Cymuned glos Deiniolen
Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin.
Mae'n Dad balch i ddwy ferch, ac yn dewis 4 can gan gynnwys 'Sa Neb Fel Ti gan Eden.
Yn y darn yma mae'n sôn am ei fagwraeth ym mhentref Deiniolen a'i gariad at ei Nain.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Emyr Gibson
![]()
Gadael teulu Rownd a Rownd fel galar
Hyd: 02:33





