Cerdded 53 milltir mewn 24 awr i godi arian i barc chwarae a 'dathlu'r gymuned'

Mae Gerwyn Jones yn rhan o griw a fydd yn cerdded 53 milltir mewn 24 awr ym mhentref Tal-y-bont
- Cyhoeddwyd
Bydd criw o bobl o bentref yng Ngheredigion yn cerdded 53 milltir mewn 24 awr fel rhan o ymgyrch i adnewyddu hen barc chwarae sydd wedi "dod â'r gymuned at ei gilydd".
Mae cymuned Tal-y-bont wedi codi tua £50,000 mewn digwyddiadau lleol dros y blynyddoedd diwethaf.
Y diweddaraf o'r rheiny ydy her 'Rownd a Rownd y Felin', fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.
Yn llwybr cyfarwydd i bobl y pentref, mae 'Rownd y Felin' - fel mae'n cael ei adnabod yn lleol - yn gylchdaith milltir o hyd.
Bydd yn cael ei cherdded 53 o weithiau gan y rhai sy'n cymryd rhan yn yr her, i nodi 53 mlynedd ers i'r parc chwarae agor.
Mae Gerwyn Jones, sydd wedi byw yn y pentref trwy gydol ei oes ac wedi cerdded 2,300 o filltiroedd ar hyd a lled Cymru eleni mewn her bersonol, yn gobeithio bydd ei her ddiweddaraf yn "fwy o ddigwyddiad cymunedol".

Y gobaith ydy adnewyddu hen barc chwarae Tal-y-bont
Ers Dydd Gŵyl Dewi mae Gerwyn wedi bod yn cerdded ar hyd a lled Cymru, ar Glawdd Offa, o Fachynlleth i Drefaldwyn, ac wedi cwblhau her Tri Chopa Cymru - Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan - mewn 15 awr, gan godi arian i Ward Alaw Ysbyty Gwynedd ac elusen ganser Marie Curie.
Ond o flaen y Llew Gwyn am 11:00 ddydd Sadwrn bydd yn cychwyn ar ei "her fwyaf hyd yn hyn".
"Mae 'na griw bach o' ni'n gwneud o i gyd, ond ni'n gobeithio cael ryw fath o ddigwyddiad cymunedol lle mae pobl yn ymuno lle maen nhw'n gallu," meddai Gerwyn.
"Hwn fydd yr her fwyaf hyd yn hyn - 53 milltir. Mae pobl yn sôn am Gymru fach ond 'dio ddim mor fach pan ti'n trio cerdded rownd e.
"Dwi'n meddwl falle'r her fwyaf fydd yr elfen feddyliol o fynd rownd a rownd yr un lle gymaint o weithie.
"Fydd o'n braf teimlo bo' ti byth rhy bell o gartref a'r gobaith yw fydd teulu a ffrindiau yn ymuno i wneud ambell i ddarn gyda ni, a dwi'n credu bydd hynny'n torri'r peth lan."

Dywedodd Gerwyn fod parc chwarae Cae Bach yn "golygu lot i lot o bobl"
Fel i nifer o bobl yng nghymuned Tal-y-bont, mae parc chwarae Cae Bach wedi chwarae rhan fawr ym mywyd Gerwyn.
"Fe wnaeth fy rhieni briodi ar yr un diwrnod a gafodd Cae Bach ei agor.
"Dwi'n byw yn Nhal-y-bont trwy fy oes, dwi 'di chwarae yna ac mae fy mhlant wedi chwarae yna."
"Fydd 'na sawl cenhedlaeth wedi chwarae yn Cae Bach a dwi'n siŵr fod o'n golygu lot i lot o bobl."

Cafodd y parc chwarae ei agor gan yr Aelod Seneddol lleol ar y pryd, Elystan Morgan, ym Medi 1973
Dywedodd Gerwyn fod cymuned Tal-y-bont yn un "gwydn lle mae pawb yn tynnu at ei gilydd".
"Mae'n braf bod yn rhan o gymuned lle mae pobl eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol - mae 'na rywbeth yn mynd ymlaen yn y pentre' o hyd.
"Beth fi'n gobeithio o'r digwyddiad yma yw fydd o'n ddigwyddiad cymunedol yn hytrach na just rhywbeth i godi arian, a bod o'n rhywbeth sy'n cael pobl mas ac at ei gilydd.
"Dwi'n dod o Dal-y-bont a'n meddwl y byd o'r lle, ac mae'r bobl yn grêt a nhw sy'n gwneud y lle. Mae'r math yma o beth yn adlewyrchu hynny."
Ychwanegodd ei fod eisiau "diolch i'r grŵp sydd wedi bod mor weithgar yn dod â hyn at ei gilydd".
"Os na fyddai gennyn ni bobl fel 'na yn ein cymunedau ni, byddai dim byd yn digwydd. Mae'n codi calon rhywun i weld y pethau 'ma'n digwydd."

Mae digwyddiadau o'r fath yn dangos "cymuned ar ei gorau", meddai Holly Aubrey
Mae Holly Aubrey, a gafodd ei magu yn y pentref, yn rhan o'r is-bwyllgor a gafodd ei sefydlu tair blynedd yn ôl i adnewyddu Cae Bach.
Yn fam i ddau o blant, dywedodd ei bod yn "bwysig bod gyda phlant lle diogel i chwarae a mwynhau'r awyr iach", ac mae'n gobeithio bydd "cael parc diogel a deniadol yn dod â mwy o blant a theuluoedd at ei gilydd i gymdeithasu".
"Mae cymuned Tal-y-bont yn un agos iawn," meddai.
"Mae nifer o deuluoedd yma yn ogystal ag ysgol a chylch meithrin.
"Mae 53 mlynedd ers i'r parc agor yn swyddogol ond mae lot o'r cyfarpar yn hen ac yn berygl.
"Fi wedi gwario llawer o amser yn chwarae yn Cae Bach dros y blynyddoedd.
"Mae lot o offer sydd yna fi'n cofio fel plentyn ac mae gyda fi atgofion hapus o'n plentyndod yn y parc."

"Mae lot o'r ddarpar yn hen ac yn berygl," meddai Holly
Dywedodd fod y gymuned wedi codi tua £50,000 trwy gynnal digwyddiadau fel sêl planhigion, bingo, cyri a chwis, a noson gemau.
Maen nhw hefyd wedi derbyn grantiau, meddai, ond mae angen £30,000 arall i orffen y gwaith arfaethedig.
Ychwanegodd bod digwyddiadau fel Rownd a Rownd y Felin yn dangos "cymuned ar ei gorau".
"Diolch i bobl fel Gerwyn Jones sydd yn mynd wrthi i godi arian ar gyfer Cae Bach penwythnos yma.
"Bydd criw mawr o' ni yn cefnogi Gerwyn a bydd cacennau a diod ar y patsyn glas bore dydd Sul."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.