Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cerdd yr Wythnos - Iwan Thomas (Tafarn Y Vale)

Y Talwrn

Available for over a year

Ymosodiad Seibr Wel Moses Annwyl, yffarn dân – mae rhywbeth mowr o’i le - Hen haciwr dwl ‘di ffindio’i ffordd i’r system, dros y we… Mae mainframe yr Eisteddfod wedi sgramblo’n rhacs trwy’r trwch, A’r cyfan wedi cawlio - mae’r siop di mynd trwy’r hwch! Mae’r bots yn sarnu’r cwbwl, pob cynllun sydd ar chwâl, A’r Garreg Las di symud dros y Teifi i Benrhiw-pâl. Ymhlith y cystadlaethau nawr mae awdl talcen slip, Ac unawd i bensiynwyr sydd yn disgwyl glin neu hip. Mae bownsars diogelwch wedi bwco i’r gymanfa, Ac headline act Maes B Nos Iau yw Ysgol Sul Bethania; A diawl, rhyw ffordd neu’i gilydd, mae’n ymddangos erbyn hyn Bod neb ‘di cofio entro Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn. Holl gwrw ‘Williams-Parry’, mae ‘di ganslo do fy ngwir i, Bydd syched Arab ar bob un - fel sîn o’r Kalahari! A dyma’r peth rhyfedda (fe goelith neb o hyn), Mae’r Babell Lên ‘di gwerthu mâs…i ddarlith Ceri Wyn! Rhyw ail go wael am limric bydd gwobr Eurig-fardd… A hwrdd o Ddyffryn Aeron bydd yn hawlio’r gadair hardd! O Betsan Moses annwyl, maddeua’r haciwr ffôl; Ond na’r cyfle gore gês ‘riôd i ennill unrhyw stôl! Iwan Thomas

Programme Website
More episodes