Cymru 'wastad gam yn ôl' gyda'r defnydd o dechnoleg i hybu'r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gwella gallu AI i ddeall a phrosesu'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn dweud bod Cymru "wastad fel petawn ni gam yn ôl" wrth ddefnyddio technoleg i hybu'r iaith Gymraeg.
Daw sylwadau Dr Neil Mac Parthalain, uwch ddarlithydd ac ymchwilydd AI ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chynllun newydd i wella dealltwriaeth AI o'r iaith.
Mae'r llywodraeth a chwmni Cosine wedi cyhoeddi partneriaeth i geisio gwella gallu AI i ddeall a phrosesu'r Gymraeg, gyda'r nod o "helpu mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd".
Ychwanegodd Dr Mac Parthalain fod y bartneriaeth yn "gam i'r cyfeiriad iawn" mewn egwyddor, ond bod angen ystyried yn ofalus pa ddata fydd yn cael ei ddefnyddio a beth fydd yn digwydd iddo.
Technoleg a'r Gymraeg: Angen 'lleisiau o wahanol ardaloedd a chefndiroedd'
- Cyhoeddwyd12 Medi 2025
Y gŵr o Abergynolwyn wnaeth roi'r T yn Chat GPT
- Cyhoeddwyd9 Awst
Beth yw rôl deallusrwydd artiffisial yn nyfodol y Gymraeg?
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y bartneriaeth yw helpu i sicrhau bod yr iaith yn "ffynnu yn yr oes ddigidol, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywyd bob dydd".
Maen nhw hefyd am sicrhau bod technolegau newydd yn "adlewyrchu sut mae cymunedau amlieithog ledled y byd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial bob dydd."
Dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, fod y Gymraeg "yn perthyn i ni gyd" ac y dylai gael ei "chynrychioli'n llawn yn y technolegau y mae pobl yn eu defnyddio i gael gafael ar wybodaeth, dysgu, gweithio a chyfathrebu."
'Cymru wedi colli cyfleoedd yn y gorffennol'
Dywedodd Dr Mac Parthalain fod lle i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y Gymraeg mewn modelau iaith mawr.
Gallai darparu mwy o ddata Cymraeg arwain at well atebion a gwybodaeth am Gymru a'r Gymraeg, meddai, yn ogystal â mwy o hygyrchedd i'r iaith trwy welliannau ym maes trosi a chyfieithu.
Dywedodd fod Cymru wedi "colli cyfleoedd yn y gorffennol" i wneud mwy i sicrhau bod yr iaith yn "weladwy ac yn ddefnyddiol" ym maes technoleg.
"Ry' ni wastad wedi bod fel petawn ni gam yn ôl gyda'r iaith Gymraeg a thechnoleg a 'falle bydd datblygiad AI fel hyn yn gwthio pethau."
Ychwanegodd fod y Gymraeg yn aml yn datblygu ar ôl y Saesneg ac ieithoedd eraill ym maes technoleg, ond ei fod yn gweld y bartneriaeth newydd fel cyfle i newid hynny.
"Dwi'n credu ei fod e'n beth positif ac yn gam i'r cyfeiriad iawn mewn egwyddor. Yr unig broblem wrth gwrs yw falle trwy roi'r wybodaeth yma i gwmni arall mae e mas o'n dwylo ni wedyn."

Mae Dr Neil Mac Parthalain yn croesawu'r bartneriaeth, ond yn codi cwestiynau am rannu data
Mae modelau iaith mawr yn cael eu hyfforddi gan ddefnyddio symiau mawr o ddata, a dywedodd Dr Mac Parthalain fod maint ac ansawdd y data yn gallu effeithio ar ba mor dda y mae model yn perfformio.
"Mae'r modelau iaith mawr yma - bwystfilod ydyn nhw - y mwyaf o ddata sydd gyda nhw a'r mwyaf o wybodaeth sydd gyda nhw, y gorau gyd fydd e'n gallu adlewyrchu'r wybodaeth."
Awgrymodd y byddai effaith y gwaith yn debygol o ddod yn amlwg yn weddol gyflym oherwydd cyflymder datblygiadau ym maes AI.
Er yn credu bod y peryglon sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial yn aml yn cael eu gorliwio, mae'n rhybuddio bod angen bod yn ymwybodol o'r risgiau - gan gynnwys sgamiau sy'n defnyddio delweddau neu fideos yn y Gymraeg.
"Mae'r pryder 'ny i gael achos mae 'di dod i'r pwynt erbyn hyn ble all rywun ddim cweit ymddiried yn eu clustiau neu eu llygaid bellach," meddai.
Ychwanegodd fod angen datblygu ffyrdd o reoli'r risgiau hynny wrth i'r dechnoleg ddatblygu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.