynnwys oedi ar ffyrdd a rheilffyrdd, mwy o bwysau ar wasanaethau hanfodol a chynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld ag ardaloedd arfordirol, afonydd a llynnoedd.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd nad yw'n sicr ar hyn o bryd beth fydd y sefyllfa ar ôl dydd Iau, ond bod posibilrwydd y bydd amodau oerach yn dechrau cyrraedd o'r gorllewin tua diwedd yr wythnos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.