Cadarnhad bod y ddynes a gafodd ei chanfod mewn fan ar dân yn feichiog pan fu farw

Samantha Natalie PhythianFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Samantha Natalie Phythian yn feichiog pan fu farw, meddai'r llu

GanNia TuduraHarri EvansBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi datgelu bod y ddynes a gafodd ei chanfod mewn fan ar dân yn Sir Ddinbych yn feichiog pan fu farw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gas Works Lane ym Mhrestatyn tua 23:30 nos Sul, yn dilyn adroddiad bod cerbyd ar dân.

Mae'r ddynes bellach wedi'i hadnabod fel Samantha Natalie Phythian a oedd yn 35 oed ac yn dod o'r Rhyl.

Fe ymddangosodd Thomas Matthew Hammond Bell, 38, o Ffordd Wellington yn Y Rhyl gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Dywedodd y barnwr: "Fe wnaeth rhywun gynnau'r fan ar dân ac roedd y person yn fyw a chafodd ei lladd o ganlyniad i'r tân."

Mewn datganiad yn ddiweddarach brynhawn Gwener, dywedodd yr heddlu fod ail ddyn bellach wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r achos.

Mae'r dyn lleol 47 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.

Prestatyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg ym Mhrestatyn ddydd Llun

Mae teulu Ms Phythian wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei galw'n "fam, merch, chwaer, modryb a ffrind annwyl iawn".

"Bydd Samantha, neu Sammi fel y mae pawb yn ei hadnabod, yn cael ei chofio am y lle arbennig a oedd ganddi yng nghalonnau pawb a oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu," meddai'r teulu mewn teyrnged a rannwyd gan Heddlu'r Gogledd.

"Mae ei marwolaeth drasig a sydyn wedi llorio ei theulu a'i ffrindiau sy'n ei chael hi'n anodd dod i delerau â cholli rhywun a oedd yn golygu cymaint i gymaint o bobl.

"Ni ddylai unrhyw deulu byth orfod dioddef y boen o golli anwylyd o dan amgylchiadau o'r fath.

"Bydd yn cael ei chofio'n annwyl am byth, a bydd colled enfawr ar ei hôl.

"Fel teulu, hoffem ofyn i bobl fod yn ystyriol ac yn barchus ynghylch y sibrydion ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod trychinebus hwn."

Gas Works Lane Prestatyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y corff ei ganfod mewn fan ar dân yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn

Clywodd y llys bod Thomas Bell, a wnaeth ymddangos drwy gyswllt fideo, yn adnabod y ddynes fu farw, a'i fod o yn gwadu rhoi'r cerbyd ar dân.

Cadarnhaodd y Barnwr Geraint Walters hefyd bod y ddynes wedi marw o ganlyniad i'r tân yn y fan.

Mae Thomas Bell wedi ei gadw yn y ddalfa, a bydd gwrandawiad arall ar gyfer cyflwyno ple yn Llys y Goron Caernarfon ar 27 Tachwedd.

Mae 5 Ebrill 2027 wedi cael ei nodi fel dyddiad posib ar gyfer dechrau achos llawn.

Ddydd Gwener dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley o Heddlu'r Gogledd: "Mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau Sammi. Hoffwn hefyd annog y gymuned i fod yn ofalus wrth wneud sylwadau a allai ychwanegu at drallod y teulu neu ymyrryd â'r achos cyfreithiol gweithredol sy'n parhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig