Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Cyfuniad o lwc, gwaith caled, a lager.
Record cyntaf i ti brynu?
Doug E Fresh - The Show
Gig gorau i ti fynychu a pham?
Ice T - Undeb Caerdydd 2002 - 'mond 300 a bobl, a nes i siglo ei law.
Dy arwr/arwres?
Freddie Starr
Be sy'n gwneud i ti grio?
Deffro.
Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
Yn flynyddol, Mawrth y cynta os yn bosib.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
Nes i ollwng rhech mewn priodas y ddiweddar, yn ystod araith tad y briodferch. O'n i'n meddwl taw un tawedog ydoedd, ond yn anffodus roedd gan fy sffincter syniad (a synau) gwahanol.
Dy gas gân neu grwp?
Unrhywbeth R&B
Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Disco ysgol, yn 12 mlwydd oed. Ddim am enwi y person, am rhesymau cyfreithiol. Bu bron iddi chwydu yn fy ngheg.
Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Mr Urdd a Mickey Rourke
Dy 'crush' cyntaf?
Janet Ellis
Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
Gêm o poker yn erbyn 13 'street performer' yn Covent Garden. Enillais £1500.
Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Chomp. Rhad a blasus.
Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Beth bynnag dwi'n gwisgo heddiw.
Dathliad gorau erioed?
Gwlychu pen fy mhlentyn yn tafarn fy ffrind. Lock in a barodd am 24 awr.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
