Creu clwb ffermwyr hŷn i'r amaethwyr sy'n 'gweld neb o ddydd i ddydd'

Clwb Ffermwyr yng Nghaernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y clwb ynghyd yng Nghaernarfon yn ddiweddar am daith gerdded

GanCarwyn Jones
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae poblogrwydd a dylanwad clybiau Ffermwyr Ifanc i'w gweld yn amlwg ar draws Cymru, ond wrth i bobl mewn cymunedau amaethyddol fynd yn hŷn, mae sawl un yn gweld y cyfleoedd yna'n mynd yn brin.

Dyna pam aeth un ddynes ati i greu clwb i ffermwyr hŷn - i roi cyfle i'r rhai sy'n "gweld neb o ddydd i ddydd" ac "adra' ar eu pennau eu hunain mewn lle unig iawn".

Ceinwen Parry o elusen Tir Dewi gafodd y syniad, ac erbyn hyn mae'r clybiau'n tyfu.

Yn ôl un sy'n mynychu clwb misol yn y gogledd, mae hi wrth ei bodd gan ei bod hi "ddim yn mynd i unrhyw le arall" o wythnos i wythnos.

'Ofnadwy o unig a heriol'

Yn siarad yn ystod un o gyfarfodydd diweddar y clwb, dywedodd Ceinwen bod ffermwyr yn aml yn ei chael hi'n anodd ac yn cario baich yn ddyddiol.

"Rhaid i ni gofio fod lot o amaethwyr ddim yn gweld neb o ddydd i ddydd.

"Maen nhw adra ar eu pennau eu hunain mewn lle unig iawn. Mae 'na lot wedi bod yn gaeedig i'r ffarm a ddim yn mynd allan...

"Dwi wedi bod yn meddwl am hyn ers talwm, bod na ddim lot i ffermwyr 'neud ar ôl y Ffermwyr Ifanc.

"Nes i feddwl beth am ddechrau clwb ffermwyr, ac mi ddoth y cyfla yna i mi 'neud drwy Tir Dewi."

Ceinwen Parry
Disgrifiad o’r llun,

Ceinwen Parry o elusen Tir Dewi gafodd y syniad o sefydlu clwb ffermwyr

Drwy sefydlu'r grŵp, dywedodd mai'r nod ydi cael ffermwyr at ei gilydd "i gyfathrebu, i siarad ac os oes gan rywun broblem, i siarad efo rywun, a dwi'n falch o dd'eud mae'r clybiau yn tyfu".

"'Da ni yma i gefnogi ffermwyr, i helpu nhw os ydi nhw'n gweld hi'n anodd cael at rwbath fel gwaith papur", meddai.

"Mae gweithio fel ffarmwr yn gallu bod yn ofnadwy o unig a heriol dyddiau yma."

Soniodd am y straen o brofi anifeiliaid am glefydau, a gobeithio am ganlyniadau da.

"Mae isio testio BVD" (dolur rhydd feirysol buchol) - clefyd hynod heintus a chostus sy'n effeithio ar wartheg - "mae hyn yn codi cur pen mawr."

"Mae TB o gwmpas ers blynyddoedd a does 'na ddim llawer o ddim byd yn cael ei neud am y peth."

'Dwi wrth fy modd yn dod yma'

Un sydd wedi gweld budd sylweddol o'r sesiynau misol ydi Lesley Parry o Lanbabo, Ynys Môn.

Mae Mrs Parry yn rhedeg y fferm fach deuluol ar ei phen ei hun yn aml iawn.

Dywedodd: "Mae fy ngŵr mewn cartref gofal, felly fi sy'n rhedeg y fferm.

Lesley Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lesley Parry yn "mwynhau'n fawr" yn y clwb, ond does dim llawer o gyfleoedd ganddi i gymdeithasu fel arall

"Dwi'n gweithio adra drwy'r wythnos ar fy mhen fy hun, mae fy meibion ​​yn fy helpu ar y penwythnos ... mae'n gallu [bod yn unig] yn enwedig yn y gaeaf, pan nad ydi pethau'n mynd yn ôl y cynllun ac mae'r peiriannau'n torri lawr.

"Dwi'n trio gwneud cymaint ag y galla' i oherwydd bod fy meibion ​​yn gweithio'n llawn amser, a dydw i ddim eisiau iddyn nhw ddod adref a gorfod dechrau gweithio eto.

Yn ddiweddar, cafodd y grŵp eu tywys ar daith gerdded hanesyddol yng nghwmni yr archeolegydd Rhys Mwyn, o amgylch Caernarfon.

Taith gerdded Rhys MWyn

Dywedodd Mrs Parry ei bod yn cael budd mawr o fynychu'r sesiynau a'i bod hi'n braf "gweld pawb" bob mis.

"Dwi wrth fy modd yn dod yma, unwaith y mis, dyma fy mheth i - dydw i ddim yn mynd i unrhyw le arall a dwi'n mwynhau'n fawr.

"Mae 'na gymuned yma a 'da ni gyd yn siarad ac yn helpu ein gilydd, felly mae'n lle da i ddod."

Mae'r sesiynau hefyd yn gyfle i drafod unhryw broblem sy'n codi: "'Da ni gyd yr un fath - yn ffermio, 'da ni gyd yn gwybod am yr anawsterau o fewn ffermio.

"Mae'n braf i mi gael amser allan a gweld pawb yma."

Brian Bown
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Bown yn ffermwr sy'n gweld y gwerth mewn cael cyfle i ymlacio a chymdeithasu

I ffermwr arall, Brian Bown, mae'n bwysig "dod allan a chymdeithasu oherwydd mae'n job - gweithio ar ein pennau ein hunain mae'r rhan fwyaf ohona ni".

Ychwanegodd: "Dyda ni ddim yn cael chance i ddod allan a chymdeithasu, felly mae'n dda i bawb dynnu at ei gilydd.

"Mae rhywun yn gweithio oriau mawr, ti'n cychwyn allan yn gynnar yn y bora, 'nôl yn y tŷ hwyr yn nos.

"Mae'n bwysig cael cyfla i ymlacio a chymdeithasu."

Mae Elgan Hedd Jones yn gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ardal Caernarfon ac yn ffermio yn Nant Gwynant ac yng Ngolan ger Porthmadog.

Dywedodd fod gweithio ar eich pen eich hun fel amaethwyr yn aml yn "anorfod".

Er hynny, dywedodd fod yna gymuned gref o'i amgylch.

"'Da ni'n lwcus iawn yn yr ardal yma, mae'n ardal gymdogol iawn. Mae pawb yn tynnu at ei gilydd os oes isio help efo rwbeth.

Elgan Hedd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elgan Hedd Jones yn gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ardal Caernarfon ac yn ffermio hefyd

"'Da ni wedi bod yn hel y mynyddoedd yr wythnos yma, ac mae'r cymdogion yn dod atoch chi. Cyfle i gael sgwrs, dros ginio mae'n champion.

"Mae'n ffordd hen ffasiwn os lici di, bod pawb yn dod i helpu. Mi oedd diwrnodau cneifio flynyddoedd yn ôl. Mi oedd pawb yn dod cyn dyddiau'r machines ac ati."

Soniodd pa mor braf oedd gweld ffermwyr yr ardal yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd.

"Llond tŷ yn cael cinio - y ffordd draddodiadol, mae rywun wedi'i fagu yn y cylch yna.

"Mae gen ti gymaint llai o lafur ar dy fferm, mae'r peiriannau yn 'neud gymaint, felly mae gen ti lai o bobl o gwmpas."

Lewis LloydFfynhonnell y llun, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lewis Lloyd o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eu bod eisiau clywed syniadau eraill i helpu cymunedau

Dros y tair blynedd a hanner diwethaf mae elusen Tir Dewi wedi derbyn dros £334,000 gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi prosiectau gwahanol, gan gynnwys y clwb ffermwyr.

Yn ôl Lewis Lloyd o'r Loteri, mae ariannu prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth.

Dywedodd: "Ni'n gwybod fod problemau iechyd meddwl a lles yn gyffredin ar draws ein cymunedau ni yng Nghymru.

"Ni hefyd yn gwybod fod heriau penodol i ffermwyr ac mewn cymunedau gweldig.

"Be' ni wedi gweld drwy'r gwaith yma yw yr effaith positif mae cymuned yn gallu gael gyda chefnogaeth ariannol i fynd i'r afael â'r problemau hynny.

"Ar draws ein cymunedau ni, mae unigrwydd yn bwnc llosg... beth ni isie gweld fel cronfa, os ydych chi'n rhan o grŵp lleol, dewch aton ni gyda'ch syniadau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig