Y defnydd o gosb gorfforol gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif
Cyffion a rhigod

Defnyddiwyd y rhain er mwyn cosbi pobl am droseddau megis rhegi neu feddwdod. Byddai troseddwyr yn eistedd neu’n sefyll yn sownd i ffrâm goed a byddai’r bobl leol yn taflu bwyd wedi pydru neu hyd yn oed gerrig atyn nhw.
Defnyddiwyd cyffion a rhigod fel cosb drwy gydol y 16eg a’r 17eg ganrif. Defnyddiwyd llai a llai ohonyn nhw yn ystod y 18fed ganrif. Credir mai’r tro olaf i gyffion gael eu defnyddio yng Nghymru oedd yn 1872 yng Nghastell Newydd Emlyn.
Fflangellu
Roedd fflangellu yn gosb gyffredin yn ystod oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid. Fe’i defnyddiwyd ar gyfer troseddau megis dwyn neu gwrthod mynychu’r eglwys, ac roedd crwydriaid yn cael eu fflangellu’n gyhoeddus.
Roedd fflangellu yn parhau i fod yn ddedfryd y gellid ei basio gan y llysoedd hyd at ganol yr 20fed ganrif, er nid ar gyfer crwydraeth neu beidio â mynychu’r eglwys.
Cosbau cyhoeddus yng Nghymru
Yn ychwanegol at y cosbau a ddefnyddiwyd yn Lloegr, megis cyffion, rhigod, fflangellu a dienyddio, roedd gan Gymru gosbau eraill a weinyddwyd yn gyhoeddus ar ddechrau’r 16eg ganrif.
Roedd Ceffyl Pren yn fath o gosb gorfforol a ddefnyddiwyd mewn rhannau o Gymru wledig, fel arfer ar gyfer dynion a gyhuddwyd o guro eu gwragedd, anffyddlondeb neu wrthod priodi merch yr oedden nhw wedi ei beichiogi. Roedd yn fath o gosb gymunedol ac mae'n debyg y defnyddiwyd y Ceffyl Pren hyd at y 1840au.
Credir bod Terfysgwyr Beca wedi defnyddio’r Ceffyl Pren ar achwynwyr a cheidwaid tollbyrth. Byddai troseddwyr yn cael eu cludo o gwmpas y pentref wedi eu clymu i ffrâm goed neu ysgol. Roedd hynny’n codi cywilydd ac yn aml roedd yn boenus.
Roedd y Scotch Cattle yn grŵp oedd yn gweithredu mewn ardaloedd diwydiannol yn gynnar yn y 19eg ganrif. Roedd gangiau Scotch Cattle yn cosbi’r rhai oedd wedi gweithio yn ystod streic. Byddai’r Scotch Cattle yn gwisgo cuddwisg ac yn ymweld â chartrefi’r blackleggerPerson sy’n gweithio yn lle rhywun sydd ar streic. neu’r rheini oedd yn gweithio yn ystod streic. Bydden nhw’n chwythu cyrn ac yn ysgwyd cadwyni, ac yna’n malu drysau ac yn malu dodrefn yn y tŷ. Petai pobl yn ceisio eu rhwystro, bydden nhw’n cael eu curo.