Main content

Gwobr gan y BVA i filfeddyg o Aberystwyth

Sharon King sy'n sôn am ennill gwobr fentora gan Gymdeithas Brydeinig y Milfeddygon. Sharon King from Aberystwyth talks about recently winning the BVA Veterinary Mentor Award.

Y milfeddyg o Aberystwyth, Sharon King sy'n sôn am ennill gwobr fentora gan Gymdeithas Brydeinig y Milfeddygon yn ddiweddar.

Hefyd, Dilwyn Pierce sy'n edrych ymlaen at Sioe Geffylau a Chŵn Llannefydd sy'n cael ei chynnal y penwythnos nesaf.

Clwb Ffermwyr Ifanc y Mis yw CFFI Abergwaun yn Sir Benfro. Tomos Evans a Rhys Colnet sy'n sgwrsio am rai o brif rinweddau'r clwb.

Y gyfreithwraig Awel Mai Hughes sy'n crynhoi'r newyddion diweddaraf o fyd y cyfreithiau a'r polisiau amaethyddol.

A Lois Cernyw sy'n adolygu'r wasg amaethyddol yr wythnos hon.

23 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul Diwethaf15:30

Darllediadau

  • Dydd Sul Diwethaf07:00
  • Dydd Sul Diwethaf15:30