Cymru'n sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Ghana yng Nghaerdydd

- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Lewis Koumas gôl hwyr i sicrhau gêm gyfartal 1-1 i Gymru yn erbyn Ghana yng Nghaerdydd.
Daeth y gôl yn nhrydydd munud amser ychwanegol ail hanner y gêm gyfeillgar.
Roedd Ghana ar y blaen ar ôl 66 munud ar ôl i Caleb Yirenkyi sgorio.
Achubwyd Ghana wrth i Daniel James daro'r postyn a'r trawst yn ystod y gêm, wrth i Gymru greu'r cyfleoedd gorau yn yr hanner cyntaf.
Chwaraeodd Cymru ar gyflymder a oedd yn golygu mai prin y gwelodd eu hymwelwyr y bêl yn ystod yr hanner cyntaf.
Wedi hanner cyntaf disglair ond di-sgôr i Gymru, cafodd Ghana'r gôl gyntaf yn yr ail hanner.
Er i Gymru barhau i bwyso, roedd hi'n edrych fel y byddai'r ymwelwyr yn cipio'r fuddugoliaeth.
Ond yn yr eiliadau olaf fe groesodd Neco Williams i Lewis Koumas, a sgoriodd ei gôl gyntaf dros dîm rhyngwladol Cymru i sicrhau sgôr terfynol 1-1.
Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Craig Bellamy bellach wedi mynd tair gêm heb fuddugoliaeth, wrth iddynt barhau â'u paratoadau ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd.