Etholiad y Senedd: Dewch i 'nabod yr arweinwyr

Arweinwyr 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Wrth i etholiad y Senedd agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn brif weinidog nesaf Cymru?

Dros yr wythnosau diwethaf mae Cymru Fyw wedi cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen mwy am arweinwyr Plaid Cymru, Reform, y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a'r Ceidwadwyr Cymreig.

Cafodd trefn cyhoeddi'r darnau proffil ei ddewis ar hap.

Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru

Rhun ap Iorwerth yn rhoi araithFfynhonnell y llun, PA

Things Can Only Get Better, Dancing Queen, Moving on Up… mae cân yn gallu bod yn rhan gofiadwy o ymgyrch wleidyddol.

Petai Rhun ap Iorwerth angen dewis un, byddai Mae'n Wlad i Mi yn sicr werth ei hystyried.

Mae'r geiriau gwladgarol a chynhwysol yn siŵr o fod at ddant cefnogwyr Plaid Cymru ac mae'r gân yn ddolen rhwng un o ffigurau amlyca'r blaid a'r arweinydd newydd.

Ond mae hefyd yn awgrymu, er mai degawd yn ôl ddaeth Rhun ap Iorwerth yn wleidydd, bod yr egin wedi bod yno ers yn llawer hirach.

Ewch yma i ddarllen y proffil yn llawn.

Dan Thomas, Reform

Dan ThomasFfynhonnell y llun, PA

Mae gan y Manic Street Preachers ac arweinydd newydd Reform yng Nghymru ddau beth yn gyffredin: maen nhw'n dod o Goed-duon ac maen nhw wedi eu hysbrydoli gan Margaret Thatcher.

Ond tra bod effaith polisïau'r Iron Lady ar eu cymuned wedi arwain at ganeuon sosialaidd y Manics, cael ei ysgogi i ddadlau o blaid y Ceidwadwyr yn etholiadau ffug ei ysgol uwchradd wnaeth y Dan Thomas ifanc.

Ewch yma i ddarllen y proffil yn llawn.

Eluned Morgan, y Blaid Lafur

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ferch i gynghorwyr Llafur, roedd gweld rhai o fawrion y blaid ar yr aelwyd yn rhywbeth cyffredin tu hwnt yn ystod plentyndod Eluned Morgan.

Roedd Rhodri Morgan a'i wraig Julie yn dod draw yn aml, ac felly Mark Drakeford a chyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, James Callaghan.

Roedd Neil a Glenys Kinnock hefyd yn ffrindiau agos i'r teulu.

Roedd hi'n anochel felly y byddai'n cael dylanwad ar ei gyrfa, sydd wedi arwain at gyfnodau mewn seneddau ym Mrwsel, Llundain a Chaerdydd.

Ewch yma i ddarllen y proffil yn llawn.

Jane Dodds, Democratiaid Rhyddfrydol

Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images / BBC

Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth, bu Jane Dodds yn weithiwr cymdeithasol am 27 mlynedd, gan weithio'n bennaf mewn adrannau amddiffyn plant.

Mae'n dweud bod y maes yn hynod bwysig iddi, a daeth swyddi pellach gyda Byddin yr Iachawdwriaeth mewn gwasanaethau amddiffyn plant, a chyfnod yn arwain yr adran plant o fewn Cyngor y Ffoaduriaid.

Mae wedi cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyngor, yn San Steffan ac yn fwyaf diweddar yn y Senedd - gan gael ei disgrifio fel un sy'n "cyflawni pethau'n dawel tra'n cadw cysylltiad bob amser â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad".

Ewch yma i ddarllen y proffil yn llawn.

Anthony Slaughter, y Blaid Werdd

Anthony Slaughter

Er bod Anthony Slaughter o Hull yn wreiddiol, yn ystod ei flynyddoedd cynnar fe gafodd gyfnodau yn Awstralia, De Affrica a Llundain.

Yn Llundain mae wedi disgrifio "byw fel sgwatiwr am amser hir, yn y sîn anarcho-punk", gan gynnwys bod mewn band pync.

Nid nes iddo ddod i Gaerdydd y dechreuodd ganolbwyntio o ddifri' ar wleidyddiaeth, gan ymuno â'r Blaid Werdd yn 2010.

Daeth yn chweched mewn isetholiad ac etholiad yn 2012 a 2016. Ond daeth i amlygrwydd pellach wedi iddo ddod yn ail yn Ne Chaerdydd a Phenarth yn 2024.

Ewch yma i ddarllen y proffil yn llawn.

Darren Millar, Ceidwadwyr Cymreig

Darren Millar

Os ydy Darren Millar am ychwanegu hiwmor a jôcs mewn araith wleidyddol, efallai y bydd yn gofyn am gyngor ei gyd-awdur sgetsys comedi, y Parchedig Ganon Tim Rowlands.

Mae'r ddau wedi bod yn ffrindiau da ers eu harddegau. Ffydd ddaeth a'r ddau at ei gilydd, ond roedd y ddau yn rhagweld dyfodol disglair ym myd comedi neu gerddoriaeth ar y pryd.

Cafodd Millar ei fagu mewn teulu dosbarth gweithiol oedd yn pleidleisio dros y Blaid Lafur.

Ond fe wnaeth ymddiswyddiad dramatig Margaret Thatcher yn 1990 a'r etholiad cyffredinol a ddilynodd hynny ei arwain ar drywydd gwahanol.

Ewch yma i ddarllen y proffil yn llawn.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.