Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Llaeth Llanfair, O'r Mart i'r Maes, a diogelwch ar y fferm

Sara Elan Jones sy'n sgwrsio gyda Laura Jones sy'n creu hufen iâ gelato ar ei fferm ger Llanbedr-Pont-Steffan. Laura Jones talks about producing gelato on the farm near Lampeter.

Sara Elan Jones sy'n sgwrsio gyda Laura Jones o fferm Llanfair Fach ger Llanbedr-Pont-Steffan, sydd wedi arallgyfeirio yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynhyrchu hufen iâ gelato o laeth y fferm.

Hefyd, Meirion Pugh a Glyn Jarrett sy'n sgwrsio am daith gerdded 'O'r Mart i'r Maes' - taith sy'n mynd â nhw o fart Gaerwen ar Ynys Môn i faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, gyda'r arian yn mynd at achos da.

Wrth i Wythnos Diogelwch Fferm agosau, Huw Williams o Lanbedr-Dyffryn-Clwyd sy'n rhannu'r profiad o gael damwain beic modur ar y fferm yn ddiweddar, a'r hyn y mae wedi'i ddysgu o'r profiad wrth iddo wella.

Y newyddion diweddaraf o'r sector cig coch gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru, a Swyddog Materion Gwledig CFFI Cymru, Angharad Davies sy'n pori drwy'r straeon gwledig yn y wasg.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Heddiw07:00

Darllediadau

  • Heddiw07:00
  • Heddiw15:30