Caernarfon yn ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes

Darren Thomas a Richard Davies yn codi Cwpan Cymru wedi buddugoliaeth CaernarfonFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Darren Thomas a'r rheolwr Richard Davies yn codi Cwpan Cymru wedi buddugoliaeth Caernarfon

GanAled Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Sicrhaodd Caernarfon Gwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes gyda thair gôl gynnar yn profi'n ddigon i guro'r Fflint o 3-0 yn y rownd derfynol yng Nghasnewydd.

Dechreuodd Caernarfon y gêm gyda phwrpas ac fe sgoriodd Sion Bradley i'w rhoi ar y blaen wedi saith munud yn unig.

Pum munud yn ddiweddarach cafodd Bradley ei lorio ar ymyl y cwrt cosbi ac fe sgoriodd Matty Jones yn gelfydd gyda'r gic rydd.

Cic gornel gan Jones arweiniodd at y drydedd gôl gan Adrian Cieślewicz, gyda'r peniad yn taro'r trawst ac yn glanio tu ôl i'r llinell.

Mae'r fuddugoliaeth yn sicrhau lle Caernarfon yng Nghyngres Europa y tymor nesaf - eu hail ymddangosiad yn Ewrop

Bydd Fflint, oedd yn ceisio ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 1954, yn troi eu golygon i sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru gydag un gêm o'r tymor yn weddill, yn erbyn Met Caerdydd yr wythnos nesaf.

CaernarfonFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fuddugoliaeth yn sicrhau lle Caernarfon yng Nghyngres Europa y tymor nesaf

"I sgorio'n fuan, fe aeth y gêm yn union fel oeddan ni isho fo fynd," meddai rheolwr Caernarfon Richard Davies mewn cyfweliad gyda Sgorio ar ddiwedd y gêm.

"Sw ni ddim yn gallu bod yn fwy prowd o'r hogia 'ma.

"Mae nhw wedi rhoi bob dim i fi heddiw.

"Dwi'n sbio ar y tlws ac allai ddim coelio bod ni wedi rhoi enw Caernarfon arno fo, mae'n anhygoel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig