'Lot o ffermwyr hŷn mewn lle unig iawn a daeth cyfle i helpu'

Fe aeth Ceinwen Parry o elusen Tir Dewi ati i greu clwb i ffermwyr hŷn i roi cyfleoedd cymdeithasu i'r rhai sy'n "gweld neb o ddydd i ddydd".

Drwy sefydlu'r grŵp, dywedodd mai'r nod ydi cael ffermwyr at ei gilydd "i gyfathrebu, i siarad ac os oes gan rywun broblem, i siarad efo rywun".

Dros y tair blynedd a hanner diwethaf mae elusen Tir Dewi wedi derbyn dros £334,000 gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi prosiectau gwahanol, gan gynnwys y clwb ffermwyr.