Cefndir achosion trosedd
Beth yw trosedd?
Mae cyfreithiau yn bodoli er mwyn gwarchod pobl, er mwyn cadw trefn ar ein cymdeithas ac atal niwed. Mae trosedd yn digwydd pan fo unigolyn yn torri cyfraith.
Ond, mae cyfreithiau yn newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Efallai nad yw gweithred oedd yn drosedd yn oes y Tuduriaid neu’r Stiwartiaid yn drosedd heddiw, neu fel arall. Er enghraifft, yn y 18fed ganrif, roedd lladrata pen ffordd yn drosedd.
Mae agweddau tuag at drosedd wedi newid dros amser. Efallai nad yw troseddau yr ystyriwyd yn rhai difrifol iawn yn y gorffennol yn cael eu hystyried felly heddiw. Mae protestio cyhoeddus yn enghraifft o hyn. Yn ystod y 16eg a 17fed ganrif, roedd protestio yn erbyn y frenhiniaeth neu’r llywodraeth yn drosedd ddifrifol. Ond, yn yr oes fodern, mae gan pobl y rhyddid i fynegi barn a dylai pobl allu protestio’n heddychlon.
Cymhellion troseddu
Gall troseddau fod yn rhai sydd wedi’u cynllunio neu'n rhai sydd heb eu cynllunio. Weithiau gall unigolion fod yn gweithredu o dan ddylanwad cyffuriau, neu gall pobl eraill roi pwysau arnyn nhw i droseddu.
Mae pobl yn troseddu am nifer o resymau. Weithiau maen nhw’n cael eu gyrru gan drachwant – eisiau mwy o arian neu eiddo. Gall pobl eraill droseddu achos anobaith neu dlodi enbyd. Mae rhai pobl yn troseddu am eu bod nhw’n gaeth i gyffuriau.
Mae newidiadau cymdeithasol, megis cynnydd mewn poblogaeth a threfoli, wedi arwain at nifer o droseddau drwy gydol hanes.
Gall pobl hefyd droseddu oherwydd eu credoau gwleidyddol neu grefyddol. Er enghraifft, yn y gorffennol roedd rhesymau gwleidyddol dros wrthryfeloedd a chynllwynion yn erbyn y llywodraeth, tra yn yr oes fodern mae rhai pobl yn cyfiawnhau troseddau os ydyn nhw am weld newid gwleidyddol.