Natur newidiol plismona yn yr 20fed a’r 21ain ganrif
Strwythur newidiol heddluoedd
Yn 1900 roedd yna 181 o heddluoedd ym Mhrydain. Roedd nifer o’r rhain yn fach ac roedd gan bob un wahanol strwythurau, dulliau a chofnodion. Doedd dim llawer o gysylltiad rhyngddyn nhw.
Heddlu De Cymru yw’r un mwyaf yng Nghymru, a dyma’r seithfed mwyaf yn y DU. Fe’i ffurfiwyd yn 1969 pan unodd Heddlu Morgannwg â Heddlu Dinas Caerdydd, Heddlu Bwrdeistref Merthyr Tydfil a Heddlu Bwrdeistref Abertawe.
Yn 2006 awgrymwyd y dylai pedwar heddlu Cymru uno i ffurfio un heddlu. Nid yw hynny wedi digwydd eto.
Swyddogion yr heddlu
Mae nifer swyddogion yr heddlu wedi cynyddu yn ystod yr 20fed a’r 21ain ganrif. Mae’r heddlu wedi recriwtio swyddogion benywaidd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Sofia Stanley oedd y ferch gyntaf i gael ei recriwtio’n swyddogol gan yr Heddlu Metropolitan yn 1919. Ym mis Ebrill 2017, Cressida Dick oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi fel Comisiynydd Heddlu Metropolitan. Ar y pryd hi oedd y swyddog heddlu uchaf yn y wlad. Ond, mae llai o swyddogion heddlu benywaidd nag o swyddogion gwrywaidd o hyd. Yn ddiweddar mae ymdrechion hefyd wedi cael eu gwneud i gynyddu nifer y swyddogion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Sefydlwyd Coleg Hyfforddi Cenedlaethol yr Heddlu yn 1947.
Pwrpas plismona
Mae pwrpas yr heddlu wedi newid yn yr oes fodern. Ar y cychwyn, rôl yr heddlu oedd:
- patrolio’r strydoedd
- atal troseddwyr
- ymchwilio i droseddau
- arestio rhai dan amheuaeth
Erbyn hyn mae eu rôl a’u pwrpas yn canolbwyntio’n gynyddol ar atal troseddu. Mae gan bob heddlu Swyddogion Atal Troseddu sy’n ymweld ag ysgolion ac yn mynychu cyfarfodydd cymunedol megis PACT.

Mae’r heddlu yn ceisio meithrin mwy o gysylltiadau â’r gymuned, yn arbennig ar ôl i lawer o reiadau yn ystod y 1980au gael eu hanelu at yr heddlu. Mae’r heddlu yn gysylltiedig â chynllun Gwarchod Cymdogaeth a ddechreuwyd yn 1982.
Ond yn ddiweddar mae’r heddlu wedi ymdrechu i gael eu gweld allan o’u ceir ac 'ar y bît', neu ar feiciau. Mae rhai pobl yn credu mai nid dyma’r ffordd orau o ganfod troseddau a dal troseddwyr, ond mae’n rhoi sicrwydd i’r cyhoedd. Mae hyn yn dangos bod un o’u prif bwrpasau wedi aros yr un fath, sef patrolio’r strydoedd.