Gwrthdaro dros adnoddau
Nid yw gwrthdaro yn beth newydd ac mae gwahanol fathau o wrthdaro wedi digwydd dros y canrifoedd. Mae’r rhain yn cynnwys y Goncwest Normanaidd a Brwydr Hastings yn 1066, ac yn fwy diweddar, rhyfeloedd fel yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) neu’r Rhyfel Oer(1947-1991).
Mae gwrthdaro'n gallu digwydd o ganlyniad i anghydfod ynglŷn â defnydd tir neu adnoddau, dros awdurdod gwleidyddol a hawliau tiriogaethol. Mae crefydd a delfrydau hefyd yn gallu effeithio ar sut mae gwahanol wledydd yn rhyngweithio â'i gilydd a gall arwain at wrthdaro.
Gwrthdaro yng Nghymru
Yn 1957, cafodd mesur preifat a noddwyd gan Gyngor Dinas Lerpwl ei roi gerbron Senedd San Steffan i greu cronfa ddŵr yng nghwm Tryweryn, ger y Bala yng Ngwynedd. Roedd hyn i ateb yr angen cynyddol am ddŵr ar gyfer cartrefi a diwydiant yn Lerpwl a’r Wirral. Roedd yn golygu y byddai pentref Capel Celyn yn cael ei foddi.
Roedd Cyngor Dinas Lerpwl yn gallu cael awdurdod drwy Ddeddf Seneddol. Roedd hyn yn golygu bod y datblygiad yn gallu osgoi unrhyw ymchwiliad cynllunio yng Nghymru lle byddai'n bosib cyflwyno unrhyw ddadleuon yn erbyn y cynnig.
Sbardunodd boddi Tryweryn wrthdaro rhwng y Cymry a Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd sawl protest heddychlon a gorymdeithiodd cannoedd o bobl, gan gynnwys trigolion Capel Celyn, drwy strydoedd Lerpwl. Ar 10 Chwefror 1963, fe wnaeth y grŵp milwriaethus Mudiad Amddiffyn Cymru blannu bom a difrodwyd offer trydanol ar safle adeiladu’r argae mewn ymgais i atal boddi’r cwm.
Roedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwrthwynebu’r cynllun a phleidleisiodd 27 o 36 Aelodau Seneddol Cymru yn erbyn ail ddarlleniad y mesur heb yr un ohonyn nhw’n ei gefnogi. Er hynny, cafodd y cwm ei foddi yn 1965.
Collwyd y pentref a’i adeiladau, gan gynnwys swydda’r post, yr ysgol a’r capel, gyda ffermydd yn cael eu boddi hefyd. Cafodd y trigolion lleol Cymraeg eu hiaith yn bennaf eu dadleoli ac fe gollodd rhai eu bywoliaeth.
Effaith gwrthdaro
Mae gwrthdaro yn achosi nifer o wahanol broblemau, ac fel arfer, mae’r rhain yn cael eu teimlo fwyaf mewn gwledydd sy'n datblygu.
Gall gwrthdaro sbarduno amrywiaeth o faterion eraill fel:
terfysgaeth - pan mae grwpiau yn ceisio dylanwadu ar lywodraethau drwy weithredoedd treisgar
rhyfel cartref - pan mae grwpiau sy'n gwrthwynebu ei gilydd yn defnyddio trais arfog i ennill rheolaeth ar wlad
rhyfel - pan fydd trais arfog yn cael ei ddefnyddio gan un wlad yn erbyn gwlad arall am bŵer a rheolaeth
Mae'r problemau hyn yn gallu achosi dioddefaint eang oherwydd bod pobl yn cael eu dal yn y gwrthdaro ac mewn perygl o gael eu niweidio gan grwpiau arfog. Mae eraill yn cael eu gorfodi i fudo i wledydd eraill, yn aml fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches er mwyn dod o hyd i ddiogelwch.
Gall gwrthdaro hefyd gael effaith niweidiol ar allu gwlad i ddatblygu pan fydd arweinwyr yn gwario arian ar arfau yn hytrach na seilwaith newydd, addysg a gofal iechyd ar gyfer ei phobl. Mae rhyfel a therfysgaeth yn aml yn gallu arwain at lanweithdra a hylendid gwael, lledaenu clefydau a newyn.
Datrys gwrthdaro
Mae troi cyfnod o wrthdaro yn gyfnod heb wrthdaro yn cael ei alw’n ddatrys gwrthdaro. Mae'n bosib cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
cyfaddawdu – y ddau grŵp sy’n gwrthdaro yn dod i gytundeb a fydd yn aml yn golygu bod y ddwy ochr yn ildo mewn rhai ffyrdd
dadl ddemocrataidd - sefydliadau yn rhoi cyfle i grwpiau sy’n gwrthwynebu ei gilydd i drafod eu barn am y sefyllfa gyfredol ac am gynlluniau ar gyfer symud ymlaen, bwrw pleidlais a chadw at benderfyniad y mwyafrif. Cyn belled â bod pawb yn cytuno ac yn cadw at y penderfyniad cyffredinol, mae modd osgoi gwrthdaro.
Mae nifer o sefydliadau yn helpu i leihau effeithiau gwrthdaro drwy ddarparu adnoddau, gofal iechyd ac addysg. Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd yn canolbwyntio ar ymdrechion adeiladu heddwch ar draws y byd drwy gryfhau gallu cenedlaethol i reoli gwrthdaro.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ganolog i ymdrechion rhyngwladol i gadw heddwch mewn gwledydd fel Cambodia, Affganistan, Haiti a Sudan. Mae’n ceisio sicrhau heddwch drwy gynnig cymorth rhyngwladol ac ymyrraeth fel:
- monitro cadoediad
- helpu i ddychwelyd ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli
- helpu i drefnu a monitro etholiadau i ddewis llywodraethau newydd
More on Gwrthdaro a heddwch
Find out more by working through a topic
- count1 of 2
