'Dim rheswm' i blant ag alergeddau difrifol wynebu 'mwy o risg' nag yn Lloegr

Mae Elain Jones yn ddiolchgar bod ysgol ei merch, Casi Gwen, yn "ofnadwy o ofalus" o'i halergeddau
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni plant sydd ag alergeddau yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cyfraith newydd sy'n gorfodi ysgolion i ddarparu hyfforddiant alergeddau allai "achub bywydau".
Mae Cyfraith Benedict yn golygu bod disgwyl i ysgolion yn Lloegr ddilyn canllawiau alergedd penodol a chadw pigiadau adrenalin ar y safle hefyd.
Ond dyw'r gyfraith ddim yn bodoli yng Nghymru, ac mae ymgyrchwyr yn dweud na ddylai plant "wynebu mwy o risg" na'u cyfoedion dros y ffin.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu canllawiau presennol mewn ysgolion ac y byddant yn craffu ar Gyfraith Benedict wrth ystyried unrhyw bolisiau tebyg yn y dyfodol.

Roedd gan Benedict sawl alergedd gan gynnwys llaeth, wyau a chnau a bu farw yn 2021 ar ôl yfed llaeth buwch ar ddamwain yn yr ysgol
Cafodd Cyfraith Benedict ei hysbrydoli gan Benedict Blythe, bachgen pump oed a fu farw ar ôl yfed llaeth buwch ar ddamwain tra'n yr ysgol yn Sir Lincoln yn 2021.
Ymgyrchodd ei fam, Helen Blythe, i newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau a gwybodaeth i ymateb i alergeddau difrifol, gan ddweud bod yr ymateb wedi bod yn "bositif iawn".
"Dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai ysgolion yng Nghymru, sydd yn gofalu am eu plant, fabwysiadu'r gyfraith yma", meddai Ms Blythe.
'Pobl ddim yn deall pa mor ddifrifol'
Mae Elain Llwyd Jones o Gerrigydrudion yn cytuno bod angen mwy o hyfforddiant i staff ysgol deimlo'n hyderus wrth ymateb i blentyn sydd ag alergedd difrifol.
Mae gan ei merch, Casi Gwen, sy'n bedair oed, alergedd difrfiol i laeth buwch ac mae'n gorfod cario pigiad adrenalin drwy'r amser. Mae ganddi alergedd i wyau hefyd.
Dywedodd Elain bod ei hysgol wedi bod yn "anhygoel" ac yn "ofnadwy o ofalus" wrth ymdrin â'i sefyllfa ers iddi gychwyn.
"Pan nath hi ddechrau nes i gysylltu o flaen llaw i egluro bod ganddi hi alergedd drwg ofnadwy i lefrith. Ma 'na blentyn arall 'efo union yr un alergedd so 'oedd ganddyn nhw brofiad yn barod.
"Dywedon nhw 'tyd i mewn cyn yr haf i sortio EpiPens [pigiad adrenalin] ac i sicrhau bod pawb yn gw'bod beth mae nhw'n ei wneud'.
"Efo alergedd llefrith ac wyau, er bo ni'n dweud bod ganddyn ni EpiPen, dydy pobl ddim yn gweld neu'n deall pa mor ddifrifol ydi o.
"Os 'da chi'n dweud alergedd cnau ma' fel pe bai pawb yn gwbod am hynny ond mae'n teimlo'n wahanol weithiau 'efo alergedd llefrith," meddai.

Yn ôl un ddamcaniaeth flaengar, mae plant sy'n dod i gysylltiad â rhai mathau o facteria yn llai tebygol o ddatblygu alergedd, meddai'r Athro Gwyneth Davies
Dywedodd yr Athro Gwyneth Davies o Brifysgol Abertawe, sy'n arbenigo mewn meddygaeth anadlol, does neb yn siwr iawn pam fod cymaint o gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n datblygu alergeddau dros y degawdau diwethaf.
Ond mae'r berthynas rhwng genynnau a'r amgylchedd mewn gwledydd gorllewinol wedi cyfrannu at hyn, meddai.
"Y peth mwyaf pwysig yw hyfforddiant ac addysg, a sicrhau bod staff yn ymwybodol o unrhyw alergeddau.
"Wedyn os ma' yna anaphalyxis i ymateb yn gyflym iawn. I gael yr EpiPen, yr adrenalin, i fewn i gyhyr y plentyn a galw 999."
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "bwysig bod dysgwyr sy'n byw gydag alergeddau yn derbyn cymorth".
"Mae pob ysgol yn gorfod dilyn gofynion cyfreithiol a chanllawiau gorfodol sy'n cynnwys yr angen i recordio gwybodaeth ynglyn ag unigolion, cadw a rhoi meddigyniaeth, gweithredu mewn argyfwng a hyfforddi staff i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â gofynion iechyd, gan gynnwys alergeddau."