Cynghori pobl i gau ffenestri yn sgil mwg o dân sy'n effeithio'r A470

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 3, Tân Abercynon,
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn ardal Abercynon, Rhondda Cynon Taf yn cael eu cynghori i gau eu ffenestri oherwydd y mwg yn dilyn tân mawr yn yr ardal.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod sawl criw wedi cael eu galw i'r ardal a bod rhaid defnyddio cyfarpar arbenigol er mwyn mynd i'r afael â'r fflamau.

Mae adeilad diwydiannol, Tŷ Menter wedi cael ei ddifrodi'n sylweddol ac yn ôl y gwasanaeth tân mae'r mwg yn effeithio ar ran o'r A470.

Mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal er mwyn caniatáu i'r gwasanaethau brys ymateb yn brydlon.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.