Unedau damweiniau ac achosion bryswedi ei gyhoeddi 14:39 GMT+1
Mae Llyr Powell o'r Blaid Reform yn gofyn am unedau damweiniau ac achosion brys yn ne-ddwyrain Cymru - a galwadau blaenorol Plaid Cymru am uwchraddio gwasanaethau yn Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach.
"O ystyried y gefnogaeth y mae eich plaid wedi'i rhoi i uwchraddio'r gwasanaethau, pryd all fy etholwyr ddisgwyl yr uwchraddiad hwnnw ac a fydd yn ymrwymo iddo'n llawn heddiw?", mae'n gofyn.
Mae'n ymddangos bod y prif weinidog yn ei ddiystyru fel syniad.
"Dydw i ddim yn credu mai newid strwythurol o'r fath a fydd yn cyflawni'r gwelliannau y mae pobl hen sir Gwent yn dymuno eu gweld o ran darparu gofal brys."
Dywed eu bod wedi ymrwymo i gefnogi'r bwrdd iechyd lleol i ddarparu gofal damweiniau ac achosion brys diogel ac amserol yn Ysbyty'r Faenor ger Cwmbrân.
Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru













