Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 15:05 GMT+1
Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, yr ail a gymerwyd gan Rhun ap Iorwerth.
Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.
Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod yn bwriadu diwygio rhai trethi, ond na fydd newid i gyfraddau treth incwm
Y prif weinidog hefyd yn dweud na fydd yn dileu'r dreth dwristiaeth wedi cwestiwn gan Reform
Moch daear gafodd sylw arweinydd Llafur, gan ofyn sut y byddai Plaid Cymru yn hoffi lladd moch daear
Cododd AS Plaid Cymru bryderon am brif strydoedd trefi ar draws y wlad, yn benodol Bangor
Cododd ASau o sawl plaid bryderon pobl sy'n byw mewn adeiladau sy'n gweld problemau mawr yn sgil cladin a diffygion adeiladu
Gallwch wylio'r sesiwn yn fyw drwy glicio ar chwarae ar frig y dudalen hon o 13:30.
Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, yr ail a gymerwyd gan Rhun ap Iorwerth.
Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.
Mae AS Plaid Cymru yn Fflint Wrecsam, Carrie Harper, yn sôn am gynllun datblygu lleol (CDLl) Cyngor Wrecsam "a gafodd ei dynnu'n ôl gan lywodraeth flaenorol Cymru oherwydd achos llys llwyddiannus a gychwynnwyd gan gynghorwyr Wrecsam", meddai.
Mae hi'n dweud wrth y prif weinidog fod y gwrthwynebiadau oherwydd bod llywodraeth flaenorol Lafur Cymru wedi bod yn "ymosodol yn eu hymateb i bryderon a godwyd gan gynghorwyr, yn benodol ynghylch niferoedd tai yn seiliedig ar ragamcanion poblogaeth anghywir, ac roedd pryderon hefyd ynghylch lefel isel tai fforddiadwy".
Gofynna sut y bydd Rhun ap Iorwerth yn "sicrhau y gellir diwygio cynlluniau datblygu lleol mewn ymateb i newidiadau amser real mewn anghenion tai lleol" a gweithio "mewn ysbryd o gydweithrediad ag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynlluniau lleol yn gweithio i'n cymunedau".
Mae'r prif weinidog yn dweud ei fod wedi "gofyn i swyddogion nodi opsiynau i gynyddu ymgysylltiad cymunedol wrth baratoi cynllun datblygu lleol a phenderfyniadau cynllunio gan gynnwys awdurdodau lleol hefyd".
"Mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol lynu wrth y polisi cynllunio cenedlaethol, fel y'i nodir yn Cymru'r Dyfodol a Pholisi Cynllunio Cymru," meddai, "ond cofiwch y gellir diweddaru'r ddau hynny'n rheolaidd i adlewyrchu blaenoriaethau'r llywodraeth."
"Byddwn yn ailystyried y rheini, ac rwyf wrthi'n ystyried rhinweddau a all y newidiadau hynny fod o fudd, ond mae partneriaeth yn allweddol," meddai ap Iorwerth.
Ffynhonnell y llun, PA MediaMae Llyr Powell o'r Blaid Reform yn gofyn am unedau damweiniau ac achosion brys yn ne-ddwyrain Cymru - a galwadau blaenorol Plaid Cymru am uwchraddio gwasanaethau yn Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach.
"O ystyried y gefnogaeth y mae eich plaid wedi'i rhoi i uwchraddio'r gwasanaethau, pryd all fy etholwyr ddisgwyl yr uwchraddiad hwnnw ac a fydd yn ymrwymo iddo'n llawn heddiw?", mae'n gofyn.
Mae'n ymddangos bod y prif weinidog yn ei ddiystyru fel syniad.
"Dydw i ddim yn credu mai newid strwythurol o'r fath a fydd yn cyflawni'r gwelliannau y mae pobl hen sir Gwent yn dymuno eu gweld o ran darparu gofal brys."
Dywed eu bod wedi ymrwymo i gefnogi'r bwrdd iechyd lleol i ddarparu gofal damweiniau ac achosion brys diogel ac amserol yn Ysbyty'r Faenor ger Cwmbrân.
Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Ffynhonnell y llun, Senedd CymruKiera Marshall
Cyn nawfed pen-blwydd tân Tŵr Grenfell, mae Kiera Marshall o Blaid Cymru yn dweud bod pobl sy'n byw yn Victoria Wharf yng Nghaerdydd yn "teimlo'n anniogel yn eu cartrefi eu hunain o ddydd i ddydd".
Mae hi'n dweud bod y datblygiad wedi dioddef o ddiffygion adeiladu difrifol a phroblemau diogelwch tân.
Mae'r prif weinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n gyflym i gyflwyno rheoliadau o dan y Ddeddf Diogelwch Adeiladau i sicrhau bod lesddeiliaid yng Nghymru yn cael eu diogelu.
Ffynhonnell y llun, GoogleMae Joe Martin o Reform hefyd yn galw am fynd i'r afael â'r achos, gan ofyn a fydd Plaid Cymru yn ymrwymo i derfynau amser adfer sy'n gyfreithiol rwymol, a sancsiynau go iawn i ddatblygwyr sy'n eu methu.
Mae'r Prif Weinidog yn dweud y byddant yn ystyried camau gorfodi lle mae llofnodwyr contract datblygwyr Llywodraeth Cymru i adfer adeiladau yn methu â chyflawni.
Mae cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn dweud bod y Blaid Lafur flaenorol wedi pasio "deddfwriaeth gref iawn" ar gladin a diogelwch tân ac yn dweud bod "corws trawsbleidiol ar y mater hwn".
Dywed arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter, fod maniffesto etholiad Plaid Cymru wedi addo amddiffyn pobl sy'n rhentu eu cartrefi, gan ofyn beth yw cynlluniau'r llywodraeth newydd i "symud yn gyflym i roi terfyn ar droi allan heb fai".
Dywed y prif weinidog fod y mater hwn yn "rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn, iawn i symud ymlaen ag ef yn gyflym", a'i fod am weithio "mewn partneriaeth ag ef" ar hyn.
"Hefyd, mae rhenti teg wrth wraidd ein polisi tai, ochr yn ochr â hynny mae'r amddiffyniadau y mae angen i ni eu rhoi ar waith," ychwanegodd.

Mae Gareth Beer o Reform, Sir Gaerfyrddin, yn dweud bod pobl yn Sir Gaerfyrddin yn flin ynghylch diwydiannu cefn gwlad "gyda thyrbinau gwynt enfawr, safleoedd solar enfawr, is-orsafoedd a milltiroedd a milltiroedd o beilonau".
Mae'n honni bod y cymunedau'n teimlo eu bod wedi'u "gadael" gan Blaid Cymru.
Mae ap Iorwerth yn dweud bod y llywodraeth "yn deall yn iawn yr angen i gael dull o ymdrin ag ynni sy'n cydnabod y rôl y mae cymunedau'n ei chwarae".
Mae'n cyhuddo Reform o gofleidio "safbwyntiau sy'n gwadu newid hinsawdd", ac yn dweud bod angen cyflawni rhwymedigaethau amgylcheddol.
Ffynhonnell y llun, PA Media
Ffynhonnell y llun, Senedd CymruZaynub Akbar
Mae Zaynub Akbar o Blaid Cymru yn gofyn am ddigartrefedd pobl ifanc yng ngogledd a dwyrain Caerdydd yn ei hetholaeth, Caerdydd Ffynnon Taf.
Mae hi'n dweud bod llawer o bobl ifanc yng Nghaerdydd mewn "sefyllfaoedd tai amhosibl" - fel syrffio soffas.
Dywed y prif weinidog bod "cartref diogel a fforddiadwy yn rhagofyniad sylfaenol".
Mae Cai Parry-Jones o Reform, sy'n AS yn yr un ardal, yn dweud bod lle i weithio ar draws y pleidiau i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae'n dweud ei bod yn "annioddefol" bod cyn-filwyr o bosibl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd.
Mae ap Iorwerth yn dweud eu bod am sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog - addewid y bydd cyn-filwyr yn cael eu trin yn deg - "mewn gwirionedd yn golygu rhywbeth".
Fel rhan o gyfres o erthyglau, dolen allanol sy’n edrych ar faterion allweddol ar gyfer y Senedd newydd, mae ymchwil y Senedd wedi ystyried digartrefedd a'r argyfwng tai yng Nghymru, dolen allanol.
Ffynhonnell y llun, Senedd CymruMair Rowlands
Dywed Mair Rowlands fod llawer o ganol trefi Bangor a Chonwy yn dirywio.
Mae AS Plaid Cymru yr etholaeth yn dweud bod gormod o fusnesau ym Mangor yn arbennig wedi cau eu drysau.
Mae'r prif weinidog yn dweud bod potensial i adfywio'r ddinas, ac yn dweud bod angen dod â phrifysgol y ddinas a'r cyngor at ei gilydd.
Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ddiwethaf ymchwiliad i adfywio canol trefi yng Nghymru, dolen allanol.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar, yn gofyn a fydd y prif weinidog yn gosod "moratoriwm ar unwaith ar ddatblygiadau ffermydd solar a gwynt ar raddfa ddiwydiannol" ar dir amaethyddol.
"Gadewch i ni fod yn onest, unwaith y bydd y tir hwn wedi mynd, mae wedi mynd?" meddai Millar, gan annog ap Iorwerth i "edrych ar y system gynllunio ac adolygu'r fframwaith cenedlaethol" ar y mater.
Dywedodd y prif weinidog: "Dydw i ddim yn credu o reidrwydd bod angen newid fframweithiau - y cymhwyso, a'r cymhwyso cyson, o'r rheolau hynny, yn fy marn i, nad oedd y llywodraeth flaenorol [Llafur Cymru] yn ei wneud."
Ffynhonnell y llun, PA MediaSut fyddai Plaid Cymru yn hoffi lladd moch daear, gofynnodd arweinydd y Blaid Lafur, Ken Skates.
"Ai saethu moch daear? Gwenwyno moch daear, efallai eu taro neu eu nwyo," gofynna.
Mae'r cwestiwn yn cael tipyn o ymateb o'r oriel gyhoeddus - mae'r prif weinidog yn dweud na fydd yn ymgysylltu â'r hyn y mae'n ei ddweud nad yw'n gwestiwn difrifol.
Ond ar ddileu TB, mae'r prif weinidog yn dweud y byddant yn dilyn y wyddoniaeth.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesA fydd Rhun ap Iorwerth yn addo swydd i bob myfyriwr nyrsio pan fyddant yn graddio, gofynna Thomas.
Dywed y prif weinidog fod ei weinidog iechyd wedi dechrau'r gwaith i sicrhau y gallant gefnogi myfyrwyr i gael gyrfaoedd yn y GIG.
Dywed Thomas ei fod yn cymryd hynny fel na.
Yn ddiweddarach mae'n gofyn a fyddai'r prif weinidog yn glynu wrth alwadau blaenorol i ailstrwythuro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywed Rhun ap Iorwerth fod Betsi Cadwaladr ar rybudd, ond nad yw cleifion eisiau strwythurau newydd, ond yn hytrach gofal iechyd gwell.

Ffynhonnell y llun, Senedd CymruDan Thomas
Mae cwestiwn cyntaf Dan Thomas yn dweud bod ddoe yn ddiwrnod siomedig i ddiwydiant Cymru pan wnaeth Tata ei gyhoeddiad y gallai arc trydan gael ei ohirio.
Mae arweinydd Reform Cymru yn dweud ei fod wedi cael sicrwydd bod adeiladu'r arc trydan yn dal yn hyfyw. A ddywedwyd hynny wrth y prif weinidog a beth mae'n ei wneud i sicrhau swyddi Cymru, gofynna.
Mae arweinydd Plaid Cymru yn ceisio gwneud hwyl am ben Reform am fod eisiau dod â ffwrnais chwyth yn ôl. Dywed fod ei weinidog menter [Adam Price] wedi siarad ddoe â phrif weithredwr Tata UK "er mwyn trafod y ffordd ymlaen".
Mae llawer o'r pwerau yn nwylo Llywodraeth y DU, meddai.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDywed John Clark o Reform mai'r dreth dwristiaeth yw un o'r pryderon mwyaf yn ei etholaeth - Bangor Conwy Môn.
A fydd yn cael ei dileu, mae'n gofyn.
"Na," meddai'r prif weinidog. Dywed ei fod am ddefnyddio'r ardoll dwristiaeth "mewn ffordd sy'n gwella'r cynnig twristiaeth".
Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, yn ddiweddarach fod galwadau Reform i dorri trethi yn "ddi-hid".
Ffynhonnell y llun, Senedd CymruBen McKenna
Mae Benjamin Hodge McKenna, AS Reform, Afan Ogwr Rhondda, yn gofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn "defnyddio pwerau datganoledig i leihau'r baich treth".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod "trethi datganoledig yn gwneud cyfraniad sylweddol at y gyllideb, gan ddarparu £4.4 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a seilwaith".
Mae'n ychwanegu bod ei lywodraeth yn bwriadu diwygio trethi busnes ac archwilio ffyrdd o wneud treth y cyngor yn decach.
Dywed hefyd na fydd unrhyw newid i gyfraddau treth incwm.
Mae tudalen ar graffu ariannol, dolen allanol ar wefan y Senedd yn darparu gwybodaeth am bwerau trethu Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gyfres o erthyglau, dolen allanol sy’n ystyried y materion allweddol ar gyfer y seithfed Senedd, maen nhw'n ystyried datblygiadau yn nhirwedd gyllidol Cymru, dolen allanol.
Ffynhonnell y llun, PA MediaDywed Rhun ap Iorwerth, "mae ein maniffesto yn glir, rydym wedi nodi ystod o ymrwymiadau i ysgogi mwy o gysondeb ac atebolrwydd er mwyn cryfhau trefniadau diogelu mewn ysgolion".
Ceir gwybodaeth am bolisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â diogelu yma, dolen allanol.
Daw'r cwestiwn cyntaf gan Andrew Griffin, AS Reform, Gwynedd Maldwyn, sy'n gofyn am effeithiolrwydd trefniadau diogelu mewn ysgolion.
Mae'r pynciau ar yr agenda yn cynnwys a fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau i leihau'r swm y mae pobl yn ei dalu mewn treth, a digartrefedd pobl ifanc yng Nghaerdydd.
Mae gan Kiera Marshall o Blaid Cymru gwestiwn ar y "sgandal cladin" yn adeilad Victoria Wharf y brifddinas, tra bod Francesca O'Brien o Reform yn gofyn am gyllid ar gyfer seilwaith ffyrdd yn ei hetholaeth, Gŵyr Abertawe.
Ffynhonnell y llun, Senedd CymruRoedd yr wythnos diwethaf yn hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru pan roedd Rhun ap Iorwerth yn cynnig yr atebion am y tro cyntaf mewn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog.
Ers blynyddoedd roedd ap Iorwerth wedi bod yn gofyn y cwestiynau ond mae'r rhod wedi troi, a daeth y prif weinidog newydd dan bwysau gan Dan Thomas o blaid Reform i egluro’n union beth oedd ei dargedau o ran amseroedd aros yn y GIG, a dywedodd y prif weinidog fod gwaith wedi dechrau i fynd i’r afael â’r broblem.
Pan ofynnwyd iddo beth fyddai’n ei wneud am broblemau oedd yn codi wedi cau Pont y Borth, ni wnaeth y prif weinidog ddiystyru croesfan newydd dros y Fenai, ond dywedodd hefyd ei fod yn chwilio am "ateb" i’r broblem, yn hytrach na strwythur.
Dywedodd ap Iorwerth hefyd y byddai’n gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru pam bod pobl - gan gynnwys plant - yn mynd yn sâl o nofio yn Afon Tawe.

Mae Pont y Borth wedi gorfod cau sawl tro yn ddiweddar er mwyn cynnal archwiliadau yn sgil amheuaeth bod cerbydau dros bwysau wedi ei chroesi
Croeso yn ôl i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - cyfle wythnosol yn y Senedd i'r gwrthbleidiau ac ASau meinciau cefn i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Mae ychydig dros fis ers buddugoliaeth Plaid Cymru yn etholiad y Senedd ar 7 Mai, gyda'r blaid yn ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf.
Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Ar ôl cwpl o gwestiynau wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Dan Thomas o blaid Reform, Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.