Main content

Cystadleuaeth Gair Coll 2026

Mae cystadleuaeth Gair Coll Radio Cymru 2 yn agor ar y 25ain o Fehefin 2026 am 7.30am.

Cyfle i ennill seinyddion clyfar dros yr haf ar Radio Cymru 2. I ddathlu gwyliau'r haf, bob dydd Iau yn cychwyn ar ddydd Iau y 25ain o Fehefin, hyd at y 23ain o Orffennaf, bydd cyfle i ennill seinydd clyfar drwy wrando ar Radio Cymru 2 a dyfalu'r gair coll o ganeuon poblogaidd.

Cyflwynwyr yr orsaf, Lisa Gwilym a Rhydian Bowen Phillips fydd wrth y llyw yn arwain y gystadleuaeth.

I ymgeisio, bydd angen i wrandawyr ddilyn y linc ymagan ddyfalu'r gair coll o gân boblogaidd a fydd yn cael ei chwarae ar raglenni BBC Radio Cymru 2 ar y dyddiadau isod rhwng 7.30am a’r amser cau sef 12.30pmar yr un diwrnod.

Bydd cyfle i ymgeisio ar y dyddiadau yma:

• 25/06/26
• 02/07/26
• 09/07/26
• 16/07/26
• 23/07/26

I ddarganfod mwy, gwrandewch ar BBC Radio Cymru 2 yn fyw ar y radio neu ar BBC Sounds. Mae modd hefyd dilyn y cyffro ar gyfrifon cymdeithasol yr orsaf.