Teuluoedd gollodd anwyliaid i Covid yn cyhuddo llywodraeth Plaid Cymru o frad

Sam Smith-Higgins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Smith-Higgins wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fradychu" teuluoedd pobl a fu farw o Covid

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchydd dros deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod pandemig Covid yn dweud eu bod wedi cael eu "bradychu" gan weinidogion am gynnal adolygiad o'r ffordd ymdriniodd Cymru â'r pandemig, yn hytrach na'r ymchwiliad cyhoeddus yr oeddent wedi ei gefnogi ers blynyddoedd.

Mae'r holl wrthbleidiau yn y Senedd hefyd wedi beirniadu Plaid Cymru.

Bydd adolygiad Covid-19 yng Nghymru yn gorffen ei waith ym mis Mawrth 2029, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Cyhoeddodd llywodraeth Plaid Cymru y bydd athro o Brifysgol Caerdydd yn arwain panel annibynnol, gan nodi y byddai'r panel yn "rhydd o gyfarwyddiadau gan y llywodraeth o ran ei ddull gweithredu, ei ganfyddiadau, a'i gasgliadau".

Dywedodd Sam Smith-Higgins, o grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, wrth y BBC: "Fy neges i Lywodraeth Cymru heno yw eu bod yn gwybod eu bod wedi ein bradychu.

"Maent wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â ni ers chwe blynedd.

"Pam y byddai yn well ganddynt ddewis adolygiad anstatudol a fydd yn costio miliynau ac yn parhau am flynyddoedd, pan rydym wedi datblygu ymchwiliad statudol gyda hwy yn costio dim ond £10m ac yn cael ei gwblhau o fewn 18 mis?"

Dafydd Trystan DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd yr adolygiad yma'n ategu ymchwiliad cyhoeddus Covid-19 y Deyrnas Unedig yn hytrach na'i ddyblygu" meddai Dafydd Trystan Davies

Cyhoeddodd Dafydd Trystan Davies, y gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad, gynlluniau'r llywodraeth am y tro cyntaf yn y Senedd ddydd Mawrth.

Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan gadeirydd annibynnol, yr Athro Daniel Wincott o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Bydd yn cael ei gefnogi gan banel sicrwydd a fydd yn cynnwys unigolion sydd ag arbenigedd mewn systemau gofal iechyd, gofal cymdeithasol, ac iechyd y cyhoedd.

Dywedodd y gweinidog: "Bydd yr adolygiad yma'n ategu ymchwiliad cyhoeddus Covid-19 y Deyrnas Unedig yn hytrach na'i ddyblygu.

"Bydd yn adeiladu ar y dystiolaeth sylweddol sydd eisoes wedi'i gasglu, gan gynnwys canfyddiadau'r ymchwiliad, adolygiadau sydd wedi'u cyhoeddi, a gwaith perthnasol arall.

"Pan does dim digon o dystiolaeth neu bod yna fylchau'n parhau, bydd modd i'r panel archwilio materion mewn mwy o fanylder, a nodi beth arall sydd angen ei wneud.

"Mae ymchwiliad Covid-19 Prydain wedi gwneud cynnydd pellach sylweddol yn y misoedd diweddar, gyda llawer o dystiolaeth eisoes wedi'i ystyried, ac mae hyn yn tanlinellu'r angen i adolygiad Cymru ategu gwaith ymchwiliad statudol y Deyrnas Unedig yn hytrach na'i ddyblygu."

Atebolrwydd am y penderfyniadau?

Dywedodd Iain McIntosh o Reform ei fod yn pryderu na fyddai'r cyhoeddiad yn cyflawni'r hyn yr oedd teuluoedd mewn galar wedi'i ddymuno.

Dywedodd, er bod mynd i'r afael â phandemigau posibl yn y dyfodol yn bwysig, "beth am atebolrwydd am y penderfyniadau" yn ystod Covid, gofynnodd.

Nid oedd y datganiad yn cadarnhau pwerau cyfreithiol i orfodi tystion na mynnu dogfennau, meddai.

"Os yw cyn-weinidog neu uwch swyddog yn gwrthod cydweithredu, beth all y panel hwn ei wneud amdano mewn gwirionedd," gofynnodd.

Y gyllideb gychwynnol ar gyfer y flwyddyn nesaf fyddai £1.5m, meddai Dafydd Trystan Davies.

Cadarnhaodd ei fod yn "anstatudol" – sy'n golygu na fyddai ganddo bwerau i orfodi tystion – ond dywedodd: "Byddwn i'n disgwyl i bob gweinidog yn Llywodraeth Cymru a wasanaethodd yn y lle hwn gefnogi'r adolygiad hwn wrth iddo gwblhau ei waith."

Dywedodd Ken Skates, arweinydd Llafur Cymru: "Mae'n anodd gweld, ar y cam hwn, fod hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid."

Gofynnodd pam roedd Plaid Cymru wedi gollwng ei galwad am ymchwiliad.

Dywedodd Davies fod cynnal adolygiad yn addewid a oedd ym maniffesto Plaid Cymru.

Roedd Ceidwadwyr Cymru wedi cefnogi'r adolygiad pan gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf.

Ond holodd Natasha Asghar o'r blaid pam nad ymchwiliad oedd hwn. "Mae'n debyg mai dyma un o'r ychydig iawn o bethau ar y blaned hon y cytunon ni arnynt" meddai.

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, ei fod yn "ddryslyd ac yn siomedig" oherwydd y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen ag ymchwiliad.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, y dylai'r llywodraeth ymddiheuro i'r bobl yn oriel gyhoeddus y Senedd, a oedd wedi colli anwyliaid.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.