Beth yw’r Cenhedloedd Unedig?
Mudiad rhyngwladol yw’r Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd yn 1945. Mae’r gwledydd sy’n aelodau wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau heddwch a diogelwch byd-eang ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn ninas Efrog Newydd.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gyfrifol am gydweithio rhyngwladol ac, ers ei sefydlu, mae wedi gosod nifer o nodau i sicrhau cydraddoldeb ar draws y byd.
Cynhadledd San Francisco a Siarter y Cenhedloedd Unedig
Rhwng Ebrill a Mehefin 1945, wrth i’r Ail Ryfel Byd ddirwyn i ben, daeth cynrychiolwyr o 50 o wledydd at ei gilydd yn Nhŷ Opera San Francisco i lunio y Cenhedloedd Unedig.
Fe sefydlodd y siarter brif bwrpas, strwythur llywodraethu a fframwaith cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Ar 26 Mehefin 1945, cafodd y siarter ei harwyddo gan gynrychiolwyr y 50 o wledydd. Ddaeth hi ddim i rym tan 24 Hydref 1945 pan gadarnhawyd telerau'r siarter. Dyma’r dyddiad pan fyddwn yn dathlu Diwrnod y Cenhedloedd Unedig.
Aelodau’r Cenhedloedd Unedig
Roedd yna 51 o aelodau pan gafodd y Cenhedloedd Unedig ei sefydlu, ar ôl i Wlad Pwyl gael caniatâd i ymuno ym mis Hydref 1945. Ers hynny mae wedi tyfu'n sylweddol, ac erbyn 2021 roedd 193 o aelod-wladwriaethau.
Mae gan gyfrifoldeb am heddwch a diogelwch rhyngwladol. Mae 15 o aelodau ac mae gan bump o’r rhain seddi parhaol:
- Y Deyrnas Unedig
- Unol Daleithiau America
- China
- Ffrainc
- Rwsia (a gymerodd sedd yr Undeb Sofietaidd yn 1991)

Nodau’r Cenhedloedd Unedig
Ers ei sefydlu, mae’r Cenhedloedd Unedig wastad wedi gosod targedau a nodau i’w aelodau eu bodloni a’u cynnal.
Ymhlith y nodau mwyaf diweddar a gafodd eu gosod gan y Cenhedloedd Unedig yw’r Cyrchnodau Datblygu Cynaliadwy. Cyflwynwyd y rhain yn 2015 gyda’r bwriad o ddiogelu nodau hirdymor y Cenhedloedd Unedig o heddwch a diogelwch, ond gyda phwyslais ychwanegol ar fod yn fwy cynaliadwy a sicrhau bod gwledydd yn meddwl o ddifrif am fynd i'r afael â materion fel newid hinsawdd.
Dyma’r 17 o Gyrchnodau Datblygu Cynaliadwy:
- Dim tlodi
- Dim newyn
- Iechyd a llesiant da
- Addysg o ansawdd
- Cydraddoldeb rhywiol
- Dŵr glân a glanweithdra
- Ynni fforddiadwy a glân
- Gwaith teilwng a thwf economaidd
- Diwydiant, arloesi a seilwaith
- Llai o anghydraddoldeb
- Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy
- Defnyddio a chynhyrchu’n gyfrifol
- Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
- Bywyd o dan y dŵr
- Bywyd ar y tir
- Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn
- Partneriaethau
Ffynhonnell: Cyrchnodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (gwefan Saesneg)
Projectau Cadw Heddwch y Cenhedloedd Unedig - De Sudan
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cynnal dros 70 o ymgyrchoedd cadw heddwch ers 1948.
Cafodd De Sudan annibyniaeth oddi wrth Weriniaeth Sudan yn 2011. Dyma’r wlad fwyaf newydd yn y Cenhedloedd Unedig (yn 2021) a hi yw aelod rhif 193. Ers ei sefydlu, mae'r wlad wedi dioddef rhyfeloedd cartref a gwrthdaro diddiwedd.
Ar 8 Gorffennaf 2011, penderfynodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig fod y sefyllfa yn Ne Sudan yn fygythiad i heddwch rhyngwladol ac i ddiogelwch yn y rhanbarth. Sefydlwyd Cenhadaeth y Cenhedloedd Unedig yn Ne Sudan (UNMISS) fel ymgyrch i gynnal heddwch ac i liniaru’r gwrthdaro o fewn y wlad.
Fe wnaeth UNMISS bennu meysydd allweddol i fynd i'r afael â nhw wrth gynorthwyo De Sudan, yn cynnwys:
- sicrhau bod gan y wlad y gefnogaeth sydd angen arni ar gyfer heddwch a'i bod yn gallu gweithio ar adeiladu gwladwriaeth a datblygu economaidd yn y tymor hwy
- cefnogi’r llywodraeth gyda'i chyfrifoldebau dros fynd i'r afael â gwrthdaro ac amddiffyn ei phobl
- cefnogi’r llywodraeth wrth iddi ddatblygu ei gallu i ddarparu diogelwch, sefydlu rheolaeth y gyfraith; a chryfhau diogelwch a chyfiawnder o fewn y wlad
Ni fyddai’r Cenhedloedd Unedig yn gallu cynnal yr ymgyrchoedd hyn heb help ei haelodau. Mae nifer o wledydd ledled y byd wedi cyfrannu milwyr ac aelodau o’r heddlu i helpu i gynnal heddwch yn Ne Sudan. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn dod o wledydd fel Rwanda, Nepal, Ethiopia ac India.

Fe wnaeth llofnodi cytundeb heddwch newydd yn 2018, a sefydlu llywodraeth o undod cenedlaethol ostwng lefel y trais gwleidyddol yn y wlad. Yn raddol cafodd Safleoedd Amddiffyn y Cenhedloedd Unedig, a adeiladwyd i amddiffyn y rheini oedd mewn perygl yn ystod y gwrthdaro mwyaf dwys, eu troi’n wersylloedd mwy confensiynol i bobl oedd wedi'u dadleoli.

More on Gwrthdaro a heddwch
Find out more by working through a topic
- count2 of 2
