Main content

Cerdd yr Wythnos - Iwan Thomas (Tafarn Y Vale)

Cân ysgafn Iwan Thomas (Tafarn Y Vale) ar y testun 'Ymosodiad Seibr' yw Cerdd yr Wythnos, o'r ornest rhwng Tafarn Y Vale a'r Glêr

Ymosodiad Seibr

Wel Moses Annwyl, yffarn dân – mae rhywbeth mowr o’i le -

Hen haciwr dwl ‘di ffindio’i ffordd i’r system, dros y we…

Mae mainframe yr Eisteddfod wedi sgramblo’n rhacs trwy’r trwch,

A’r cyfan wedi cawlio - mae’r siop di mynd trwy’r hwch!

Mae’r bots yn sarnu’r cwbwl, pob cynllun sydd ar chwâl,

A’r Garreg Las di symud dros y Teifi i Benrhiw-pâl.

Ymhlith y cystadlaethau nawr mae awdl talcen slip,

Ac unawd i bensiynwyr sydd yn disgwyl glin neu hip.

Mae bownsars diogelwch wedi bwco i’r gymanfa,

Ac headline act Maes B Nos Iau yw Ysgol Sul Bethania;

A diawl, rhyw ffordd neu’i gilydd, mae’n ymddangos erbyn hyn

Bod neb ‘di cofio entro Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn.

Holl gwrw ‘Williams-Parry’, mae ‘di ganslo do fy ngwir i,

Bydd syched Arab ar bob un - fel sîn o’r Kalahari!

A dyma’r peth rhyfedda (fe goelith neb o hyn),

Mae’r Babell Lên ‘di gwerthu mâs…i ddarlith Ceri Wyn!

Rhyw ail go wael am limric bydd gwobr Eurig-fardd…

A hwrdd o Ddyffryn Aeron bydd yn hawlio’r gadair hardd!

O Betsan Moses annwyl, maddeua’r haciwr ffôl;

Ond na’r cyfle gore gês ‘riôd i ennill unrhyw stôl!

Iwan Thomas

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau