Rhaglen 1: 1960au-1996
Y berthynas rhwng y sin roc a’r iaith o’r 60au i Cŵl Cymru a grwpiau’n troi i’r Saesneg. The relationship between Welsh pop and the language from the 60s to Cŵl Cymru.
Roedd ‘na gyffro pan gyhoeddwyd bod y Super Furry Animals yn chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol 2026 - y tro cynta’ ers 30 mlynedd
Ond nôl yn 1996, ymysg y cynnwrf, roedd ‘na ddadlau.
Ar ôl recordio sawl cân Gymraeg, roedd y Furries newydd ryddhau eu halbym cynta - efo pob trac yn Saesneg.
Ar y Maes yn Llandeilo yn 1996, chwibanu’r caneuon wnaeth prif leisydd y band Gruff Rhys.
Ac mewn gig gyda’r nos fe gafodd y dorf gopi am ddim o’u sengl newydd - (Nid) Hon Yw’r Gân Sy’n Mynd i Achub yr Iaith.
Hwn oedd eu hymateb i’r feirniadaeth arnyn nhw a grwpiau newydd eraill fel Catatonia, oedd hefyd efo'u gwreiddiau yn ddwfn yn y sin Gymraeg - ond hefyd wedi troi i’r Saesneg.
Mewn meysydd eraill roedd Cymry Cymraeg yn gwneud eu marc yn y byd Saesneg - ond heb feirniadaeth debyg.
I ddeall y cefndir a’r hanes, y cerddor Griff Lynch sy'n mynd yn ôl i ddechrau'r sin roc Gymraeg i archwilio’r berthynas gydag adfer yr iaith. Mae'r gyfres hefyd yn gofyn pa effaith gafodd penderfyniad y bandiau ar y sin roc Gymraeg ac ar artistiaid sy’n creu cerddoriaeth heddiw.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Dafydd Iwan
Mae'n Wlad I Mi
- Cynnar.
- Sain.
- 20.
![]()
Meic Stevens
Y Brawd Houdini
- Disgwyl Rhywbeth Gwell I Ddod CD2.
- Sain.
- 1.
![]()
Brân
Y Gwylwyr
- Welsh Rare Beat.
- SAIN.
- 2.
![]()
Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
Diwrnod I'r Brenin
- Neb Yn Deilwng 1977 - 1997 Goreuon Cyfrol CD1.
- SAIN.
- 18.
![]()
Tecwyn Ifan
Y Dref Wen
- Llwybrau Gwyn: Y Casgliad Llawn CD1.
- Sain.
- 1.
![]()
Bando
Shampŵ
- Goreuon Caryl.
- Sain.
- 1.
![]()
Maffia Mr Huws
Da Ni'm Yn Rhan
- Goreuon Maffia Mr Huws.
- Sain.
- 2.
![]()
Tynal Tywyll
Mae'r Telyn Wedi Torri
- Lle Dwi Isho Bod + ....
- Crai.
- 18.
![]()
Y Cyrff
Pethau Achlysurol
- Mae Ddoe Yn Ddoe.
- ANKST.
- 19.
![]()
Jess
Julia Gitâr
- Hyfryd I Fod Yn Fyw!.
- FFLACH.
- 8.
![]()
Catatonia
Gyda Gwên
- The Crai EPs 1993/94.
- ANKST.
- 5.
![]()
Super Furry Animals
Blerwytirhwng?
- Songbook (The Singles, Vol. 1).
- BMG Rights Management (UK) Ltd.
- 21.
![]()
Catatonia
For Tinkerbell
![]()
Super Furry Animals
(Nid) Hon Yw'r Gân Sy'n Mynd I Achub Yr Iaith
- Mwng.
- Das Koolies under exclusive license to Domino Recording.
- 15.
Darllediad
- Ddoe16:00BBC Radio Cymru

