Genghis Khan tua 1162 – tua 1227

Part ofHanesUned 2: Hanes Ewrop a/neu'r byd

Esgyniad Temüjin i rym

Plentyndod ac ieuenctid

Enw go iawn Genghis Khan oedd Temujin. Cafodd ei eni tua 1162, er nad yw llawer o haneswyr yn siŵr o’r union ddyddiad.

Ar yr adeg hon, nid oedd y Mongoliaid yn un genedl unedig. Roeddent wedi’u rhannu’n nifer o lwythau, neu glaniau, gwahanol a oedd yn aml yn cystadlu â’i gilydd am dir, da byw a dylanwad.

Roedd pob llwyth yn cael ei arwain gan bennaeth, a elwid yn Khan. oedd llawer o Fongoliaid, a oedd yn symud o un lle i'r llall gyda’u hanifeiliaid i chwilio am dir pori. Roeddent hefyd yn farchogion medrus.

Yesugei oedd enw tad Temujin ac ef oedd arweinydd y llwyth Borjigin. Cafodd ei wenwyno gan lwyth cyfagos y Tatar, a oedd yn elynion i’w deulu. Ar ôl llofruddiaeth ei dad, collodd Temujin a’i deulu eu gwarchodaeth a’u statws. Roeddent yn wynebu bywyd anodd ac fe wnaeth llawer o’r llwyth eu gadael.

Hö'elün oedd enw mam Temujin. Gweithiodd yn galed i gadw’r teulu’n fyw ar ôl iddynt gael eu gadael.

Dysgodd bywyd cynnar Temujin lawer iawn iddo am deyrngarwch, arweinyddiaeth a sut i oroesi. Sylweddolodd fod angen mwy o undod ac arweinyddiaeth gryfach ar lwythau Mongolaidd os oeddent am oroesi a ffynnu.

Temujin fel arweinydd

Er bod ei deulu wedi cael ei wrthod gan ei lwyth, roedd ganddo rywfaint o barch a statws o hyd am eu bod yn perthyn i’r teulu brenhinol. Defnyddiodd Temujin ei statws i ddechrau hel cefnogaeth.

  • Priododd Temujin â merch o’r enw Börte.
  • Cafodd hi ei herwgipio gan lwyth Merkit.
  • Gofynnodd Temujin am help gan lwyth Kereit.
  • Fe wnaeth Toghril o lwyth Kereit, a Jamukha, cynghreiriad Temujin, ei helpu i gasglu byddin at ei gilydd i achub Börte.

Enillodd Temujin fwy o ddilynwyr yn sgil ei fuddugoliaeth dros y Merkit, a chynyddodd ei enw da fel arweinydd a rhyfelwr.

Enillodd Temujin ddilynwyr teyrngar o blith y nökeriaid. Milwyr a wnaeth dalu bersonol iddo oedd y rhain. Y dynion hyn oedd craidd ei fyddin ac roeddent yn hanfodol i’w lwyddiannau cynnar. Yn wahanol i lawer o arweinwyr llwythau, roedd Temujin yn aml yn dyrchafu pobl ar sail teyrngarwch a gallu yn hytrach na statws neu gyfoeth. Fe wnaeth hyn ei helpu i feithrin dilynwyr cryf a theyrngar.

Yn 1202 fe wnaeth Temujin drechu’r Tartariaid. Ar ôl ei fuddugoliaeth, gorchmynnodd Temujin fod dynion y llwyth Tartar a oedd yn dalach nag uchder echel cert (tua 1 metr, neu 3 troedfedd) yn cael eu dienyddio.

Wynebodd Temujin heriau gan nifer o arweinwyr a oedd yn cystadlu â’i gilydd, gan gynnwys ei gyfaill oes, Jamukha. Roedd y ddau’n anghytuno ynglŷn â sut dylid arwain y llwythau Mongolaidd, ac arweiniodd hyn at gyfres o anghydfodau rhyngddynt. Yn y pen draw, cafodd Jamukha ei drechu gan Temujin, ac fe gafodd ei ddienyddio’n ddiweddarach.

Anghydfod arall a oedd ar y gweill oedd y gwrthdaro rhwng Temujin ac Ong Khan, arweinydd llwyth Kereit. Yn y blynyddoedd cynnar roeddent yn ffrindiau, ond wrth i Temujin gael mwy o bŵer a chefnogaeth, dechreuodd y berthynas newid. Aeth hi’n rhyfel rhyngddynt, ac yn 1203 enillodd Temujin y rhyfel a threchu llwyth Kereit.

Yn 1204, trechodd Genghis Khan lwyth Naiman ym Mrwydr Chakirmaut. Dyma’r olaf o’r llwythau Mongolaidd.

Erbyn 1204, roedd Temujin wedi trechu ei brif gystadleuwyr ac ef bellach oedd arweinydd mwyaf pwerus Mongolia.

Yn 1206 mewn kurultai, sef cynulliad o Benaethiaid Mongolaidd, cafodd Temujin ei gyhoeddi’n Genghis Khan, rheolwr cenedl unedig Mongolia.

Back to top

Creu gwladwriaeth y Mongoliaid

Roedd angen i Genghis Khan greu cenedl Fongolaidd sefydlog a threfnus, gyda strwythur cyfreithiol a gwleidyddol.

Sefydlodd Genghis Khan lys brenhinol a gwarchodlu personol o’r enw’r keshig. Roeddent yn amddiffyn Genghis Khan ac yn darparu pŵer milwrol hefyd.

Chwaraeodd Börte, prif wraig Genghis Khan, ran bwysig yn ei fywyd ac yn yr Ymerodraeth Fongolaidd gynnar. Roedd ganddi statws uchel yn y llys, a’i meibion hi oedd yn cael eu cydnabod fel prif Genghis Khan.

Cyflwynodd Genghis Khan nifer o newidiadau a effeithiodd ar gymdeithas a llywodraeth Mongolia.

  • Ad-drefnodd fyddin Mongolia gan ddefnyddio’r system ddegol, gan rannu milwyr yn unedau o 10, 100, 1,000 a 10,000. Roedd hyn yn creu cadwyn awdurdod glir.

  • Cymysgodd aelodau o lwythau gwahanol o fewn unedau’r fyddin, gan leihau pwysigrwydd teyrngarwch llwythol.

  • Roedd yn dyrchafu pobl ar sail gallu a theyrngarwch, yn hytrach na chefndir llwythol.

  • Mabwysiadodd sgript ysgrifenedig yn seiliedig ar yr wyddorUyghur i gofnodi cyfreithiau, trethi a busnes y llywodraeth.

  • Roedd yn annog masnach ac yn rhoi amddiffyniad i fasnachwyr a oedd yn teithio drwy diroedd Mongolia.

  • Cyflwynodd gôd o gyfreithiau o’r enw’r Yassa, a oedd yn pwysleisio:

    • teyrngarwch ac ufudd-dod
    • disgyblaeth filwrol
    • trefn gymdeithasol
    • goddefgarwch crefyddol, ar yr amod bod pobl yn parhau i fod yn deyrngar i'r wladwriaeth Fongolaidd

Mae llawer o haneswyr o’r farn bod y newidiadau hyn wedi helpu i gryfhau ac uno’r Ymerodraeth Fongolaidd, gan ei gwneud yn haws i lywodraethu ei thiriogaeth a oedd yn tyfu.

Back to top

Y Mongoliaid yn goresgyn China

Goresgyniad China

Ar ddechrau’r 13eg ganrif, roedd China wedi'i rhannu rhwng sawl talaith, yn hytrach na chael ei rheoli gan un llywodraeth. Roedd y taleithiau hyn weithiau’n cystadlu â’i gilydd, gan greu cyfleoedd i’r Ymerodraeth Fongolaidd a oedd yn ehangu.

  • Llinach Jin oedd yn rheoli gogledd China.
  • Llinach Gorllewin Xia (Xi Xia) oedd yn rheoli gogledd-orllewin China.
  • Llinach De Song oedd yn rheoli de China.

Ymosododd Genghis Khan a’r Mongoliaid ar y taleithiau hyn dros nifer o flynyddoedd, gan ymestyn rheolaeth y Mongoliaid yn raddol ar draws rhannau o China.

Yn 1205, dechreuodd Genghis Khan ymosod ar orllewin Xia. Ar ôl sawl ymgyrch, derbyniodd ei rheolwyr awdurdod Mongolaidd. Yn 1226, ceisiodd yr Ymerawdwr Xianzong o orllewin Xia wrthsefyll rheolaeth Fongolaidd a cheisiodd gefnogaeth gan daleithiau cyfagos. Fodd bynnag, nid oedd gorllewin Xia yn gallu atal y Mongoliaid rhag gwthio'r ffin yn ei hôl. Lansiodd Genghis Khan oresgyniad arall, ac erbyn 1227 roedd y Mongoliaid wedi cymryd rheolaeth lwyr dros y dalaith.

Yn 1211, fe wnaeth Genghis Khan oresgyn Llinach Jin yng ngogledd China. Llwyddodd y Mongoliaid i gipio ardaloedd mawr o diriogaeth ac, yn 1215, fe wnaethant gipio Zhongdu (Beijing erbyn heddiw), sef prifddinas Jin. Bu llawer o ddinistr a marwolaeth yn sgil y goresgyniad. Er bod y Mongoliaid yn rheoli llawer o ogledd China ar ôl hyn, ni chafodd Llinach Jin ei threchu’n llwyr tan 1234, ar ôl marwolaeth Genghis Khan.

Arhosodd Llinach De Song yn annibynnol yn ystod oes Genghis Khan. Ni chafodd China ei oresgyn yn llwyr gan y Mongoliaid tan 1279, a hynny dan arweiniad Kublai Khan, ŵyr Genghis Khan.

Mae llawer o haneswyr o’r farn bod goresgyniad China yn un o’r camau pwysicaf yn nhwf yr Ymerodraeth Fongolaidd, gan ei fod wedi dod â phoblogaethau, adnoddau a thiriogaethau mawr o dan reolaeth Fongolaidd.

Back to top

Ymosodiadau'r Mongoliaid ar ganolbarth Asia

Ymerodraeth gyfoethog a phwerus oedd Ymerodraeth Khwarazm, a oedd yn rheoli’r ardal lle mae canol Asia, Affganistan ac Iran heddiw. Penderfynodd Genghis Khan ymosod ar Ymerodraeth Khwarazm.

Pam?

  • Roedd eisiau cael mwy o dir, cyfoeth a phŵer.
  • Roedd llawer o bobl yn Ymerodraeth Khwarazm yn anghytuno â’u rheolwr, Shah Muhammad II. Roedd rhai llywodraethwyr ac arweinwyr lleol yn anghytuno ag ef ac nid oeddent yn gweithio gyda’i gilydd. Roedd hyn yn golygu bod Ymerodraeth Khwarazm yn wan ac yn agored i niwed.
  • Roedd y Mongoliaid ac Ymerodraeth Khwarazm yn rheoli rhannau pwysig o’r .
  • Roedd rheolaeth dros y Llwybr Sidan yn werthfawr gan ei fod yn helpu gwladwriaethau i ennill cyfoeth o fasnachu. Fe wnaeth y gystadleuaeth dros bwy oedd yn rheoli’r llwybrau hyn gynyddu’r tensiynau rhwng y Mongoliaid ac Ymerodraeth Khwarazm. Roedd y Mongoliaid hefyd yn defnyddio’r llwybrau i symud nwyddau, negeseuon a byddinoedd ar draws eu tiriogaeth.
  • Yn 1218, cafodd carafán masnach Mongolaidd ei chipio yn Otrar a chafodd ei eu lladd. Pan fynnodd Genghis Khan gael iawndal am hyn, gwrthododd Shah Muhammad II a dienyddiodd un o’i lysgenhadon. Roedd Genghis Khan yn teimlo bod y ffordd y cafodd ei lysgennad ei drin yn sarhad arno ef.

Effaith ymosodiadau’r Mongoliaid

  • Yn 1220, cipiodd y Mongoliaid ddinas Bukhara.
  • Fe wnaethon nhw y ddinas a dinistrio llawer o adeiladau.
  • Yn fuan wedyn, fe wnaethant ymosod ar Samarkand, un o ddinasoedd mwyaf a chyfoethocaf yr ymerodraeth.
  • Cwympodd Samarkand hefyd i’r Mongoliaid, gan ddangos na allai’r ymerodraeth atal y Mongoliaid rhag gwthio'r ffin yn ôl.
  • Cafodd degau o filoedd o bobl eu lladd yn ystod goresgyniad y Mongoliaid.
  • Fe wnaeth Shah Muhammad II ffoi rhag byddinoedd y Mongoliaid wrth iddynt wthio'r ffiniau’n ôl ar draws ei ymerodraeth. Bu farw yn yn 1220.

Arweiniodd buddugoliaeth y Mongoliaid at gwymp Ymerodraeth Khwarazm ac ehangodd yr Ymerodraeth Fongolaidd yn sylweddol ar draws canol Asia.

Back to top

Marwolaeth a gwaddol Genghis Khan

Bu farw Genghis Khan yn 1227, ar ôl bod mewn grym am 21 mlynedd. Parhaodd ei ddylanwad i siapio’r byd am genedlaethau.

Gwaddol uniongyrchol

Cyn iddo farw yn 1227, penododd Genghis Khan ei fab Ögodei yn olynydd iddo. Ar ôl marwolaeth Genghis Khan, cafodd Ögodei ei ethol yn ffurfiol fel y Khan Mawr yn 1229. Cafodd y pŵer ei drosglwyddo heb ryfel cartref mawr, gan helpu’r Ymerodraeth Fongolaidd i aros yn unedig yn ystod y cyfnod hwn. Mae llawer o haneswyr o’r farn bod yr olyniaeth wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal sefydlogrwydd o fewn yr ymerodraeth.

Gadawodd ymerodraeth bwerus a threfnus ar ei ôl. Fe wnaeth ei ddiwygiadau milwrol greu byddin ddisgybledig a hynod effeithiol. Helpodd ei gyfreithiau a’i reoliadau, o'r enw’r Yassa, i gynnal trefn ar draws yr ymerodraeth. Roedd yr ymerodraeth yn rheoli ardal enfawr gyda llawer o wahanol bobl, diwylliannau ac adnoddau.

Roedd y sylfeini cryf hyn wedi caniatáu i’r Ymerodraeth Fongolaidd barhau i dyfu ar ôl ei farwolaeth.

Sut mae Genghis Khan wedi cael ei gofio?

Ei - mae gan haneswyr safbwyntiau gwahanol ar Genghis Khan. Mae rhai yn ei weld fel arweinydd effeithiol a lwyddodd i uno llwythau Mongolia ac adeiladu un o’r ymerodraethau mwyaf mewn hanes. Mae eraill yn canolbwyntio ar y dinistr a’r marwolaethau a gafodd eu hachosi gan ei ymgyrchoedd milwrol.

O ganlyniad, mae cryn ddadlau am sut y dylid cofio Genghis Khan am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • Dinistr: Fe wnaeth ei fyddinoedd ddinistrio llawer o ddinasoedd a lladd nifer fawr o bobl yn ystod eu goresgyniadau.
  • Heddwch a sefydlogrwydd: Ar ôl y rhyfeloedd, helpodd i greu ymerodraeth fwy sefydlog lle daeth yn haws masnachu a theithio.
  • Goddefgarwch: Fel arfer, roedd pobl yn yr ymerodraeth yn cael dilyn eu crefyddau a’u harferion eu hunain.
  • Amrywiaeth: Daeth yr Ymerodraeth Fongolaidd â llawer o ddiwylliannau, ieithoedd a phobloedd gwahanol at ei gilydd.

Mae ei etifeddiaeth yn parhau i fod yn un o’r rhai mwyaf dadleuol yn hanes y byd.

Back to top