Dim apwyntiadau dilynol ar ôl triniaeth i geisio lleihau rhestrau aros

Ystafell aros mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan y cynlluniau, ni fydd pobl yn cael apwyntiadau dilynol wedi eu triniaeth oni bai bod wir angen

GanOwain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ni fydd cleifion yn cael apwyntiadau dilynol awtomatig ar ôl triniaeth gwasanaeth iechyd oni bai eu bod wir eu hangen, o dan gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i leihau rhestrau aros.

Y nod yw galluogi meddygon ymgynghorol i dreulio mwy o'u hamser yn trin cleifion yn hytrach na mynychu clinigau.

Y gobaith yw y bydd hyn yn rhyddhau "degau o filoedd" o apwyntiadau ysbytai i unigolion sy'n aros i gael eu gweld gan arbenigwr am y tro cyntaf.

Mae'r cynllun hefyd yn pwysleisio y dylai cleifion sydd wedi bod yn aros yr hiraf gael eu trin gyntaf oni bai fod yna "reswm clinigol clir" dros roi blaenoriaeth i rywun arall.

Mabon ap GwynforFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Iechyd Mabon ap Gwynfor yn gobeithio y bydd cleifion yn elwa ar gael diagnosis a thriniaeth yn gyflymach o dan y cynllun newydd

Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan £145m o gyllid ychwanegol, sydd wedi'i gyhoeddi eisoes gan Mabon ap Gwynfor, gweinidog iechyd Plaid Cymru.

Mae'n cynnwys £20m ar gyfer cynnal a chadw ac offer, £25m i sefydlu canolfannau triniaeth newydd a £100m i gynyddu gweithgarwch dydd i ddydd y gwasanaeth iechyd.

Ond bydd byrddau iechyd ond yn derbyn taliad os allan nhw brofi fod y triniaethau wedi cael eu cwblhau - nid ar sail addewid am yr hyn maen nhw'n disgwyl ei gyflawni.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai clinigwyr fydd yn arwain y newidiadau yn hytrach na "rheolwyr a swyddogion".

Beth sy'n wahanol am y cynllun?

Yn ystod eu blwyddyn olaf mewn grym fe lwyddodd y llywodraeth Lafur flaenorol i ostwng rhestrau aros drwy wario £120m ar 20,000 o driniaethau cataract ychwanegol a thalu cwmnïau preifat i leihau'r niferoedd oedd yn aros am apwyntiadau cleifion allanol a thriniaethau.

Ond mae'r BBC yn deall fod cynllun y llywodraeth newydd am wneud gwell defnydd o gapasiti'r GIG a lleihau'r aros ar bob cam o siwrnai claf.

Y nod yw bod meddygon yn treulio 70% o'u hamser yn gweld cleifion newydd, o gymharu â 30% ar hyn o bryd.

Mae hefyd mwy na miliwn o achosion o apwyntiadau yn dilyn triniaeth.

Y gobaith yw y bydd gostwng y rhain yn golygu y gall meddygon ymgynghorol dreulio 80% o'u hamser yn cynnal llawdriniaethau a 20% mewn clinigau, o gymharu â'r rhaniad presennol o 50:50.

YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw bod meddygon yn treulio 70% o'u hamser yn gweld cleifion newydd, o gymharu â 30% ar hyn o bryd

Mae'r cynllun hefyd yn addo:

  • cynyddu capasiti llawdriniaethol, yn cynnwys ar benwythnosau, ar gyfer yr arbenigeddau hynny lle mae pobl yn aros y cyfnodau hiraf;

  • cyflymu adolygiadau o atgyfeiriadau gan feddygon teulu, fel bo' cleifion yn cael gwybod yn gynt os oes angen profion pellach neu unrhyw driniaeth;

  • cynyddu capasiti diagnostig a defnyddio "offer digidol" i leihau'r amser rhwng atgyfeirio cleifion a rhoi diagnosis.

Fe fydd hyn yn digwydd law yn llaw ag ymrwymiad Plaid Cymru i sefydlu "hyd at 10" o ganolfannau triniaeth ledled Cymru.

Bydd disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio i rannu'r "syniadau gorau".

'Newid parhaol'

"Mae llawer gormod o bobl ar y rhestrau aros yn llawer iawn yn rhy hir," meddai'r gweinidog iechyd, Mabon ap Gwynfor.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fod llywodraethau'r gorffennol wedi defnyddio "cannoedd o filiynau i brynu gwasanaethau o'r sector preifat, sydd wedi dod â'r rhestrau aros i lawr yn y tymor byr jest iddyn nhw fynd yn ôl i fyny eto achos does dim capasiti o hyd o fewn y gwasanaeth iechyd".

"Ni'n chwilio am wella capasiti'r gwasanaeth iechyd a gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy."

Mae'n gobeithio y bydd y cynllun yma'n arwain at fwy o gapasiti ac felly cyflymu'r broses o gael eich gweld gan glinigwyr ar ôl bod at feddyg teulu.

Ond pan gafodd ei holi am y pryderon ynghylch a fyddai rhai pobl, heb apwyntiad, yn osgoi sôn am broblemau allai ddatblygu'n waeth yn y pendraw, dywedodd mai "cynllun sy'n cael ei arwain gan glinigwyr yw hyn".

"Y clinigwyr a'r meddygon sy'n gweithio ar lawr gwlad sydd yn y theatrau, sy'n gwneud y gwaith, nhw sy' 'di tynnu ynghyd y cynllun a dweud 'ie dyma sydd eisiau i ni 'neud'."

Mae'n gobeithio hefyd "'neud yn siŵr bod theatrau'n cael eu defnyddio'n well, yn fwy effeithiol, fod clinigwyr yn gweithio ar benwythnosau pan fod y gallu yna i wneud hynny... a bod y broses i gyd yn gweithio'n fwy llyfn".

"Fel bod pobl yn gallu dod oddi ar y rhestrau aros yna a pharhau â'u bywydau a byw bywydau iachach a hirach yng Nghymru - dyna ydy'r uchelgais."

700,000 yn aros

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf roedd mwy na 698,500 o achosion ar restr aros y GIG yng Nghymru ym mis Mehefin - ffigwr sydd wedi cynyddu ers i'r llywodraeth newydd ddod i rym.

O'r rhain roedd bron 4,100 wedi bod yn aros o leiaf dwy flynedd - cynnydd o 2,600 ym mis Mawrth.

Addewid blaenorol y prif weinidog a'r gweinidog iechyd oedd y byddai neb yn aros cymaint â hynny ymhen "ychydig fisoedd".

Ond nid yw'r cynllun newydd yn gosod union ddyddiad er mwyn cyflawni hyn.

Ystafell aros mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwy na 698,500 o driniaethau eto i'w cwblhau ar restrau aros GIG Cymru fis Mehefin

Er hynny, mae'n nodi y bydd y cyfanswm ar restrau aros yn gostwng i lefelau cyn-Covid (tua 460,000 o achosion) erbyn diwedd y tymor Senedd yma.

Mae disgwyl y bydd rhagor o fanylion am yr amserlen yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Fis diwethaf, addawodd y gweinidog iechyd y byddai'n datgelu cynllun fyddai'n mynd i'r afael â rhestrau aros mewn "ffordd wahanol iawn".

Fodd bynnag, mae BBC Cymru yn deall nad yw'r cynllun newydd yn cynnwys "llwyth o syniadau newydd" ond yn hytrach yn ceisio sicrhau fod newidiadau sy'n gweithio yn cael eu dewis a'u mabwysiadu ar draws y wlad.

'Dim atebion cyflym'

Mae Conffederasiwn GIG Cymru - y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd - wedi croesawu'r cynllun, gan ddweud bod "y pwyslais ar weithio rhanbarthol, capasiti diagnostig, canolfannau llawfeddygol a llwybrau gofal mwy cynaliadwy yn gam i'r cyfeiriad cywir".

Ond rhybuddiodd cyfarwyddwr cynorthwyol y sefydliad yng Nghymru, Nesta Lloyd-Jones, na "ellir ystyried rhestrau aros heb ystyried y pwysau ehangach sy'n wynebu gofal iechyd a chymdeithasol".

"Roedd yr haf yma yn dystiolaeth bod y system dal dan bwysau dwys a chynyddol, a does dim atebion cyflym," meddai.

Dywedodd llefarydd iechyd Reform yn y Senedd, James Evans: "Mae rhestrau aros y GIG yn dal i gynyddu yng Nghymru, a pob tro rydych chi'n gofyn i weinidog Plaid pa mor hir y bydd hi'n cymryd i ddod ag arosiadau dwy flynedd i ben, rydych chi'n cael ateb gwahanol.

"Yn y cyfamser, fe dreuliodd Plaid eu 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth yn cyhoeddi adolygiadau a phwyllgorau."

Dywedodd llefarydd iechyd Llafur Cymru, eu harweinydd Ken Skates, ei bod yn "siomedig bod Plaid Cymru ddim yn gallu dweud o hyd pryd y bydd rhestrau aros dwy flynedd yn cael eu dileu".

"Wedi 10 mis o restrau aros yn gostwng, maen nhw wedi dechrau mynd am i fyny yng Nghymru - mae'r rheiny sydd ar restrau aros angen atebion, nid amserlenni amhendant."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.