Beth mae'r Senedd yn ei wneud?
Ma’n siŵr bo ti ’di clywed am y Senedd. Senedd Cymru ydi hi ac mae wedi ei lleoli ym Mae Caerdydd. Dyma lle mae gwleidyddion – y rhai rwyt ti’n dewis – yn siarad ar dy ran di.
Yn gyntaf – cyfreithiau. A na, ddim rhai diflas, bach, di-ddim, ond stwff mawr, go iawn sy’n effeithio arnat ti.
Cymer ysgolion, er enghraifft. Pasiodd y Senedd Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, gan arwain at rai o’r newidiadau yma.
Cyflwyno Cwricwlwm newydd yng Nghymru. Cyflwyno dysgu sy’n seiliedig ar sgiliau. A chryfhau statws dysgu’r iaith Gymraeg.
Cyfraith go iawn ti’n ei weld ar waith bob dydd yn y meysydd sydd ‘di cael eu datganoli.
Felly, mae addysg, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg i gyd yn feysydd sydd ‘di cael eu datganoli.
Yn syml, mae datganoli’n golygu bod y pwerau yma wedi gadael Senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan ac wedi eu trosglwyddo i Senedd Cymru, a gall y Senedd lunio cyfreithiau ar ei gyfer.
Ond, cyn i ti ofyn – dydy pob peth ddim wedi ei ddatganoli.
Fel… Diogelwch y wlad – sy’n ariannu’r fyddin, yr RAF a’r Llynges. Budd-daliadau – sy’n helpu pobl sydd angen cymorth ariannol. A mewnfudo – rheoli pwy a faint o bobl sy’n gallu dod i fyw yn y Deyrnas Unedig.
Yndi, mae’r Senedd yn delio ’efo arian hefyd. Mae’n penderfynu ac yn cymeradwyo - neu rhoid yr oce - i rai trethi Cymreig sy’n aros yng Nghymru. Mae’r rhain yn helpu i dalu am bethau fel ysgolion ac athrawon, meddygon teulu a gofal iechyd meddwl.
Mae’r Senedd hefyd yn cadw llygad ar sut mae llywodraeth Cymru yn gwario’r arian.
Felly, llywodraeth Cymru sy’n gwario’r arian a’r Senedd sy’n dweud,
“Iawn ta… dangos i ni lle mae’r arian yn mynd a pam mae o’n mynd i fana.”
A ddim jest arian cefn soffa ’di hwn. Pan dwi’n sôn am arian, dw i’n golygu tua 25 biliwn y flwyddyn. Mae’r rhan fwya’n dod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae rhywfaint yn dod o drethi sy’n cael eu codi yma yng Nghymru. Mae’r arian yma’n aros yng Nghymru.
Felly, dyma enghreifftiau o waith y Senedd. Taclo rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Rhoi gostyngiad i docynnau trên a rhai llwybrau bysiau. Mae’n gyfrifol am yr arian sydd ei angen i adeiladu tai cymdeithasol. A chefnogi’r iaith Gymraeg drwy ddigwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd.
Lle bach, cyfrifoldebau mawr.
A dyma ’wbath sy’n drysu pobol.
Llywodraeth Cymru sy’n rhedeg gwasanaethau. Y Senedd sy’n gwirio eu bod nhw’n ’wneud job da.
Mae’r Senedd yn gwneud yn siŵr bod llywodraeth Cymru’n atebol i bobl Cymru - ti a fi, felly d’i nhw’m yn gallu gwneud beth bynnag maen nhw isio – o na!
Dyma beth mae’r Senedd yn ei wneud. Llunio cyfreithiau. Penderfynu ar rai trethi. Holi cwestiynnau a chadw golwg ar benderfyniadau’r llywodraeth.
Cynrychioli pobol Cymru – sef ti a fi.
Description
Dysga am gyfrifoldebau a phwerau Senedd Cymru. Darganfydda sut mae’n cael effaith ar Gymru drwy greu deddfau a sicrhau bod llywodraeth Cymru’n atebol i bobl Cymru.
Rhagor ar dudalen Gwleidyddiaeth (Cymru)
Now playing video 5 of 5
- Now playing3:12
