Cwestiynau cyffredin
Prentisiaethau’r BBC
Ynglŷn â chynlluniau prentisiaeth y BBC
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaeth ar gael ar draws y BBC.
Os ydych chi’n gorffen yn yr ysgol neu’r coleg ac yn awyddus i ddechrau eich gyrfa, neu os ydych chi’n awyddus i newid gyrfa neu os ydych chi’n dychwelyd i fyd gwaith ar ôl seibiant, mae ein huwch brentisiaethau/prentisiaethau uwch (lefelau 3 – 5) yn addas i chi. Mae gennym amrywiaeth eang o rolau ar gael, yn cynnwys gweithrediadau technegol, adnoddau dynol, marchnata, busnes, newyddiaduraeth a chynhyrchu.
Ein gradd-brentisiaethau (lefel 6) yw eich cyfle i gael cymhwyster gradd wrth weithio. Mae cyfleoedd ar gael ym meysydd peirianneg darlledu, peirianneg meddalwedd, data, busnes neu feysydd rheoli yn y BBC.
Mae ein prentisiaethau lefel ôl-radd (lefel 6-7) yn addas i’r rhai sy’n awyddus i fynd ymlaen i ddysgu ar lefel ôl-raddedig neu’r rhai sydd eisoes â phrofiad blaenorol mewn maes pwnc penodol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau a chael cymhwyster proffesiynol yn y gyfraith, mewn newyddiaduraeth neu reoli cynhyrchiad, dyma’r lefel i chi.
Mae hyd y cynllun yn amrywio yn ôl y brentisiaeth. Defnyddiwch yr isod fel canllaw i weld hyd arferol pob lefel prentisiaeth wahanol:
- Mae ein cynlluniau uwch brentisiaethau/prentisiaethau uwch fel arfer yn para rhwng 13 mis a dwy flynedd
- Mae ein cynlluniau prentisiaeth Gradd fel arfer yn para rhwng tair a phedair blynedd
- Mae ein cynlluniau prentisiaeth Gradd Meistr/Uwch fel arfer yn para rhwng 18 mis a dwy flynedd.
Ar ôl cwblhau eich cynllun prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn cael y cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig sydd ynghlwm wrth y brentisiaeth. Mae’r cymwysterau hyn yn amrywio yn ôl y gwahanol lefelau o brentisiaeth. Y cymhwyster terfynol ar gyfer prentisiaeth gradd lefel 6, er enghraifft, yw gradd baglor.
Byddwch, fe fyddwch yn cael y Cyflog Byw Cenedlaethol, o leiaf, drwy gydol eich prentisiaeth. Mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun yr ydych yn ymuno ag ef ond mae’r cyflogau’n amrywio o £22,950 i £33,000 (ynghyd â lwfans ychwanegol os yw eich prif ganolfan gwaith yn Llundain neu ar Ynysoedd y Sianel). Mae’r BBC yn talu’r holl dreuliau sy’n gysylltiedig â’r brentisiaeth. Mae gennym hefyd amrywiaeth o gymorth ariannol a chynlluniau ar gael. Os ydych yn rhywun sy’n gadael gofal, gallwch chi wneud cais am fwrsariaeth a ariennir gan y llywodraeth.
Fel prentis yn y BBC, byddwch ar gontract ‘Cyfnod Penodol’. Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyfnod eich prentisiaeth y mae eich contract. Mae’r BBC wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn talent newydd ac, wrth i chi nesáu at ddiwedd eich prentisiaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cefnogi chi a chynnig hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i chi i’ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf – gallai hyn fod yn swydd yma yn y BBC, neu rywle yn y diwydiant cyfryngau ehangach.
Fel prentis, mae eich dysgu’n gyfuniad o hyfforddiant ‘yn y gwaith’ ac ‘y tu allan i’r gwaith’. Mae’r elfen ‘yn y gwaith’ yn cyfeirio at y profiad rydych chi’n ei ennill yn ystod eich lleoliad gwaith. Yr hyfforddiant ‘y tu allan i’r gwaith’ yw’r amser rydych chi’n ei dreulio i ffwrdd o’r gweithle gyda’r darparwr dysgu allanol. Byddwch yn cael o leiaf 6 awr yr wythnos (yn unol â gofynion y llywodraeth) i ganolbwyntio ar eich astudiaethau.
Mae’r ffordd y mae darparwyr dysgu yn darparu hyfforddiant yn amrywio o gynllun i gynllun. Gall ddigwydd o bell (ar-lein), wyneb yn wyneb, neu fel cyfuniad o’r ddau. Efallai y cewch ddiwrnod bob wythnos yn benodol ar gyfer eich hyfforddiant ‘y tu allan i’r gwaith’, neu efallai y cewch wythnosau astudio bloc. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer y brentisiaeth rydych chi’n gwneud cais amdani, edrychwch ar ddisgrifiad swydd y cynllun penodol hwnnw.
Mae ein Diwrnodau Blasu ‘Get In’ yn ffordd wych o gael rhagor o wybodaeth am fywyd yn y BBC a’r cyfleoedd sydd gennym i’w cynnig. Mae manylion ar gael yn adran Profiad Blasu ‘Get In’ y wefan hon, lle gallwch lenwi ffurflen ‘mynegi diddordeb’.
Bydd dilyn @BBCGetIn ar Instagram a @LifeAtTheBBC ar TikTok hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y rolau a’r cyfleoedd sydd ar gael yn y BBC a sut brofiad yw bod yn brentis yn y BBC. Mae manylion yno hefyd am gyfres o weminarau bob blwyddyn sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am y cynlluniau sydd ar gael.
Canllawiau ar gyfer gwneud cais
Rydym fel arfer yn derbyn ceisiadau ar gyfer cynlluniau ym mis Hydref a mis Rhagfyr. Bydd pob rôl yn cael ei hysbysebu ar wefan gyrfaoedd y BBC a, phan fyddwn yn derbyn ceisiadau, byddwch yn gallu cael rhagor o wybodaeth am y rolau hyn.
Rydym y’n argymell eich bod yn treulio amser yn darllen yr wybodaeth am yr holl gynlluniau sydd ar gael i’ch helpu i benderfynu. Mae ein huwch brentisiaethau a’n gradd-brentisiaethau wedi’u hanelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd, profiad helaeth mewn maes neu os ydych chi wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth yn y gorffennol, edrychwch ar ein prentisiaethau lefel ôl-raddedig.
Mae i bob prentisiaeth feini prawf cymhwysedd gwahanol. Darllenwch yr hysbyseb swydd i gael manylion y gofynion cymhwysedd penodol cyn i chi wneud cais.
Oes, mae gan bob cynllun ddyddiad cau a fydd yn cael ei ysgrifennu’n glir ar yr hysbyseb swydd. Mae’r cyfnod gwneud cais am ein cynlluniau’n para nifer o wythnosau. Rydym yn eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl i geisio osgoi unrhyw faterion annisgwyl a allai ddigwydd cyn y dyddiad cau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio popeth cyn pwyso ‘cyflwyno’, yn enwedig y cwestiynau sy’n ymwneud â chymhwysedd y cynlluniau. Ni allwn dderbyn ceisiadau unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio.
Bydd pob hysbyseb swydd yn rhestru’r lleoliad(au) sydd ar gael ar gyfer y rôl a’r cynllun hwnnw. Dim ond am un lleoliad y cewch wneud cais fesul cynllun, felly meddyliwch yn ofalus pa leoliad sy’n gweithio orau i chi. Cofiwch y bydd yn rhaid i chi allu teithio’n rhwydd i’r lleoliad/swyddfa byddwch chi’n ei ddewis. Bydd unrhyw geisiadau ychwanegol i’r un cynllun yn cael eu tynnu’n ôl.
Byddem yn argymell i chi beidio â gwneud cais am fwy nag un cynllun prentisiaeth mewn blwyddyn. Mae’n well canolbwyntio ar y brentisiaeth benodol rydych chi’n teimlo fwyaf cyffrous amdani er mwyn i chi allu dangos eich angerdd dros y rôl. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl eich bod yn gallu dangos eich cymhelliant dros fwy nag un cynllun i ni a bod y cynlluniau’n cyd-fynd â’ch uchelgais gyrfa, a’ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y ddau, yna cewch wneud hynny.
Dim ond un cais cewch chi gyflwyno fesul cynllun ar gyfer pob blwyddyn dderbyn a bydd unrhyw geisiadau ychwanegol yn cael eu tynnu’n ôl. Er enghraifft, os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am rôl ar y Brentisiaeth Cynhyrchu, byddwn yn ystyried eich cais cyntaf am y cynllun hwn a dim unrhyw geisiadau ychwanegol am leoliadau/timau eraill.
Mae gan bob cynllun ei feini prawf cymhwysedd a set o gwestiynau ei hun felly nid yw’n bosibl newid cynlluniau. Byddem yn eich annog i ddarllen yr holl wybodaeth berthnasol yn gyntaf cyn gwneud cais. Tra mae cynlluniau’n dal i fod ar agor i geisiadau, gallwch dynnu eich cais yn ôl o un cynllun a gwneud cais am un arall.
Gallwch! Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau fesul rôl bob blwyddyn felly mae’r swyddi’n gystadleuol. Roedd llawer o’n prentisiaid yn llwyddiannus ar eu hail neu drydedd ymgais. Gallwch ddysgu llawer o fynd drwy’r broses asesu a, gobeithio, myfyrio ar yr adborth a roddwyd i’ch helpu i wella bob tro.
Nid oes angen i chi lwytho CV neu Lythyr Eglurhaol i fyny wrth wneud cais am gynllun prentisiaeth. Gofynnir i chi lenwi eich manylion yn uniongyrchol ar eich ffurflen gais drwy ein porth gyrfaoedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn treulio amser yn llenwi’r wybodaeth y gofynnir i chi ei darparu yn gywir er mwyn osgoi problemau wrth fwrw ymlaen â’ch cais. Os oes gan gynllun ofynion penodol o ran cymwysterau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi manylion llawn y cyrsiau rydych chi wedi’u hastudio a’r cymwysterau rydych chi wedi’u hennill oherwydd gall hyn effeithio ar eich cais.
Yn ystod y broses ymgeisio, rydym eisiau dysgu mwy am eich sgiliau a’ch diddordebau yn ogystal ag edrych ar sut rydych chi’n arddangos ein gwerthoedd a’n hymddygiadau. Mae meddylfryd yn bwysig i ni. Rydym yn chwilio am bobl gadarnhaol, hunanymwybodol a brwdfrydig. Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaeth.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2 ac os oes angen addasiadau arnoch er mwyn cyflwyno eich cais neu i gael cyfweliad ar gyfer rôl gyda’r BBC, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen hon gan ddewis Addasiad Rhesymol fel y pwnc, a rhowch wybod i ni pa addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch.
Byddem yn falch o gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut y gallwn eich cefnogi drwy’r broses, gan fod nifer o wahanol ffyrdd y gallwn dderbyn cais a/neu addasu ein prosesau dethol.
‘Addasiad rhesymol’ (ac ‘addasiad’ pan gaiff ei ddefnyddio yma) yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r newidiadau y bydd sefydliadau a phobl sy’n darparu gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn eu gwneud ar eich cyfer os yw eich anabledd, nam neu gyflwr yn eich rhoi dan anfantais. Er enghraifft, efallai y bydd arnoch angen mwy o amser ar gyfer rhai rhannau o’r cais neu’r asesiad, cael cwestiynau’r cyfweliad ymlaen llaw neu fod arnoch angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Gallwn wneud addasiadau fel is-deitlau dros Teams, darparu Iaith Arwyddion Prydain neu roi amser ychwanegol i chi – beth bynnag yw’r addasiad priodol ar gyfer eich anghenion. Beth am gael sgwrs a chael yr addasiad gorau i chi.
Pwy sy’n gymwys
Mae’r cymwysterau sydd eu hangen yn dibynnu ar y cynllun rydych chi’n gwneud cais amdano. Mae rhagor o fanylion am y gofynion ar gael ar ddisgrifiadau swydd pan fydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y rolau wedi agor. Ceir sawl cynllun lle nad oes angen cymhwyster blaenorol, neu lle mai’r gofyniad sylfaenol yw TGAU mewn Mathemateg a Saesneg neu gymwysterau cyfatebol.
Rydym yn eich annog i feddwl yn ofalus am ba lefel o brentisiaeth sydd fwyaf priodol i chi a’ch cam nesaf ar daith eich gyrfa. Ar gyfer rhai cynlluniau, gallai dysgu blaenorol/cymwysterau rydych chi wedi’u hennill yn y gorffennol olygu nad ydych yn gymwys i fwrw ymlaen â chais am y brentisiaeth benodol honno. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ym mhob un o’n disgrifiadau swydd (sydd ar gael pan fydd y broses ymgeisio ar agor). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi amlinellu manylion eich cymwysterau blaenorol yn gywir ac wedi gwirio eich ymatebion i’r cwestiynau cymhwysedd cyn cyflwyno eich cais.
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn pan fydd y brentisiaeth yn dechrau. Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer unrhyw un o’n cynlluniau.
I fod yn gymwys i wneud prentisiaeth, rhaid i chi fod â’r hawl gyfreithiol i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y cynllun. Mae’n rhaid i chi hefyd ddiwallu gofyniad preswylio’r brentisiaeth ac wedi bod yn breswylydd yn y DU am o leiaf 3 blynedd cyn dyddiad dechrau’r cynllun.
Ar gyfer cynlluniau yn Guernsey, rhaid i ymgeiswyr fod â hawl i fyw a gweithio yn Guernsey yn unol â chyfreithiau poblogaeth lleol. Ar gyfer cynlluniau yn Jersey, rhaid i ymgeiswyr fod â hawl i fyw a gweithio yn Jersey, yn unol â chyfreithiau poblogaeth lleol.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych yr hawl i weithio cyn cyflwyno cais. Ni allwn fwrw ymlaen â’ch cais os nad oes gennych y statws hawl i weithio priodol. Gallwch edrych ar www.gov.uk/legal-right-work-uk i weld pa ddogfennau sy’n rhoi’r hawl cyfreithiol i chi weithio yn y DU.
Nid yw’r BBC yn gallu darparu nawdd ar gyfer rolau gyrfaoedd cynnar y BBC. Os ydych chi yn y Deyrnas Unedig ar fisa myfyriwr, neu os yw’r caniatâd i fyw yn y DU at ddibenion addysgol yn unig, nid ydych yn gymwys ar gyfer prentisiaeth oni bai eich bod yn gymwys drwy fodloni unrhyw un o’r categorïau eraill a amlinellir ar-lein yn www.gov.uk/guidance/apprenticeship-funding-rules.
I gael eich derbyn ar Gynllun Prentisiaeth yn y BBC, rhaid eich bod wedi bod yn breswylydd parhaus yn y DU am o leiaf 3 blynedd pan fydd y brentisiaeth yn dechrau.
Mae eithriadau i’r rheol hon, a amlinellir ar-lein yn gov.uk/guidance/apprenticeship-funding-rules. Os oes unrhyw un o’r eithriadau’n berthnasol i chi, er enghraifft rydych chi fel rheol yn preswylio yn y DU ond rydych chi wedi/yn byw dramor dros dro am resymau fel addysg neu flwyddyn i ffwrdd, yna cewch wneud cais. Ar ben hynny, cewch wneud cais os ydych chi’n ddinesydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir ac mae gennych chi statws Preswylydd Cyn-sefydlog/Preswylydd Sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) ac rydych wedi byw yn y DU neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd am y tair blynedd ddiwethaf.
Os ydych chi’n breswylydd yn y Deyrnas Unedig ar fisa myfyriwr yna dydych chi ddim fel arfer yn gymwys o dan reolau cyllido prentisiaethau’r DU. I weld y meini prawf cymhwyso llawn, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-funding-rules-2025-to-2026.
Ar hyn o bryd mae ein cyfleoedd prentisiaeth yn y DU. Ar gyfer rolau a chyfleoedd rhyngwladol, defnyddiwch ein hadnodd chwilio am swydd.
Mae’r BBC yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl anabl o bob cefndir ar gyfer pob un o’r prentisiaethau y mae’n eu hysbysebu. Ar ben hynny, drwy BBC Extend, rhaglen gyflogaeth gweithredu cadarnhaol y BBC ar gyfer pobl anabl, yn cynnwys y rhai sy’n ystyried eu hunain yn fyddar a/neu’n niwrowahanol, mae nifer o rolau prentisiaeth wedi cael eu darparu dim ond ar gyfer pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn unol â’r diffiniad yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), neu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (1995) os ydynt yn gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon.
Rydym yn cydnabod bod pobl anabl yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu a’n nod yw creu rhagor o gyfleoedd i bobl anabl yn y BBC.
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), rydych chi’n berson anabl os oes gennych amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Nid oes rhestr gynhwysfawr o gyflyrau y gellir eu hystyried yn anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adran BBC Extend ein gwefan gyrfaoedd.
Camau asesu
Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun, ond oherwydd y nifer fawr o geisiadau, gall gymryd peth amser i gwblhau’r broses. Byddwch yn cael gwybod ar bob cam o’r broses pryd y gallwch ddisgwyl clywed ymhellach a byddwn yn rhannu dyddiadau cyn gynted ag y gallwn. Mae ein canolfannau asesu fel arfer yn rhedeg rhwng mis Ionawr a mis Ebrill.
Bydd amserlenni’n amrywio, ond bydd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau unrhyw dasgau’n cael ei anfon gyda chyfarwyddiadau’r dasg. Rydym yn argymell peidio â’i adael tan y funud olaf rhag ofn y bydd problemau technegol.
Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun a nifer y swyddi rydym yn asesu ymgeiswyr ar eu cyfer. Yn y cam canolfan asesu a chyfweliad, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am amserlenni.
Nac oes, nid oes gan bob cynllun prentisiaeth dasg i’w chwblhau cyn y ganolfan asesu, mae’n amrywio yn ôl pob rôl. Efallai y bydd gan rai cynlluniau prentisiaeth asesiadau ar-lein yn ystod y broses ymgeisio. Byddwch yn cael eich tywys drwy’r rhain wrth i’r broses symud ymlaen a byddwn yn rhoi gwybod i chi am amserlenni allweddol.
Os byddwch yn llwyddo i gyrraedd un o’n canolfannau asesu neu’r cam cyfweld, yna cewch gyfle i ofyn am adborth p’un a oeddech chi’n llwyddiannus ai peidio. Ar gyfer llawer o’n hasesiadau ar-lein, byddwch hefyd yn cael adroddiad adborth. Ni allwn rannu adborth ar gyfer camau eraill ein proses oherwydd y nifer fawr o geisiadau a gawn.
Byddwch yn gallu gweld statws presennol eich cais drwy fewngofnodi i’ch proffil ar ein safle gyrfaoedd. Bydd yr holl ddiweddariadau’n cael eu hanfon i’r cyfeiriad e-bost a ddarperir yn eich proffil. Mae’n hanfodol eich bod yn gallu mynd i’r cyfeiriad hwn drwy gydol y broses.