Achosion o afiechyd a chlefydauEffeithiau diwydiannu

Mae rhai achosion clefydau wedi newid dros y blynyddoedd, tra bod eraill wedi bodoli erioed. Mae gwybodaeth feddygol wedi gwella ac mae’r esboniadau am achosion afiechydon a chlefydau wedi newid. Beth fu prif achosion afiechydon a chlefydau dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Effeithiau diwydiannu

Ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif, digwyddodd y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain. Achosodd hyn i'r boblogaeth dyfu'n gyflym ac fe wnaeth llawer o bobl fudo o ardaloedd gwledig i drefi diwydiannol.

Er bod cynnydd mawr wedi ei wneud o ran diwydiant a thechnoleg, roedd amodau byw a gwaith yn parhau i fod yn wael ac roedden nhw’n un o brif achosion afiechydon a chlefydau.

Roedd trefi diwydiannol fel Merthyr a Chaerdydd yn tyfu’n gyflym heb unrhyw fath o gynllunio, ac roedden nhw’n orlawn. Roedd y llywodraeth yn credu mewn . Roedd hynny’n golygu na chyflwynwyd cynlluniau iechyd cyhoeddus tan hanner olaf y 19eg ganrif. Nid oedd yna unrhyw reoliadau ynghylch safonau sylfaenol ar gyfer tai, carthffosiaeth a chyflenwad dŵr. Yn y slymiau yn y dinasoedd, roedd clefydau megis colera, teiffws a difftheria yn . Gellid cysylltu rhai clefydau â glanweithdra gwael (colera) a thai gwael (TB), tra bod eraill yn cael eu lledaenu gan lau corff (teiffws).

Hefyd, roedd yna glefydau diwydiannol newydd. Yng Nghymru, roedd glowyr a chwarelwyr llechi yn marw o ganlyniad i amrywiaeth o glefydau’r ysgyfaint, ee silicosis a niwmoconiosis, tra bod gweithwyr copr yn Abertawe yn dioddef â TB a chyflyrau bronciol. Roedd cyflogwyr yn dadlau, yn gwbl anghywir, bod anadlu mwg copr nid yn unig yn ddiogel ond ei fod yn beth iach.

Gydag amodau gwaith peryglus, a dim llawer o sylw’n cael ei roi i iechyd a diogelwch, roedd damweiniau diwydiannol yn lladd llawer neu’n eu hanafu am oes.

Roedd yna nifer o resymau pam fod cymaint o glefydau mewn trefi diwydiannol.

  • Roedd y strydoedd yn gul, yn aml wedi eu hadeiladu mewn cyrtiau, gydag ychydig iawn o awyr iach neu olau’r haul ynddyn nhw. Roedd teuluoedd yn rhannu tai, felly roedd tai gorlawn yn gyffredin.
  • Nid oedd gan dai ddŵr glân, ac roedd teuluoedd yn rhannu peipiau dŵr oedd yn aml yn sychu yn ystod hafau poeth.
  • Roedd teuluoedd hefyd yn rhannu toiledau. Roedd y rhain yn aml yn gorlifo i’r strydoedd neu i’r ffynhonnau ble’r oedd pobl yn cael eu dŵr.
  • Nid oedd gwasanaeth casglu sbwriel, felly roedd twmpathau sbwriel yn tyfu gan ddenu llygod mawr.
  • Roedd mynwentydd yn orlawn, yn arbennig yn ystod epidemig, ac nid oedd cyrff yn cael eu claddu’n ddigon dwfn.
  • Roedd y tai yn , oherwydd yr amcan oedd gwneud arian i’r landlordiaid yn hytrach na darparu llety cynnes ac iach i’r gweithwyr.
  • Roedd tai yn llaith y tu mewn ac yn anodd i’w cynhesu. Yn aml roedd toeon a fframiau ffenestri yn gollwng dŵr.
  • Roedd yr anheddau seler yn llaith iawn ac weithiau'n gorlifo â glaw neu garthffosiaeth.
  • Roedd deiet y gweithwyr yn dal yn wael oherwydd nad oedden nhw’n gallu fforddio bwyd ffres.
  • Nid oedd pobl yn ymolchi nac yn golchi eu dillad yn aml, felly roedden nhw’n llawn llau a chwain.

Tai slym oes Fictoria

Hen engrafiad yn dangos pobl yn edrych yn anniben mewn stryd dywyll yn y 19eg ganrif
Image caption,
Mae’r rhain yn dai mewn cyrtiau sy’n nodweddiadol o’r tai mewn nifer o drefi a dinasoedd diwydiannol