Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,05 Jul 2026,27 mins

Available for 28 days

Roedd ‘na gyffro pan gyhoeddwyd bod y Super Furry Animals yn chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol 2026 - y tro cynta’ ers 30 mlynedd Ond nôl yn 1996, ymysg y cynnwrf, roedd ‘na ddadlau. Ar ôl recordio sawl cân Gymraeg, roedd y Furries newydd ryddhau eu halbym cynta - efo pob trac yn Saesneg. Ar y Maes yn Llandeilo yn 1996, chwibanu’r caneuon wnaeth prif leisydd y band Gruff Rhys. Ac mewn gig gyda’r nos fe gafodd y dorf gopi am ddim o’u sengl newydd - (Nid) Hon Yw’r Gân Sy’n Mynd i Achub yr Iaith. Hwn oedd eu hymateb i’r feirniadaeth arnyn nhw a grwpiau newydd eraill fel Catatonia, oedd hefyd efo'u gwreiddiau yn ddwfn yn y sin Gymraeg - ond hefyd wedi troi i’r Saesneg. Mewn meysydd eraill roedd Cymry Cymraeg yn gwneud eu marc yn y byd Saesneg - ond heb feirniadaeth debyg. I ddeall y cefndir a’r hanes, y cerddor Griff Lynch sy'n mynd yn ôl i ddechrau'r sin roc Gymraeg i archwilio’r berthynas gydag adfer yr iaith. Mae'r gyfres hefyd yn gofyn pa effaith gafodd penderfyniad y bandiau ar y sin roc Gymraeg ac ar artistiaid sy’n creu cerddoriaeth heddiw.

Programme Website
More episodes