Gobaith Caneri i Gaernarfon godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf?

Sandra Ross yn dal sgarff Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sandra Ross yn gwerthu nwyddau i gefnogwyr ar yr Oval cyn iddyn nhw deithio i Gasnewydd dros y Sul

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

40 mlynedd yn ôl roedd Caernarfon yn hawlio'r penawdau yn sgil rhediad anhygoel yng Nghwpan FA Lloegr.

Wedi trechu York City a Stockport, dim ond ail gêm wedi'i hail-chwarae yn erbyn Barnsley o'r Ail Adran ddaeth â rhediad y Caneris i ben yn y drydedd rownd.

Ond er llwyddiant tîm John King yn nhymor 1986/87, un tlws dydi Caernarfon erioed wedi ei hawlio ydy Cwpan Cymru.

Er hynny, gyda lle yng nghystadlaethau Ewrop ar gael i'r enillydd, mae tîm Richard Davies yn llygadu llwyddiant yn y cwpan cenedlaethol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Disgrifiad,

Argraffiadau Sion Bradley, Richard Davies a Jake Phillips cyn ffeinal Cwpan Cymru

"Mae pawb yn Gaernarfon yn excited ac yn edrych ymlaen, 'chydig ar bigau'r drain ac isio fo gyrraedd rŵan," meddai Richard Davies, sydd wedi bod wrth y llyw ers 2023.

"Mae hi wedi bod yn anodd peidio bod yn yr Oval y tymor yma a gorfod chwarae'n Llandudno, yn methu cael y crowds a'r atmosphere 'da ni wedi arfer ei gael.

"Ond 'da ni wedi gwerthu dros 1,500 o docynnau a dwi'n gw'bod fyddan nhw yna i'n cefnogi."

Eu gwrthwynebwyr fydd Y Fflint, sy'n brwydro i aros yn y Cymru Premier.

Ond dydi Davies ddim yn credu y bydd yna unrhyw ffefrynnau cryf ar adeg y gic gyntaf yng Nghasnewydd brynhawn Sul.

"Mae o'n 50/50 mewn ffordd. Mae gen i ffydd yn fy hogia' ond 'da ni wedi chwarae nhw ddwywaith a 'da ni'n gw'bod fydd o ddim y gêm hawdd.

"Mae [dewis y tîm] yn gur pen 'wyrach, ond mae'n broblem neis i'w gael."

Richard Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Davies yn gobeithio sicrhau Cwpan Cymru i Gaernarfon am y tro cyntaf yn eu hanes

Yn ôl Sandra Thomas, sy'n un o gyfarwyddwyr y clwb, mae'r diddordeb wedi bod yn "anhygoel", gyda llawer yn teithio lawr i Gasnewydd dros y penwythnos.

"Gafon ni dros 500 yn mynd i Iwerddon [i wynebu Crusaders yn Ewrop], a 'da ni'n disgwyl dwbl hynna a mwy," meddai.

"'Da ni wedi llenwi dau fws a mae 'na lot mynd lawr bore Sadwrn a gwneud penwythnos ohoni... fydd hi'n wirion bost yna!

"Mae pawb... y gymuned i gyd yn siarad am y gêm... mae pawb yn edrych ymlaen, cymuned fel'na ydan ni."

Ailadrodd hanes

Ond yn wahanol i Gaernarfon, mae'r Fflint wedi codi Cwpan Cymru.

Yn 1954 llwyddodd y Gwŷr Sidan i drechu Caer o 2-0 o flaen torf o dros 15,000 yn Wrecsam.

Carfan 1954 y FflintFfynhonnell y llun, CPD Tref y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

1954 oedd yr unig dro i'r Fflint ennill Cwpan Cymru

Dydy lle'r clwb yn y Cymru Premier y tymor nesaf heb ei ddiogelu eto, wrth iddyn nhw frwydro gyda'r Bala i osgoi gorffen yn safleoedd y cwymp.

Er hynny, wedi trechu Bangor o 5-1 yn y rownd gynderfynol, mae 'na hyder yn y garfan bod siawns i greu sioc.

Yn ôl Jake Phillips, sy'n chwarae fel amddiffynnwr neu asgellwr, bydd y gêm brynhawn Sul yn un o'r pwysicaf yn ei yrfa.

Jake Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jake Phillips yn gobeithio gall Y Fflint fanteisio ar statws Caernarfon fel y ffefrynnau

"Mae 'na lot o flynyddoedd wedi pasio. Does na'm lot o bobl ar ôl o'r adeg hynny [1954], ond fel clwb 'da chi eisiau creu hanes a mae dydd Sul yn gyfle i ni greu hanes newydd," meddai.

"Mae am fod yn her, a dwi'n siŵr fydd y ddau dîm yn hyderus eu bod yn gallu ennill gan dydyn nhw ddim yn wynebu'r Seintiau Newydd neu Cei Connah.

"Ond os yn edrych ar form a'r tabl, Caernarfon ydy'r ffefrynnau, ond gobeithio fod hynny o fantais i ni - efallai llai o bwysau arnon ni.

"'Da ni'n gobeithio perfformio fel 'da ni'n gallu a gobeithio fydd hynny'n ddigon i ennill y tlws."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig