Rhai wedi methu â chael mynediad i ŵyl Tafwyl yn dilyn 'ambell anhawster'

Roedd ciwiau mawr wrth fynedfa safle Tafwyl ddydd Sadwrn - mae amcangyfrif fod diwrnod cyntaf digwyddiad eleni wedi denu 20,000 o bobl
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr gŵyl Tafwyl wedi cydnabod bod rhai pobl wedi methu â chael mynediad i'r digwyddiad ddydd Sadwrn a bod oedi hir wrth y fynedfa i gannoedd wrth iddyn nhw gyrraedd.
Maen nhw hefyd yn ystyried lleoliadau posib eraill ar gyfer y dyfodol.
Mae 'na amcangyfrif bod 20,000 o bobl wedi mynychu diwrnod cyntaf yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd.
Bydd Menter Caerdydd, sy'n trefnu'r digwyddiad, yn cynnal trafodaethau â Chyngor Caerdydd ynglŷn â lleoliadau posibl eraill yn y dyfodol.
Fe gafodd newidiadau eu cyflwyno wrth y fynedfa ddydd Sul i gyflymu'r broses o wneud gwiriadau diogelwch ar gyfer ail ddiwrnod yr ŵyl, sy'n dathlu 20 mlynedd eleni.
Mae trefnwyr hefyd yn dweud bod yna gyfarfod gyda swyddogion diogelwch cyn agor y giatiau ddydd Sul i drafod achos "anffodus" o atal dyn mewn crys Palesteinaidd ddydd Sadwrn mewn ymgais i osgoi achos tebyg ddydd Sul.
Torfeydd yn heidio i Tafwyl sy'n dathlu 20 mlynedd yn y brifddinas
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Tafwyl yn rhan bwysig o dwf y Gymraeg yng Nghaerdydd'
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dywedodd prif weithredwr Menter Caerdydd, Heulyn Rees bod denu "miloedd ar filoedd" i'r ŵyl ddydd Sadwrn "yn fater o lwyddiant ac yn fater i ddathlu, ond yn amlwg mae hynny'n achosi ambell i drafferth i rai".
Bu'n rhaid "gwthio'r amser agor yn ôl bore ddoe" gan fod "sawl problem wedi codi" wrth orfod aros tan nos Wener i gael mynediad i'r safle a chodi'r holl seilwaith dros nos.
O ganlyniad, meddai, roedd "llawer iawn, iawn o bobol wedi troi lan mewn ffenest fer iawn a hynny yn achosi i rai bobol i fethu dod mewn ar yr amser fydden nhw wedi dymuno".

Roedd yna gryn giwio ar dir y castell i ymwelwyr ar ôl cael mynediad i'r ŵyl
Dywedodd bod tir Castell Caerdydd "wedi bod yn lleoliad bendigedig i Tafwyl ar hyd y blynyddoedd" ond bod twf yr ŵyl yn golygu bod angen ailystyried.
"Dwi'n credu bydde fe'n deg i ddweud efallai bod ni wedi gordyfu hwn fel lleoliad," meddai.
"Fydden ni'n edrych i gynnal trafodaethau ar y posibilrwydd o gael safle fydd mor hygyrch â phosib, a sydd mor eang â phosib er mwyn caniatáu pawb sydd yn dymuno dod i Tafwyl i allu dod - dyna'r gobaith".

Dywed Heulyn Rees bod gweld y fath niferoedd yn dod i'r ŵyl yn beth da, ond bod "ambell anhawster" wedi codi oherwydd y niferoedd
Pwylseisiodd Heulyn Rees bod y trefnwyr yn "awyddus iawn i gadw'r ŵyl am ddim", yn hytrach na chodi tâl a docynnau i reoli'r nifer ymwelwyr.
"Ni'n gw'bod bod 'na bobol sydd 'm ond ar ymylon y Gymraeg sy'n dod i Tafwyl ac mai hwnna falle yw eu hunig brofiad o'r Gymraeg, a 'dan ni ddim eisie peryglu hynny... mae'n rhywbeth sensitif iawn, iawn i'w warchod.
"Ar yr un pryd ma'n rhaid diogelu niferoedd a gallu staffio yn iawn ar gyfer y digwyddiad.
"Ma'r niferoedd eleni... er mae'n wych gweld y brwdfrydedd i ddod, mae e wir wedi achosi ambell anhawster i ni."
'Dim polisi i wahardd baneri Palesteinaidd'
Mewn ymateb i honiad ar y cyfryngau cymdeithasol bod swyddogion diogelwch wedi atal mynediad i ddyn am wisgo crys-T Palesteinaidd, a bod yna waharddiad ar faneri Palesteinaidd ar safle'r ŵyl, fe gyhoeddodd y trefnwyr ddatganiad yn dweud "hoffem gadarnhau nad dyma bolisi Tafwyl".
Ychwanegodd y datganiad: "Fodd bynnag, yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol Llywodraeth y DU, ni chaniateir unrhyw faneri, baneri protest na hysbysfyrddau sy'n hyrwyddo neu'n cynrychioli sefydliadau neu grwpiau sydd wedi'u gwahardd o dan y gyfraith."
Dywedodd Heulyn Rees wrth BBC Cymru: "Mae 'na gyfarfod wedi digwydd gyda'r tîm diogelwch cyn i ni agor heddi a mae pawb yn hollol ymwybodol beth yw polisi Tafwyl ynglŷn â chaniatáu crysau-T.
"A tra bod crysau-T yn gyfreithiol, mae croeso i bobol wisgo pa bynnag grys-T y maen nhw'n dymuno gwisgo i Tafwyl.
"Mae e'n ddigwyddiad anffodus ond yn sicr ni'n hyderus na 'neith hynny godi ei ben eto heddi."

Roedd Martha Elen, Buddug, Bob Delyn a'r Ebillion a Sage Todz ymhlith yr artistiaid ar y prif lwyfan ddydd Sadwrn
Ychwanegodd y datganiad bod angen cynnal archwiliadau bagiau yn sgil "y risg uwch i ddiogelwch cenedlaethol" ar hyn o bryd, gan apelio ar bobl i "gyrraedd mewn digon o amser a chaniatáu ar gyfer unrhyw oedi ychwanegol a allai godi o ganlyniad i'r gwiriadau diogelwch hyn".
"Diolch i bawb am eu cydweithrediad wrth helpu i sicrhau bod Tafwyl yn parhau'n ŵyl ddiogel a chroesawgar i bawb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin

- Cyhoeddwyd14 Ebrill
