'Ffili credu' y gallai ffrwydradau chwarel barhau ar ôl llifogydd 'uffernol'

Mae'r dinistr yn golygu na fydd Jenna a'i theulu yn medru byw yn eu cartref tan o leiaf mis MaiFfynhonnell y llun, Jenna Rolls-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dinistr yn golygu na fydd Jenna a'i theulu yn medru byw yn eu cartref tan o leiaf mis Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi a wynebodd lifogydd yn dilyn ffrwydrad mewn chwarel yn "ffili credu" y gallai'r gwaith ailddechrau yn fuan.

Cafodd 15 eiddo ar Heol Berry yng Ngwaelod-y-garth eu heffeithio a bu rhaid i nifer adael eu cartrefi yn dilyn y digwyddiad yn ôl ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth y ffrwydrad, oedd wedi'i gynllunio ymlaen llaw, arwain at gerrig yn disgyn a dŵr yn llifo i lawr ochr y mynydd.

Ni fydd Jenna Rolls-Jones a'i theulu yn medru dychwelyd i'w cartref tan "o leiaf mis Mai, falle Mehefin", gan bod cymaint o ddifrod yn y tŷ.

Mae'n un o nifer sy'n poeni am ddigwyddiadau tebyg os fydd y ffrwydradau'n dechrau eto.

Pan ofynnodd BBC Cymru i Breedon Group - sy'n berchen ar Chwarel Ffynnon Taf - a oedd ffrwydradau yn ailddechrau fis yma, dywedon nhw eu bod wedi cyfarfod â thrigolion a rhanddeiliaid eraill ac y byddan nhw'n "parhau i gydweithio'n uniongyrchol â'r rhanddeiliaid hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r camau nesaf".

"Maen nhw wedi rhwygo'r gegin i gyd mas, pob llawr ar y llawr gwaelod wedi dod lan, ac mae'r ardd dal yn hollol mess - mwd ym mhobman," medd Jenna Rolls-JonesFfynhonnell y llun, Jenna Rolls-Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Maen nhw wedi rhwygo'r gegin i gyd mas, pob llawr ar y llawr gwaelod wedi dod lan, ac mae'r ardd dal yn hollol mess - mwd ym mhobman," medd Jenna Rolls-Jones

Ar Dros Frecwast, esboniodd Jenna Rolls-Jones ei bod ar wyliau gyda'i theulu pan y cafodd alwad gan un o'i chymdogion yn dweud wrthi am y llifogydd.

"O'n i just ffili credu e' achos ni yng nghanol syched, so o'n i fel: 'Flood? Ni 'di cael tywydd braf!'

"Wedyn 'nath hi ffonio a dangos beth oedd ar ôl o'n cartref ni. O'dd e' just yn llawn dŵr, llawn mwd, o'dd e'n uffernol."

Dinistr yn y cartrefFfynhonnell y llun, Jenna Rolls-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenna wedi gorfod gwagu ei thŷ a chodi lloriau

"O'dd teganau'r plant yn arnofio - o' chi ffili gweld y llawr... O'n i ddim hyd yn oed yn gwybod be' i 'neud, pwy i ffonio."

Ar ôl dod adref o'r gwyliau, aeth y teulu yn syth i westy.

"Ers hynny ni 'di bod yn trefnu bob dim - trio ffeindio rhywle i fyw, trio trefnu'r tŷ, siarad gyda insurance ac yn y blaen."

'Mwd ym mhobman'

Eglurodd Jenna na allen nhw fynd yn ôl i'w cartref "tan o leiaf fis Mai, falle mis Mehefin - mae 'na lot o waith i 'neud 'na".

"Maen nhw wedi rhwygo'r gegin i gyd mas, pob llawr ar y llawr gwaelod wedi dod lan, ac mae'r ardd dal yn hollol mess - mwd ym mhobman.

"Ni nawr yn byw mewn Airbnb - dal yn y pentref a ni'n lwcus iawn achos doedd dim llawer o lefydd i fyw yn y pentref."

GarddFfynhonnell y llun, Jenna Rolls-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu yn byw mewn Airbnb ar hyn o bryd

Ychwanegodd hi fod y sefyllfa yn bell o fod yn ddelfrydol, gyda'r plant yn "gofyn trwy'r amser" pryd y bydden nhw'n medru dychwelyd adref.

Wrth gael ei holi am y posibilrwydd o waith y chwarel yn ailddechrau, dywedodd Jenna ei bod "just ffili credu bo' nhw'n gallu 'neud hynny heb fod yr archwiliad wedi'w orffen".

"Mae'n anodd i gredu bo' nhw'n dweud bo' hwn yn achos unigol pan mae 'na risg bod e'n gallu digwydd 'to, neu o leiaf gorffen yr archwiliad i sicrhau bod 'na ddim risg iddo ddigwydd 'to cyn iddyn nhw ddechrau ffrwydro eto," meddai Jenna.

Ystafell wlybFfynhonnell y llun, Jenna Rolls-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o eiddo teulu Jenna wedi cael ei ddifetha, gan gynnwys teganau'r plant - oedd yn "arnofio" ar un adeg

Aeth dŵr i mewn i gartref Kevin Duncan sydd bellach yn rhan o'r grŵp Stronger Together Lesser Garth.

Yn ôl Mr Duncan fe ddywedodd y cwmni y byddai unhryw ffrwyrdradau yn y dyfodol yn digwydd mewn rhan is sydd beth pellter i ffwrdd o'r chwarel.

Daeth ymchwiliad cychwynnol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) i'r casgliad bod y llifogydd ym mis Gorffennaf yn "ddigwyddiad unigol" ac nad oedd twneli na mannau tanddaearol wedi'u "peryglu".

Llawr mwdlydFfynhonnell y llun, Jenna Rolls-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwd ar hyd y lloriau yn dilyn y llifogydd

Dywedodd Mr Duncan - sy'n disgwyl bod allan o'i gartref am hyd at flwyddyn tra bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud - fod y rhai a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yn bryderus iawn.

Dyw Mr Duncan methu credu eu bod nhw'n ystyried ailddechrau'r ffrwydradau.

"Dim ond un darn sydd ei angen i ddechrau dymchwel," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn deall bod angen i'r busnes barhau i weithredu, ond ei fod yn gofyn am oedi yn y gwaith ffrwydro.

"Dydyn ni ddim yn gofyn iddyn nhw beidio â chymryd creigiau o'r mynydd. Rydyn ni'n deall bod angen creigiau arnyn nhw.

"Be' ni'n dweud yw: oedwch y gwaith ffrwydro.

"Gadewch i berson annibynnol y mae'r gymuned yn ymddiried ynddo fynd i mewn ac egluro wrthym beth sy'n digwydd."

Yr arddFfynhonnell y llun, Jenna Rolls-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o eiddo'r teulu allan yn yr ardd

Mae'r cynghorydd Andrea Gibson, sy'n cynrychioli'r ardal, am i'r cwmni gael ei orfodi i oedi unrhyw waith ffrwydro ac i geisio ailadeiladu ymddiriedaeth gyda'r gymuned.

"Mae llawer o bobl wedi'u hysgwyd yn llwyr ac yn fregus yn feddyliol oherwydd hyn," meddai.

Fe gafodd llawer o bobl eu heffeithio "gan gynnwys plant", meddai.

Ychwanegodd: "Rydw i wedi gofyn i'r cyngor roi ataliad dros dro ar y gwaith ffrwydro tan fod holl ganfyddiadau adroddiad yr HSE ar gael ac wedi'u cyhoeddi."

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn "parhau i gefnogi adferiad Gwaelod-y-garth" yn dilyn y llifogydd drwy gynorthwyo trigolion ynghyd â gwaith glanhau, diogelwch ac amgylcheddol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig