Beth mae Aelod o'r Senedd yn ei wneud?
Cwtsiwch mewn, Gymru, ma’n amser i drafod y Senedd, neu yn benodol, beth mae’r bobol tu fewn i’r Senedd – Aelodau o’r Senedd – yn ei ’neud.
Mae Aelod o’r Senedd – neu AS – yn cael ei ethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli.
Mae hyn yn golygu bod eu penderfyniadau nhw yn effeithio ar bethau go iawn yn dy fywyd di. Pethau fel…
Addysg. Ti’n cofio’r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno? Wel, y Senedd oedd yn gyfrifol am hynny.
A thrafnidiaeth – er, dim y nhw sydd ar fai bob tro ti’n colli’r bws!
Mae’r pwerau yma wedi eu datganoli - sy’n golygu mae Cymru sy’n gwneud y penderfyniadau ar rhain.
Ond be’ ma’ nhw’n wneud?
Mae Aelodau o’r Senedd yn trafod syniadau. Weithiau ma’ pawb yn cytuno ac wel, adegau eraill dydyn nhw ddim!
Mae’n nhw’n dadlau on’d y’n nhw?
Iawn, yndyn, ma’n’ nhw yn dadlau… ond gyda ffeithiau a ffigyrau i gefnogi eu syniadau a maen nhw’n pleidleisio ar gyfreithiau.
Mae Aelodau o’r Senedd hefyd yn helpu i benderfynu sut i wario’r gyllideb.
A faint o arian ydy hynny?
Tua 25 biliwn o bunnoedd y flwyddyn! ae’r arian yn cael ei wario ar bethau fel…
Addysg, felly talu athrawon a staff cynorthwyol mewn ysgolion a darparu gofal plant am ddim i blant tair i bedair oed os ydy rhieni nhw’n gweithio.
Trafnidiaeth, fel helpu gostwng prisiau trenau a phenderfynu ar lwybrau bysiau.
A gweithredu ar yr hinsawdd, fel lleihau llygredd ac annog teithio actif fel seiclo a cherdded.
Mae materion sydd i’w trafod yn cael eu hastudio’n fanwl mewn pwyllgorau. Mae grwpiau bach o Aelodau o’r Senedd yn canolbwyntio ar un pwnc, er enghraifft, iechyd neu addysg, ac yn ymchwilio’n fanwl iddo.
Maen nhw’n siarad ag arbenigwyr, yn darllen tystiolaeth, ac yn gofyn LLWYTH o gwestiynau nes bod y manylion yn dod allan o’u clustiau nhw!
Mae Bae Caerdydd yn le neis i dreulio amser, ond tydy Aelodau o’r Senedd ddim yn byw yno - mae ganddyn nhw gartrefi - yn eu hetholaethau.
Dyma lle maen nhw’n gweithio i’w cymuned. Maen nhw’n mynd i ddigwyddiadau codi arian a rhai elusennol, yn cwrdd â grwpiau lleol ac yn ymweld â gweithleoedd.
Maen nhw hefyd yn cynnal cymorthfeydd – yn llythrennol, lle i roi cymorth - gair da ’de!
Mewn cymorthfeydd, gall pobl – fel chdi a fi – fynd i siarad am bethau sy’n ein poeni, fel toriadau i’r gwasanaeth bws neu lawer mwy o draffig yn yr ardal oherwydd prosiectau adeiladu tai.
Gwaith AS yw gwrando, deall beth sy’n bwysig yn lleol, a mynd â’r materion hynny yn ôl i’r Senedd.
Pam bod mwy o aelodau Senedd ar eu ffordd i Fae Caerdydd?
Wel, ar hyn o bryd mae ‘na 60 o Aelodau o’r Senedd ond ar ôl etholiadau 2026 bydd ‘na naw deg chwech.
Mae cefnogwyr yn dweud bod angen mwy o bobl i adolygu sut mae’r llywodraeth yn gweithredu, gan fod pwerau’r Senedd wedi cynyddu ers y bleidlais ar ddatganoli.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud dylen nhw wario’r arian ar bethau eraill.
Felly dyna waith Aelod o’r Senedd.
Maen nhw’n llunio deddfau. Maen nhw’n gwneud yn siwr bod y llywodraeth yn gwneud penderfyniadau addas. Maen nhw’n dadlau dros gyllidebau. Ac maen nhw’n siarad ar ran pobol Cymru ac yn eu cynrychioli.
Dy Aelod di o’r Senedd. Dy gymuned di. Dy lais di yn y Senedd.
Description
Dysga am rôl Aelodau o’r Senedd – beth maen nhw’n ei wneud a sut. Darganfydda am y cynnydd yn y nifer o Aelodau’r Senedd yn etholiad y Senedd 2026.
Rhagor ar dudalen Gwleidyddiaeth (Cymru)
Now playing video 3 of 5