Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Cymuned glos Deiniolen

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin. Mae'n Dad balch i ddwy ferch, ac yn dewis 4 can gan gynnwys 'Sa Neb Fel Ti gan Eden. Yn y darn yma mae'n sôn am ei fagwraeth ym mhentref Deiniolen a'i gariad at ei Nain.

Programme Website
More episodes