Rhybudd am wiberod ar ôl marwolaeth ci ar Ynys Môn

Ci Jo Bowen-Jones, BaxterFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Ynys Môn yn rhybuddio perchnogion cŵn i fod yn wyliadwrus o nadroedd gwiber - neu adders - ar ôl i'w chi farw yn dilyn brathiad tybiedig.

Bu farw ci Jo Bowen-Jones, Baxter, o fewn oriau ar ôl mynd yn sâl yn sydyn tra allan am dro ger Rhosneigr.

Dywed Jo Bowen-Jones iddo fynd yn sâl ychydig funudau ar ôl iddo redeg i mewn i laswellt hir.

Er nad oes cadarnhad swyddogol mai brathiad gwiber oedd yr achos, mae hi'n annog eraill i gymryd gofal yn ystod misoedd cynhesaf yr haf.

Roedd Jo Bowen-Jones yn cerdded ei chi, Baxter pan redodd i mewn i laswellt hir gyda'i "drwyn i'r llawr".

Dywedodd o fewn ychydig funudau dechreuodd Baxter chwydu, cwympodd ac ni allai godi.

Cafodd ei gludo at filfeddyg o fewn 30 munud ond fu farw chwe awr yn ddiweddarach er gwaethaf triniaeth.

Dywedodd Jo ei bod yn amau iddo gael ei frathu gan wiber ger rhedfa RAF y Fali ar 31 Mawrth.

Fe wnaeth y milfeddyg ddarganfod marc bach ond dim chwydd, sy'n symptom cyffredin o frathiad gan wiber, felly nid oedd yn gallu cadarnhau mai dyna oedd yr achos.

Ni chafodd Baxter driniaeth gwrthwenwyn oherwydd pryderon ynghylch ei anadlu a sgîl-effeithiau posibl, a all gynnwys anaffylacsis.

GwiberFfynhonnell y llun, Avalon/Universal Images Group/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y wiber yw'r unig neidr wenwynig frodorol yn y DU

Dywedodd Jo ei bod am rybuddio eraill gan fod gwiberod yn fwy cyffredin yn ystod y misoedd cynhesach.

Gwiberod yw'r unig neidr wenwynig frodorol yn y DU ac maen nhw'n byw mewn cynefinoedd fel twyni, llethrau bryniau creigiog, rhostiroedd ac ymylon coetiroedd.

Mae symptomau brathiad mewn cŵn yn cynnwys poen, chwyddo, diffyg egni a chwydu.

Mae elusen filfeddygol PDSA yn dweud bod brathiadau nadroedd yn argyfwng i gŵn ac y dylid ceisio cymorth milfeddygol ar unwaith.

Mae'r elusen hefyd yn argymell osgoi ardaloedd lle mae gwiberod yn gyffredin yn ystod yr haf - yn enwedig rhwng mis Mehefin a mis Awst - a chadw cŵn ar lwybr ac ar dennyn wrth gerdded yn yr ardaloedd hynny.

Pynciau cysylltiedig