Pobl yn 'haeddu gwell' na defaid yn sathru beddau anwyliaid

Mae'r defaid wedi bod yn bwyta blodau a difrodi addurniadau yn ôl pobl leolFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r defaid wedi bod yn bwyta blodau a difrodi addurniadau yn ôl pobl leol

  • Cyhoeddwyd

Mae defaid sy'n "sathru" dros feddau ac yn "cnoi'r holl flodau" yn difetha mynwent yn y gogledd, yn ôl pobl leol.

Mae lluniau'n dangos anifeiliaid yn mynd mewn i fynwent Treffynnon, Sir y Fflint ac yn crwydro ar ffyrdd cyfagos.

Dywedodd David Pearson, a gollodd ei wraig Paula i ganser, fod y difrod i'w bedd yn ei "wneud yn sâl", gan ychwanegu: "Mae hi'n haeddu gwell na chael ei bedd wedi'i sathru."

Llun mynwent Treffynnon gyda defaid ar y tirFfynhonnell y llun, Cyfryngau Cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl pobl leol mae'r defaid wedi bod yn pori ar dir y fynwent ers tro

Dywedodd y cynghorydd tref Daniel Thomas fod y broblem wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn a bod pobl leol yn flin gyda Chyngor Sir y Fflint am beidio â gweithredu.

Ymddiheurodd yr awdurdod lleol, a dywedodd fod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer grid gwartheg i atal y defaid rhag cyrraedd y fynwent.

Defaid yn y fynwentFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol

Mae presendoldeb defaid yn y fynwent wedi bod yn broblem ers sawl blwyddyn, yn ôl rhai yn lleol.

Mae'r anifeiliad hefyd wedi'u gweld ar ffyrdd cyfagos gan godi ofn rhai am ddamwain posib.

Collodd David Pearson, 53, ei wraig Paula i ganser ac mae'n ymweld â'i bedd yn rheolaidd.

Dywedodd: "Maen nhw'n sathru dros yr holl feddau, yn dinistrio'r blodau, yn bwyta'r blodau ac yn gadael llanast ar ôl.

Llun David Pearson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Pearson bod y sefyllfa'n gwneud iddo deimlo'n sâl

"Dwi a lot o bobl eraill wedi bod yn cysylltu â'r cyngor i wneud rhywbeth am hyn, ond yn anffodus nid yw'n ymddangos bod unrhyw symudiad."

"Mae'n gwneud i mi deimlo'n sâl. Dwi'n drist a dydy o ddim yn deg arna' i na'r teulu, ac yn sicr nid ar Paula. Mae hi'n haeddu gwell na chael ei bedd wedi'i sathru."

Dywedodd Mr Pearson fod plant a chyn-filwyr wedi'u claddu yn y fynwent, gan ychwanegu: "Mae pob person yn bwysig, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw fath o gydymdeimlad yn dod gan y cyngor o ran gweithredu ar hyn fel mater brys."

Lauren Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lauren Jones fod gweld y difrod i fedd ei mam wedi gwneud ei phlant "yn drist"

Collodd Lauren Jones, 27, ei mam Sarah pan oedd hi'n 18 oed.

Dywedodd: "Mae'n drist pan 'da chi'n dod. Dwi wedi troi i fyny gyda fy mhlant o'r blaen ac mae fy mhlant wedi bod yn drist am y peth."

Dywedodd ei bod hi bellach yn glanhau ymlaen llaw, i sicrhau nid yw ei phlant yn gweld unrhyw ddifrod na llanast. Mae hi hefyd yn helpu i lanhau beddau eraill.

"Roedd colli fy mam mor ifanc yn ddigon anodd, ond mae gorfod dod yma a gweld ei bedd yn cael ei drin fel yma yn ffiaidd."

Ychwanegodd: "Roedd fy mam yn berson da. Dydy hi ddim yn haeddu cael bedd sy'n cael ei ddifrodi drwy'r amser."

Llun addurniadau wedi torriFfynhonnell y llun, Lauren Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lauren ei bod hi'n hynod siomedig yn gweld y defaid yn dinistrio'r addurniadau ar fedd ei mam

Dywedodd cynghorydd tref Treffynnon, Daniel Thomas, bod cyngor y dref wedi cynnig cyfrannu at giât i helpu i gadw'r defaid i'w tir pori, ond ei fod wedi cael ei "wrthod" gan Gyngor Sir y Fflint.

Dywedodd fod pobl yn mynd yn "wirioneddol drist ac yn flin amdano nawr".

Dywedodd Ian Hodge, cynghorydd tref a sir, fod sawl ffermwr yn pori tir uwchben y fynwent.

Dywedodd fod trafodaethau rhwng perchnogion tir, ffermwyr a chynghorau wedi arwain at "awyrgylch ei fod yn broblem i rywun arall".

Fodd bynnag, dywedodd fod pawb bellach yn siarad, gan ychwanegu ei fod yn "obeithiol ein bod ar y ffordd i ddatrys hyn go iawn".

Llun dafad yn sefyll ar feddFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gobeithio bydd grid gwartheg newydd yn atal y broblem

Dywedodd Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant Sir y Fflint: "Mae cynlluniau cychwynnol ar gyfer grid gwartheg i atal y defaid rhag crwydro i lawr o'u tir pori cyfagos bellach wedi'u cwblhau, a bydd y cyngor yn gweithio gyda pherchennog y da byw i osod y grid ar frys.

"Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant i'r rhai sydd wedi eu heffeithio ac yn diolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth barhaus.

"Gobeithiwn y bydd y datrysiad hwn yn atal hyn rhag digwydd eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig