Gludiog a 'chiwt' - yr ymdrech i achub malwen unigryw Llyn Tegid

Ar un adeg roedd y falwen ludiog yn bresennol mewn llynnoedd ac afonydd drwy'r DU, ond erbyn hyn maen nhw ond i'w gweld yn Llyn Tegid
- Cyhoeddwyd
Mae yna ymdrech o'r newydd i achub malwen fach sydd wedi diflannu o weddill y Deyrnas Unedig, ond yn dal i'w chanfod yn Llyn Tegid yn Y Bala.
Mae sawl sŵ ym Mhrydain yn sefydlu poblogaethau o'r falwen ludiog - a hynny gan ddefnyddio creaduriaid sydd wedi'u bridio mewn gardd gefn yng Ngheredigion.
Mae'r cadwraethwr Ian Hughes o Lanarth wedi treulio dros ddegawd yn magu ac astudio'r malwod, gan ddweud eu bod mor werthfawr "â thrysor o'r Aifft" - a hefyd "mor ciwt!".
"Roedd 'na bwynt lle roedd gennym ni fwy o'r malwod yn ein gardd nag oedd erioed wedi'u gweld yn y gwyllt," meddai.

Mae gan Ian tua 2,000 o'r malwod mewn tanciau yn ei ardd gefn
Mae'r falwen ludiog (myxas glutinosa) wedi'i henwi ar ôl y fantell ludiog sy'n gorchuddio ei chragen frown, fregus - sydd hefyd wedi'i haddurno â smotiau aur.
Dyw hi ddim mwy na blaen bys, ond mae ganddi antenau sy'n ddoniol o fawr - ac sy'n cael eu cymharu i "glustiau mawr, floppy" gan Ian Hughes.
Mae'r malwod, sy'n bwydo ar algae ac sy'n cael eu hystyried fel arwydd o lynnoedd ac afonydd iach, wedi diflannu'n llwyr o Loegr.
Y gred yw eu bod wedi'u heffeithio gan lygredd, ansawdd dŵr gwael a dirywiad o ran eu cynefin.

Mae'r teulu Hughes yn adnabyddus hefyd am eu darluniau cain o'r rhywogaethau prin y maen nhw'n eu ceisio eu hachub
Yn y Deyrnas Unedig, eu noddfa olaf yw llyn naturiol mwyaf Cymru - Llyn Tegid - ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ers 2014, gyda thrwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae Ian wedi bod yn plymio i'r llyn i gasglu ac astudio'r malwod.
Mae wedi dylunio a gosod blychau concrit pwrpasol yn y llyn lle gall y malwod gysgodi, gan sefydlu poblogaeth ei hun mewn tŷ gwydr yn ei ardd yn Llanarth.

Llyn Tegid ydy cartref ola'r falwen ludiog yn y DU
Dywedodd Ian iddo ofyn i ddechrau "a fyddan nhw'n goroesi am awr, a fyddan nhw'n goroesi am ddiwrnod?".
Yna, fisoedd yn ddiweddarach, sylwodd ar wyau ar ochr un o'i danciau.
"Doedd neb erioed wedi gweld eu hwyau cyn i ni wneud y darganfyddiad yna," meddai.
"Ry'ch chi gweddïo y bydd pethau'n gweithio pan ry'ch chi'n trio achub rhywbeth sy' ond yn bodoli bellach mewn un safle, a cheisio pendroni be' sydd angen arno a sut i'w helpu.
"Felly pan mae rhywbeth yn gweithio - mae'n un o'r eiliadau 'na sy'n diffinio eich bywyd."

Dyma gaead un o'r llochesi concrit y mae Ian Hughes wedi'u dylunio ar gyfer y malwod yn Llyn Tegid - maen nhw'n aml i'w canfod yn cuddio yn yr holltau
Mae magu'r malwod - yn ogystal ag anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill sy' dan fygythiad - yn waith y mae'r teulu cyfan yn ei fwynhau, gyda gwraig Ian, Kerry a'u meibion Jake, George a Ben wedi ymroi yn llwyr hefyd.
"Mae'n rhaid i chi gael rhyw fath o feddylfryd penodol i gerdded mas mewn i lyn rhewllyd yng nghanol mis Ionawr," eglurodd Ben, 27.
"Ond mae gwybod eich bod chi'n helpu'r malwod yn rhoi gwerth i'r cyfan.
"Mae gan bob creadur bach ei le yn yr ecosystem, ac os ydych chi'n tynnu un darn bach allan o beiriant yna mae'n mynd i stopio gweithio."

Mae Ian a'i feibion yn aml yn teithio o Lanarth i astudio malwod Llyn Tegid
Mae'r teulu Hughes nawr yn gweithio gyda Chymdeithas Sŵau ac Acwaria Prydain ac Iwerddon (BIAZA) i symud rhai o'r malwod maen nhw wedi'u bridio i barciau bywyd gwyllt drwy Loegr.
Mae'n cael ei weld fel y cam cyntaf tuag at eu rhyddhau nhw i lynnoedd ac afonydd mewn lleoliadau penodol yn ystod y blynyddoedd nesaf, a hynny dan gynllun gwerth £60m gan Lywodraeth y DU i helpu rhywogaethau prin.
"Mae'n brosiect cadwraethol mor bwysig ac yn stori hyfryd," meddai Samantha Eden o Barc Bywyd Gwyllt Wingham yng Nghaint, oedd wedi teithio i gartref y teulu Hughes i gasglu 24 o falwod gludiog.
"Mae gyda ni adnoddau newydd ar eu cyfer - tri phwll hardd lle ry'n ni mynd i fod yn eu bridio nhw, yn dysgu mwy amdanyn nhw a'u hanghenion."

Roedd Samantha wedi teithio tua chwe awr o Barc Bywyd Gwyllt Wingham yng Nghaint i Lanarth
Mae sŵau Caer, Dudley, Longleat ac Askham Bryan yng Nghaerefrog hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect, gyda'r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw yn chwilio am lefydd addas lle gallai poblogaethau gwyllt o'r malwod gael eu sefydlu maes o law.
"Byddwn ni'n gwneud lot o ymchwil ar ecoleg y malwod, eu geneteg a sut mae eu magu nhw," eglurodd Nicky Needham, pennaeth rhywogaethau a chadwraeth BIAZA.
"Os allwn ni lunio darlun clir [o'u hanghenion] byddwn ni mewn lle da i allu eu hailsefydlu nhw yn y gwyllt.
"O groesi fy mysedd, fe hoffen i feddwl y gallen ni gwblhau hynny o fewn tair blynedd."

Mae'r malwod wedi'u gorchuddio gan fantell ludiog, sy'n lapio o amgylch eu cragen fregus
Dywedodd Simon Jones, sy'n gweithio i Barc Cenedlaethol Eryri fel warden cynorthwyol Llyn Tegid: "Mae'n anhygoel rili - 'da ni'n ffodus iawn mai dyma'r unig lyn ym Mhrydain sydd â'r falwen ludiog rŵan - a 'da ni'n ddiolchgar iawn i Ian am y gwaith mae'n 'neud."
Bydd mewnbwn sŵau ar draws Prydain yn "darparu mwy o adnoddau... er mwyn gwarchod y rhywogaeth arbennig yma", meddai.
"Efo newid hinsawdd mae 'na fwy o risg i'r falwen ludiog, felly y mwya' o boblogaethau sy' gynnon ni mewn llefydd gwahanol, mae'n mynd i gryfhau be' allwn ni ddysgu."

Dywedodd Simon Jones eu bod yn "ffodus iawn mai dyma'r unig lyn ym Mhrydain sydd â'r falwen ludiog"
I Ian Hughes, mae'n "gyffrous iawn" gweld cymaint o sylw yn cael ei roi i achub y falwen y mae'n cydnabod bod ganddo "obsesiwn" ag ef.
"I fi maen nhw'n drysor - fel arteffact o'r Aifft - mor werthfawr â hynny... mae eu gwarchod nhw yn ddyletswydd i'n plant a phlant ein plant."

Mae'r malwod yn dod i arfer â'u tanciau newydd yn Sŵ Dudley
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Mehefin

