Achosion o afiechyd a chlefydauColera a theiffoid

Mae rhai achosion clefydau wedi newid dros y blynyddoedd, tra bod eraill wedi bodoli erioed. Mae gwybodaeth feddygol wedi gwella ac mae’r esboniadau am achosion afiechydon a chlefydau wedi newid. Beth fu prif achosion afiechydon a chlefydau dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Colera a theiffoid

Colera

Ymddangosodd colera ym Mhrydain am y tro cyntaf yn 1831, ar long o India. Fel y Pla Du, daeth yma ar y môr ac achosodd ofn tebyg ymysg y bobl.

Mae colera yn haint bacteriol sy’n cael ei achosi gan fwyd neu ddŵr wedi ei heintio. Roedd yn ffynnu yn nhrefi diwydiannol Prydain. Roedd yn achosi chwydu a dolur rhydd a gallai arwain at farwolaeth o fewn oriau.

Dyna pam ei fod mor frawychus. Nid oedd neb yn gwybod beth oedd yn ei achosi. Awgrymwyd amryw o achosion, ee aer gwenwynig, meddwdod a diffyg moesoldeb.

Effeithiwyd yn ddrwg ar Ferthyr gyda 160 o farwolaethau, a 152 o farwolaethau yn Abertawe. Dioddefodd Treffynnon a Dinbych lefel uchel o farwolaethau hefyd.

Digwyddodd epidemig arall yn 1848, a achosodd hyd yn oed fwy o farwolaethau. Yng Nghymru, Merthyr ddioddefodd fwyaf, ond dioddefodd Caerdydd ac Abertawe hefyd a threfi llai megis Caerfyrddin a Chastell Nedd.

Tarodd trydydd epidemig Prydain yn 1854, a bu farw 20,000 o bobl y tro yma. Yn ystod yr epidemig hwn fe wnaeth Dr John Snow y cysylltiad o’r diwedd rhwng colera a chyflenwad dŵr wedi ei heintio. Fe wnaeth adeiladu systemau carthffosiaeth a chyflenwadau dŵr glân yn ystod diwedd y 19eg ganrif leihau’r risg o colera yn fawr iawn.

Darlun stryd orlawn a phlant yn chwarae mewn budreddi. Mae'r testun ar y ddelwedd yn dweud 'A Court for King Cholera'
Image caption,
Cartŵn o 1852 o’r enw "A Court for King Cholera"

Teiffoid

Roedd teiffoid yn haint bacteriol arall oedd yn cael ei ledaenu gan fwyd a dŵr wedi ei heintio. Roedd yn cael ei achosi gan lanweithdra gwael a diffyg glendid, ee peidio golchi dwylo a dillad.

Roedd yn datblygu’n arafach na colera, ond gallai fod yn farwol hefyd. Rhwng y 1830au a’r 1860au lladdwyd nifer o bobl yng Nghymru a Lloegr oherwydd teiffoid, yn arbennig ymysg y bobl oedd yn byw mewn tlodi. Yn 1879, achos o teiffoid laddodd 100 o bobl yn Abertawe.

Yn 1882, bu farw 42 ym Mangor. Llosgwyd dillad a dillad gwely'r meirw, ond ni lwyddodd hynny i roi terfyn ar y teiffoid. Roedd y bwrdd iechyd lleol yn mynnu ei fod wedi cael ei achosi gan ddrewdod. Mewn gwirionedd, yr achos oedd dŵr wedi ei heintio o fferm, oedd yn llifo i’r gronfa ddŵr newydd oedd i fod i gyflenwi dŵr glân i Fangor.

Mae cyfuniad o well glanweithdra a hylendid wedi lleihau’r risg o teiffoid, ond ceir achosion achlysurol o hyd.

Felly, erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd gwybodaeth am beth oedd yn achosi afiechydon a chlefydau wedi gwella’n sylweddol. Roedd gwelliannau o dan Ddeddfau Iechyd y Cyhoedd, brechiadau rhag clefydau megis y frech wen a hylendid personol wedi helpu i ymladd yn erbyn afiechydon a chlefydau. Ond, roedd nifer o broblemau yn parhau.