Dyn yn euog o geisio llofruddio cyn-bartner mewn parc

Fe gafodd James McKenna o Gaerfyrddin ei arestio ar ôl mynd ar goll am ddiwrnodau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth drywanu ei gyn-bartner sawl gwaith yng Nghaerfyrddin, ac yna ffoi am bedwar diwrnod, wedi cael ei ganfod yn euog o geisio llofruddio.
Fe wnaeth Joanne Sidaway, 49 oed, weiddi a sgrechian wrth i James McKenna ymosod arni ym Mharc Caerfyrddin ar 29 Ionawr.
Ffoniodd am ambiwlans a dweud: "Dwi wedi cael fy nhrywanu gan fy nghyn-bartner... Mae e wedi bod yn fy stelcian."
Clywodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe mai "lwc" oedd hi na fuodd hi farw ar ôl cael ei thrywanu yn ei brest, a bod ei chot aeaf wedi helpu i'w hachub.
Dywedodd McKenna wrth y llys ei fod yn "grac" ar ôl iddyn nhw wahanu fis Tachwedd diwethaf. Dywedodd ei fod eisiau achosi "niwed difrifol" i Ms Sidaway ond nid ei lladd.
Ar ôl cuddio ym mhentref Bronwydd ger Caerfyrddin am dridiau heb fwyd na dŵr, cafodd McKenna ei arestio yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Roedd wedi pledio'n euog yn flaenorol i anafu'n fwriadol, a bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.

Dywedodd McKenna ei fod wedi trywanu Ms Sidaway "chwech neu saith neu fwy" o weithiau
Yn ystod yr achos llys dywedodd McKenna wrth y rheithgor ei fod wedi rhoi'r gyllell fwyaf newydd a miniog o'i gegin yn ei fag y bore hwnnw, gyda'r bwriad o'i defnyddio i anafu Joanne Sidaway.
Dywedodd ei fod wedi'i "lorio" ar ôl i'w perthynas ddod i ben ar ôl tua blwyddyn.
'Yn grac iawn'
Aeth McKenna i'r parc yn y bore, yn ystod taith gerdded gyntaf Ms Sidaway gyda'r ci, ond dywedodd wrth y rheithgor fod gormod o bobl o gwmpas.
"Ro'n i'n grac iawn. Roedd y gyllell gyda fi," meddai.
"Doedd dim cyfle i siarad â hi. Doedd hi ddim yn dangos unrhyw ddiddordeb."
Fe aeth yn ôl eto yn y prynhawn, ac aros iddi fynd i mewn i'r parc tua 16:00.
"Wrth i mi sylwi arni'n cerdded i fyny'r stryd, es i i'r parc yn eithaf cyflym. Doeddwn i ddim eisiau iddi fy ngweld," meddai wrth y rheithgor.
"Fe wnes i'n siŵr fod y parc yn dawel, nad oedd unrhyw un yn dod i mewn nac allan, ac yna es i rhwng dau glawdd.
"Roedd hi'n siarad â'i chi, a dyna pryd y des i allan. Fe wnes i ymosod arni gyda'r gyllell."
Pan ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn Caroline Rees KC iddo esbonio ei deimladau ar y pryd, dywedodd: "Adrenalin, llawer o ofn."

Roedd heddlu yn yr ardal am gyfnod hir wedi'r ymosodiad
"Ro'n i wedi synnu at yr hyn roeddwn i wedi'i wneud," ychwanegodd.
"Ro'n i'n anelu at ardal ei hysgwyddau a rhan uchaf ei chorff. Do'n i ddim eisiau ei lladd."
Wrth i'r Barnwr Paul Thomas KC ofyn faint o "ergydion" yr oedd yn cofio glanio ar ei chorff, dywedodd "chwech neu saith neu fwy".
Cytunodd McKenna â bargyfreithiwr yr erlyniad James Wilson ei fod mewn "pwl o gynddaredd".
'Dwi wedi cael fy nhrywanu'
Yn sydyn, fe wnaeth un o gymdogion Joanne Sidaway weiddi ei henw ar ôl iddi ei chlywed yn sgrechian, a sylwi bod y cloddiau'n symud.
Fe wnaeth James McKenna rewi, clywodd y llys, cyn rhedeg i ffwrdd.
"Ro'n i'n gwybod bod rhywbeth ofnadwy yn digwydd," dywedodd Susan Edwards.
"Gofynnais i, 'Joanne, wyt ti'n iawn?', a dywedodd hi, 'Sue, dwi wedi cael fy nhrywanu'."
Dywedodd bod Ms Sidaway yn waed i gyd, a phan wnaeth hi ffonio 999, roedd hi'n ymbil am ambiwlans.
Clywodd y llys ei bod wedi dweud: "Roedd hi'n gyllell gegin fawr. Mae gen i o leiaf ddau anaf, efallai mwy. Ydy'r ambiwlans yn dod?."

Dyma lle wnaeth James McKenna ymosod ar Joanne Sidaway
Clywodd y rheithgor fod 17 o ardaloedd o ddifrod i'w chôt, ac fe welon nhw luniau o'i dillad gwaedlyd.
Fe welodd y rheithgor ddelweddau o'r clwyfau a gafodd i'w brest hefyd, yn ogystal â'i braich a'i llaw.
Wrth ddisgrifio'r eiliadau yn dilyn yr ymosodiad, dywedodd McKenna wrth y rheithgor ei fod wedi gadael ei fag, a'r gyllell ynddi, mewn rhandir ger y parc ar ôl bwyta iogwrt yno.
Yna, fe gerddodd i Fronwydd, pentref tua thair milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin.
"Fe wnes i ddod o hyd i le i gysgodi, coetir tawel i ffwrdd o'r ffordd," meddai.
"Ro'n i'n cael ôl-fflachiadau o'r digwyddiad.. Dim ond aros yno a marw oeddwn i eisiau ei wneud."
Dywedodd ei fod wedi aros yno am dair noson, heb fwyd na dŵr, cyn teithio mewn tacsi ac ar fws i'r ysbyty yn Aberystwyth.
"Sylweddolais y byddwn i'n cael fy nal," meddai, "ac roeddwn i eisiau mynd i le roeddwn i'n ei ystyried yn ddiogel."