Modd 'rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau' - awdur ifanc o'r Bala

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 21 oed o'r Bala, sydd wedi bod yn ysgrifennu ers ei arddegau cynnar ar fin cyhoeddi ei gyfrol gyntaf ac yn gobeithio profi bod modd "rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau".
Dywedodd Gruffydd ab Owain, a ddechreuodd ysgrifennu blog yn 13 oed, fod cyhoeddi'r gyfrol, Yn Ei Dro yn teimlo fel "penllanw prosiect eithaf hir".
Ag yntau'n fyfyriwr yn UCL yn Llundain, dywedodd ei fod hefyd yn gobeithio y bydd pobl yn gweld bod modd "torri cwys dy hun".
Mae'r gyfrol yn cynnwys 14 o ysgrifau taith o amgylch Cymru a bydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mehefin.
Oriel: Rheilffordd Talyllyn yn 75 oed
- Cyhoeddwyd30 Mai
DJ radio'n troi'n awdur straeon sci-fi
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Y Prifardd a'r awdur toreithiog Eirwyn George wedi marw
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Gruffydd iddo gychwyn beicio yn saith oed, a'i fod wedi cael ei ysbrydoli gan ei fodryb a'i ewythr oedd yn mynd ar deithiau tramor ar feic.
"Roedden nhw'n 'sgwennu blog ar bob dydd o'r daith, a byswn i'n darllen y blog bob dydd i gadw trac ar le oedden nhw ayyb ac i glywed yr hanesion i gyd.
"Felly nes i gael chwiw am ddau beth yn fan 'na dwi'n meddwl; ges i chwiw am seiclo fel hobi a theithio a hefyd chwiw am flogio."
Yn ei arddegau fe ddechreuodd ysgrifennu blog o'r enw Y Ddwy Olwyn.
"Yn fuan iawn 'naeth hwnna gael yr enw Dwy Olwyn, ac wedyn bues i'n sgwennu'r blog yn eithaf cyson, unwaith yr wythnos am gyfnodau hir, rhai blynyddoedd, ac yn fan'na mae cychwyn y peth.
"I raddau mae cyhoeddi'r gyfrol yn teimlo fel penllanw prosiect eithaf hir o sgwennu'r ddwy olwyn ers wyth mlynedd.
"Yn ystod y cyfnod yna roeddwn i'n meithrin fy sgwennu, roeddwn i'n datblygu cynulleidfa, creu cymuned o seiclwyr Cymraeg eu hiaith, ond hefyd yn trio cymryd argymhellion pobl o'r llefydd gorau i fynd ar feic yng Nghymru a thrio casglu nhw at ei gilydd."

Wrth sôn am y profiad o ysgrifennu'r gyfrol, dywedodd "mi fues i'n lwcus iawn o gael cefnogaeth Lefi Gruffudd [pennaeth cyhoeddi Y Lolfa] yn eithaf cynnar yn y siwrne yma.
"Dwi'n meddwl o'n i'n 16 pan nes i gysylltu gyda fo am y tro cyntaf am y posibilrwydd o 'sgwennu ryw fath o gyfrol am seiclo achos roedd prinder ar y pryd."
Dywedodd mai 14 ysgrifau taith yw cynnwys y gyfrol yn cynnwys teithiau beic o bob cwr o Gymru.
Ychwanegodd ei fod yn "gobeithio fod 'na ryw fath o apêl i'r bobl sy'n seiclo i hoffi'r elfen ddisgrifiadau o'r llefydd dwi 'di bod a'r dewis o lefydd ayyb, a hefyd bod 'na ddiddordeb i bobl sydd ddim yn seiclo ond sy'n cymryd diddordeb yn hanes Cymru.
"Roedd y prosiect yn hollol wahanol achos yn un peth oedd o'n golygu trefnu i fynd i'r gwahanol lefydd 'ma i seiclo, ac i wneud o i gyd mewn diwrnod!
"Hynny yw roedd 'na ambell un lle fysa rhaid i fi gychwyn o'r tŷ am 6 y bore ac wedyn gyrru lawr am ddwy awr neu dair ac wedyn mynd ar y beic am 100 milltir ac wedyn dreifio 'nôl ar ddiwedd y dydd, felly roedden nhw'n ddiwrnodau eithaf hir."
Ond er ambell daith hir yn y car, dywedodd iddo fwynhau'r profiad yn fawr.
"Roedd hynny yn gwahodd cyfleoedd newydd i feddwl am wahanol bethau achos yn amlwg ti ar dy feic am wyth neu naw awr a ma' hwnna'n lot o amser i fod yn meddwl am bethau ac ystyried pethau felly dwi'n meddwl bod hwnna wedi bod yn beth neis a hefyd yn beth sydd wedi esgor ar 'sgwennu mwy creadigol."

Ag yntau bellach yn astudio yn UCL yn Llundain, dywedodd fod rhoi'r gyfrol at ei gilydd "wedi bod yn beth braf".
"Mae'n beth eithaf hy' i wneud i roi fy hun allan 'na i sgwennu o oedran mor ifanc a dwi'n disgwyl i bobl ei ddarllen, disgwyl i bobl werthfawrogi o a'i drin o fel 'sgwennu byddai unrhyw un yn ei wneud a dim jyst 'sgwennu fel rhywun yn ei arddegau.
"Am ba bynnag reswm, tydi'r ffaith bo' fi'n ifanc yn gwneud y pethau 'ma ddim wir wedi croesi 'meddwl i.
"Dwi'n meddwl bo' fi jyst wedi mynd drwy broses eithaf normal gyda fy 'sgwennu, wedi cychwyn rhywbeth fy hun, wedyn ma' pobl wedi ei ddarllen o.
"Dwi'n gobeithio bydd pobl eraill yn gallu gweld hwn a gweld nid yn unig bod posib rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau ond bod hi'n bosib torri cwys dy hun a chychwyn rhywbeth o ddim byd ac wedyn bod hynny yn dwyn ffrwyth yn y pendraw.
"Bod posib cychwyn rhywbeth o scratch a bo' hwnna'n gallu tyfu i fod yn rhywbeth mwy ac yn rhywbeth sy'n mynd i roi lot o gyfleoedd gwerthfawr i ti yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.