Gŵyl Fôr-ladron Conwy yn llenwi'r cei gyda lliw

Môr-ladron ConwyFfynhonnell y llun, AL.c Photography
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bu tref hanesyddol Conwy yn dyst i 'gyrch' o fath hollol wahanol dros y penwythnos.

Yn lle ymosodiad milwrol fel gwelodd y dref ganrifoedd yn ôl, dathliad lliwgar a gafwyd wrth i gannoedd o fôr-ladron gipio'r cei ar gyfer yr Ŵyl Fôr-ladron flynyddol.

Er gwaethaf y cleddyfau a'r gynnau mawr, chwerthin a mwynhad oedd yn llenwi'r lle, gydag ymwelwyr a phobl leol yn tyrru i'r dref i ymuno yn yr hwyl.

Mae'r ŵyl bellach yn un o uchafbwyntiau calendr yr haf yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth Cymru Fyw ddal fyny gyda Jonathan Mann, Rheolwr-Gyfarwyddwr Conwy Pirates CIC, i glywed mwy am yr hyn sy'n gwneud y digwyddiad hwn mor arbennig.

Môr-leidrFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography

Llafur cariad

Nid rhyw gwmni masnachol mawr sydd y tu ôl i'r digwyddiad hwn, ond tîm ymroddedig o wirfoddolwyr.

Eglurodd Jonathan ei rôl ac elfen deuluol y trefnu:

"Rydw i'n un o bump o gyfarwyddwyr sy'n arwain tîm arbennig o 30 o wirfoddolwyr sy'n trefnu gwyliau môr-ladron ar draws y gogledd-orllewin - gyda'r brif ddigwyddiad yn digwydd yma yng Nghonwy.

"Yn ystod y dydd rydw i'n gweithio llawn-amser fel saer coed ac adeiladwr, sy'n golygu fod gen i'r sgiliau ymarferol perffaith i greu'r gemau a phrops ar gyfer ein digwyddiadau â llaw.

"Mae fy ngwraig, Joy, sydd hefyd yn gyfarwyddwr, yn gweithio'n llawn-amser hefyd, ond yn ymroi llawer iawn o'i hamser sbâr er mwyn delio gyda'r gwaith gweinyddol yn ogystal â pherfformio gyda'i grwpiau siantis-môr, The Conwy Sea Dogs a Wombat and Muttley."

Mae'r dref wedi bod yn croesawu'r ŵyl ers dros ddegawd bellach, fel y noda Jonathan: "Rydym wedi bod yn dod â hud a lledrith y môr-ladron i'r ardal ers 2012, yn rhedeg pob blwyddyn, ac eithrio cyfnod clo."

Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography
Môr-ladronFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc

Hanes ac ysbrydoliaeth yr ŵyl

Ond sut ddaeth tref gaerog Conwy i fod yn gartref i ddigwyddiad mor lliwgar?

"Daeth y syniad gwreiddiol gan Tony Tunstall o The Knight Shop, a oedd yn Bennaeth Siambr Fasnach Conwy ar y pryd," eglurai Jonathan.

"Ar ôl ychydig flynyddoedd o gynnal digwyddiadau canoloesol, roedd y dref yn barod am newid ffres a chyffrous. Y nod gwreiddiol oedd i hybu masnach a thwristiaeth leol yn ystod cyfnodau tawel.

"Oherwydd hynny, yn fwriadol nid ydym byth yn rhedeg yn ystod gwyliau ysgol na gwyliau banc. Yn lle hynny, rydym yn gweithio'n agos gyda natur, gan newid ein dyddiadau bob blwyddyn i gyd-fynd â'r llanw lleol fel y gallwn ddod â llongau i mewn ar gyfer y 'frwydr'."

Môr-ladron ar gwchFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
MilwyrFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc

Mae dewis Conwy fel lleoliad yn benderfyniad hawdd dros ben, gan fod y dref yn cynnig cefnlen berffaith i stori o fôr-ladron:

"Mae Conwy yn lleoliad hollol heb ei ail. Mae gennych chi'r cefndir trawiadol a dramatig hwn o gastell canoloesol, y dref gaerog hanesyddol, a'r cei agored.

"Mae'n darparu arena naturiol peffaith ar gyfer brwydr môr-ladron epig, ochr yn ochr â gofod gwych i gerddwyr lle gallwn gynnal ein 'marchnad smyglwyr', cerddoriaeth fyw, a gemau teuluol."

Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography

Ymateb y gymuned ac uchafbwyntiau eleni

Er bod y dref yn cael ei 'gipio' dros dro, mae'r ymateb gan y cyhoedd bob amser yn gadarnhaol iawn, er gwaethaf ychydig o anhawster dros dro:

"Mae'r ymateb bob amser yn hynod o gynnes. Mae twristiaid a phobl leol wrth eu boddau.

"Wrth gwrs, mae cynnal sioe o'r raddfa hon yn golygu cau ffyrdd dros dro a rhywfaint o sŵn i lawr wrth y cei, ond mae'r gymuned yn gefnogol iawn oherwydd bod yr hwb economaidd a chymdeithasol i'r dref mor enfawr.

"Rydyn ni'n cael ymateb cadarnhaol gan bobl wrth i ni setio fyny, yn enwedig pan maen nhw'n ein gweld ni'n trawsnewid y strydoedd gyda baneri i gyhoeddi bod y môr-ladron wedi cyrraedd yn swyddogol!"

Môr-ladronFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography
Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography

Mae'r 'brwydrau' bob tro'n ran gyffrous o'r ŵyl, ond eleni cafodd y trefnwyr eu plesio'n fawr gan un digwyddiad arbennig:

"Pinacl yr ŵyl pob blwyddyn yw'r Frwydr Môr-ladron enfawr - gwylio'r fyddin yn tanio'r gynnau mawr ac yna'r gornestau cleddyf cyffrous yng nghanol y cei.

"Ond yr uchafbwynt fwyaf eleni oedd yr Orymdaith Môr-ladron. Daeth llawer iawn o bobl i glywed curiadau'r drymiwyr a'r gerddoriaeth, ac i weld y dawnswyr, wrth i'r holl beth deithio o'r cei a thrwy'r dref i gyd. Roedd yr awyrgylch yn drydanol."

GynnauFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Gorymdaith môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography
Môr-ladronFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography
MilwyrFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography
Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography
Môr-ladronFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Bwa saethFfynhonnell y llun, AL.c Photography
Môr-ladronFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Môr-ladronFfynhonnell y llun, AL.c Photography
Môr-leidrFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Môr-leidr ar gwchFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc
Siantis môrFfynhonnell y llun, Combat Wombat Inc

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig